Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Beibl i Bawb: Cenhadaeth Duw i NiSampl

The Bible for All: God's Mission for Us

DYDD 7 O 7

“Dydy mywyd i’n dda i ddim oni bai mod i’n gwneud y gwaith mae’r Arglwydd Iesu wedi’i roi i mi – sef dweud y newyddion da am gariad a haelioni Duw wrth bobl.” (Actau 20:24b beibl.net)

Rhoddodd Duw genhadaeth ti, a dim ond ti all gyflawni'r genhadaeth honno. Does dim byd yn bwysicach na'r genhadaeth hon.

Nid priodi, ariannu dy ymddeoliad, teithio, na chael llawer o hwyl yw'r gwaith pwysicaf yn dy fywyd. Y peth pwysicaf y gellii fyth ei wneud yw cyflawni cenhadaeth Duw ar gyfer dy fywyd. Os na wnei di, mae'r Beibl yn dweud bod dy fywyd yn wastraff.

Mae Actau 20:24 yn dweud, “Dydy mywyd i’n dda i ddim oni bai mod i’n gwneud y gwaith mae’r Arglwydd Iesu wedi’i roi i mi – sef dweud y newyddion da am gariad a haelioni Duw wrth bobl.” (BCN).

Bu farw Iesu ar y groes i ddod â gras i ti ac i roi cenhadaeth i ti. Rhan o’th genhadaeth yw dweud wrth bobl eraill am newyddion da gras Duw. Wnes di ddod i ffydd yng Nghrist oherwydd bod rhywun wedi dweud wrthot ti am Iesu. Nawr pwy wyt ti'n mynd i ddweud wrtho?

Bu farw Iesu dros bob person yn dy gymuned ac o gwmpas y byd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn byw eu bywydau fel pe na baen nhw’n gwbl ymwybodol bod Iesu wedi marw drostyn nhw. Os yw'r bobl hynny'n byw ac yn marw heb erioed wybod beth wnaeth Iesu drostyn nhw, yna roedd ei farwolaeth yn wastraff o ran y person hwnnw.

Gan fod Duw yn gofalu am bob person ar y blaned, rhaid i ni hefyd. Gan fod Duw wedi dangos gras i ni pan wnaeth ein hachub ni, rhaid i ni ddweud wrth bobl eraill am ras rhyfeddol Duw. Rhaid inni ddweud wrthyn nhw y gallant gael perthynas â Duw a chartref tragwyddol yn y nefoedd.

Dyma ein cenhadaeth ni!

Ystyria…

- Pam mae cenhadaeth Duw ar gyfer dy fywyd mor bwysig?

-Beth sy'n dy atal rhag rhannu'r Efengyl ag eraill?

- Nid dweud wrth eraill am ras Duw yw unig genhadaeth dy fywyd. Beth wyt ti’n feddwl ydy gweddill dy genhadaeth i ti?

Diolch am ddarllen y gyfres ymroddiad Gorffen y Dasg! Dos i finishingthetask.com i ddysgu mwy am sut elli di gymryd dy gam nesaf a bod yn rhan o'r mudiad tuag at y bwriad o weld cyfieithu'r Beibl yn dechrau ym mhob iaith, strategaeth ar gyfer efengylu i bob person, ac eglwys i bob 1000 o bobl ledled y byd erbyn 2033, penblwydd y Comisiwn Mawr yn 2000 oed.

Ysgrythur

Am y Cynllun hwn

The Bible for All: God's Mission for Us

Mwynha ymroddiad ysbrydoledig 7 diwrnod y Parchedig Rick Warren ar yr hyn y mae'r Beibl yn ei ddweud am dy le yn stori'r Comisiwn Mawr.

More

Hoffem ddiolch i YWAM Kona am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, dos i: http://www.finishingthetask.com/