Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Beibl i Bawb: Cenhadaeth Duw i NiSampl

The Bible for All: God's Mission for Us

DYDD 6 O 7

“Wedyn bydd pawb drwy’r byd yn gwybod sut un wyt ti; bydd y gwledydd i gyd yn gwybod dy fod ti’n gallu achub.” Salm 67:2 (beibl.net)

Mae Duw yn Dduw byd-eang. Mae wedi gofalu am y byd i gyd erioed. “Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint” (Ioan 3:16). O'r dechrau mae wedi bod eisiau aelodau teulu o bob cenedl a greodd. Mae'r Beibl yn dweud, " (Actau 17:26).

Mae Duw wedi gwneud hyn i gyd, fel y byddwn ni'n chwilio amdano ac yn estyn allan a dod o hyd iddo.

Mae llawer o'r byd eisoes yn meddwl yn fyd-eang. Mae'r cwmnїau a busnesau cydweithredol a mwyaf i gyd yn ryngwladol. Mae ein bywydau ni’n fwyfwy cysylltiedig â bywydau gwledydd eraill wrth i ni rannu ffasiynau, adloniant, cerddoriaeth, chwaraeon, a hyd yn oed bwydydd cyflym. Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o'r dillad rwyt ti'n eu gwisgo, a llawer o'r hyn rwyt yn ei fwyta heddiw wedi'i gynhyrchu mewn gwlad arall.

Dywedodd Iesu, “Ond bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb – yn Jerwsalem a Jwdea, yn Samaria, a drwy’r byd i gyd.” (Actau 1:8).

Beth yw tyst? Syml. Tyst yw rhywun sy'n adrodd ei stori neu ei stori hi. Mae tyst yn dweud: "Dyma beth welais i. Dyma beth glywais i. Dyma beth ddigwyddodd i mi."Dydy neb arall yn gsallu adrodd dy stori. Does dim angen unrhyw hyfforddiant arbennig arnot ti i wneud. Dweda wrth bobl beth mae Iesu wedi'i wneud yn dy fywyd.

Pan ddywedodd Iesu y byddai ei ddisgyblion yn dystion iddo yn Jerwsalem, Jwdea, Samaria a chyrrau’r byd, sut roedd yn bwriadu i hynny fod yn berthnasol i ni? Yr ateb yw, Roedd yn gosod cynllun o ddylanwad cynyddol. Mae ei ddilynwyr i estyn allan at eu cymuned (Jerwsalem), at eu gwlad (Jwdea), at ddiwylliannau eraill (Samaria) ac at genhedloedd eraill (ym mhobman yn y byd). Sylwa ei fod wedi dweud “a” nid “yna” – Jerwsalem A Jwdea A Samaria A pherrau’r ddaear. Mae ein comisiwn yn gydamserol, nid yn olynol.

Rydym wedi ein galw i fod ar genhadaeth i'r pedwar grŵp mewn rhyw ffordd. Sut fyddet ti'n adnabod y grwpiau hyn yn dy gymuned? Pa genhedloedd wyt ti'n credu bod Duw wedi dy alw i'w gwasanaethu mewn rhyw ffordd?

Am y Cynllun hwn

The Bible for All: God's Mission for Us

Mwynha ymroddiad ysbrydoledig 7 diwrnod y Parchedig Rick Warren ar yr hyn y mae'r Beibl yn ei ddweud am dy le yn stori'r Comisiwn Mawr.

More

Hoffem ddiolch i YWAM Kona am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, dos i: http://www.finishingthetask.com/