Gorffwys i'r Enaid: 7 Diwrnod i AdnewydduSampl

CYMRYD STOC
Ein pwynt ymwybyddiaeth nodedig cyntaf ar ôl y diwrnod cyntaf yw, pa mor anodd yw hi i fod yn llonydd ac yn dawel, hyd yn oed am gyfnod byr. Gall y ffaith ein bod yn ei ffeindio hi'n anodd stopio a gorffwys wneud i ni deimlo yn fethiant. I’r gwrthwyneb ddylai hi fod. Pan dŷn ni’n ceisio stopio a sylweddoli na allwn ni fod yn llonydd, mae'n dangos i ni'r lleoedd ble dŷn ni angen yr Ysbryd. Mae hon yn ddawn wych oherwydd mae'n dileu'r dirgelwch pam dŷn ni’n teimlo'n flinedig ac yn anfodlon. Pan dŷn ni’n methu gorffwys, fe allwn ni fod yn dweud na all Duw wneud ei waith heb ein help ni.
Heddiw, neilluta ychydig o amser i gymryd stoc o'r lleoedd hynny sy'n ymddangos fel pe baen nhw mewn stad o aflonyddwch. Byddwn yn gallu gofyn yn well am adferiad a chyfanrwydd pan fyddwn yn gallu nodi'n benodol y lleoedd sydd angen eu gwella. Gweddia, a gofynna i Dduw ddangos i ti'r lleoedd yn dy galon a’th fywyd ble gallet ti fod yn fethiant. Rhestra rai o'r pethau nodedig a gododd yn dy amser tawel. Rho ganiatâd i dy hun dderbyn yr ardaloedd sydd allan o falans. Rho ganiatâd i dy hun arafu a chymryd sylw.
Rhybudd: Gall fod temtasiwn i leihau neu gyfiawnhau'r lleoedd hynny sydd allan o falans neu sydd angen gorffwys yn dy fywyd. Bydd yn gwbl agored i niwed ac yn onest wrth i ti gymryd rhan yn y broses hon. Gwna nodyn o bopeth sy'n dod i'r meddwl, waeth pa mor anodd bynnag yw hynny i sylweddoli amdanat ti dy hun.
Dim tasg hawdd yw cerdded y ddaear hon a dod o hyd i heddwch. Y tu mewn i ni, mae'n ymddangos bod rhywbeth yn mynd yn groes i union rythm pethau, a dŷn byth a hefyd yn aflonydd, yn anfodlon, yn rhwystredig ac yn boenus. Dŷn ni mor llawn o chwant fel ei bod yn anodd dod i stop cyfan gwbwl.
RONALD ROLHEISER
Rhaid inni fod yn barod i ganiatáu i Dduw ymyrryd â ni.
DIETRICH BONHEFFER
Am y Cynllun hwn

Gyda chymaint o gyfrifoldebau a llu o bethau’n cystadlu i dynnu ein sylw, mae gormod ohonon ni wedi magu arferion drwg o orffwys. O ganlyniad, dŷn ni'n llosgi ein hunain allan, gan stryffaglu a thynnu yn erbyn bwriad Duw ar gyfer ein bywydau. Yn y cynllun hwn, cawn ni ein galw i’r gwaith bwriadol o archwilio ein hunain, gan ein helpu i symud tuag at fywyd pwrpasol a chynaliadwy gyda Iesu.
More