Y Beibl i Bawb: Cenhadaeth Duw i NiSampl

"Edrychwch ar y cenhedloedd, a cewch sioc go iawn. Mae rhywbeth ar fin digwydd fyddwch chi ddim yn ei gredu, petai rhywun yn dweud wrthoch chi!" (Habacuc 1:5 beibl.net).
Mae rhain yn ddyddiau cyffrous i fod yn fyw. Mae mwy o Gristnogion ar y ddaear ar hyn o bryd nag erioed o'r blaen. Roedd Paul yn iawn: "Mae'r un Efengyl a ddaeth atoch chi yn mynd allan i bob cwr o'r byd. Mae'n dwyn ffrwyth ym mhobman trwy newid bywydau, yn union fel y newidiodd eich bywydau chi," (Colosiaid 1:5 -5b-6 beibl.net).
Un ffordd o ddatblygu meddwl byd-eang yw darllen a gwylio'r newyddion gyda "Llygaid y Comisiwn Mawr". Lle bynnag y bydd newid neu wrthdaro, gelli di fod yn sicr y bydd Duw yn ei ddefnyddio i ddod â phobl ato. Mae pobl fwyaf derbyniol i Dduw pan fyddan nhw dan densiwn neu mewn cyfnod o drawsnewid. Gan fod cyfradd y newid yn cynyddu yn ein byd, mae mwy o bobl yn agored i glywed y newyddion da nawr nag erioed o'r blaen.
Fel y dwedodd Duw wrth Habacuc, "Edrychwch ar y cenhedloedd, a cewch sioc go iawn. Mae rhywbeth ar fin digwydd fyddwch chi ddim yn ei gredu, petai rhywun yn dweud wrthoch chi!" (Habacuc 1:5 beibl.net).
Dydy hi ddim erioed wedi bod mor haws, newn hanes, cyflawni dy gomisiwn i fynd i'r byd i gyd. Nid pellter, cost na chludiant yw'r rhwystrau mawr mwyach. Y rhwystr mwyaf yw'r ffordd dŷn ni'n meddwl. Rhaid i'n persbectif a'n hagweddau newid - fel ein bod yn datblygu llygaid y Comisiwn Mawr.
Ffordd dda o ddechrau meddwl yn fyd-eang yw dechrau gweddïo dros wledydd penodol. Tyrd o hyd i glôb neu fap a gweddïa dros genhedloedd wrth eu henw. Mae'r Beibl yn dweud,"Dim ond i ti ofyn, cei etifeddu’r cenhedloedd. Bydd dy ystad di’n ymestyn i ben draw’r byd." (Salm 2:8).
Am beth ddylet ti weddïo? Mae'r Beibl yn dweud wrthym am weddïo am gyfleoedd i dystio, am ddewrder i siarad, am y rhai a fydd yn credu, am ledaeniad cyflym y neges, ac am fwy o weithwyr. Mae gweddi yn ein helpu i wneud yr hyn y mae Duw yn ein galw i'w wneud, ac mae'n dy wneud yn bartner gydag eraill ledled y byd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mwynha ymroddiad ysbrydoledig 7 diwrnod y Parchedig Rick Warren ar yr hyn y mae'r Beibl yn ei ddweud am dy le yn stori'r Comisiwn Mawr.
More