Y Beibl i Bawb: Cenhadaeth Duw i NiSampl

“Dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy'r byd i gyd.’” Marc 16:15 (beibl.net)
Y Comisiwn Mawr yw dy gomisiwn di, ac mae hynny'n golygu bod gen ti ddewis hollbwysig i'w wneud: Byddi naill ai'n Gristion disglair neu'n Gristion bydol.
Mae Cristnogion bydol yn edrych at Dduw yn bennaf am gyflawniad personol. Maen nhw wedi'u hachub, ond yn hunan-ganolog. Maen nhw’n mynychu cyngherddau a seminarau cyfoethogi, ond anaml y byddet ti'n dod o hyd iddyn nhw mewn cynhadledd cenhadaeth oherwydd does dim diddordeb ganddyn nhw. Mae eu gweddïau'n canolbwyntio ar eu hanghenion, eu bendithion a'u hapusrwydd eu hunain. Mae'n ffydd “fi yn gyntaf”: Sut gall Duw wneud fy mywyd yn fwy cyfforddus? Maen nhw am ddefnyddio Duw at eu dibenion eu hunain - yn lle cael eu defnyddio at ei ddibenion e.
Mae Cristion disglair, mewn cyferbyniad, yn gwybod eu bod wedi'u hachub i wasanaethu a'u gwneud ar gyfer cenhadaeth. Maen nhwn yn awyddus i dderbyn aseiniad personol ac yn gyffrous am y fraint o gael eu defnyddio gan Dduw. Cristnogion disglair yw'r unig bobl gwbl fyw ar y blaned. Mae eu llawenydd, eu hyder a'u brwdfrydedd yn heintus oherwydd eu bod yn gwybod eu bod yn gwneud gwahaniaeth. Maen nhw’n deffro bob bore gan ddisgwyl i Dduw weithio drwyddyn nhw mewn ffyrdd ffres.
Pa fath o Gristion wyt ti eisiau bod?
Mae Duw yn dy wahodd i gymryd rhan yn yr achos gorau, mwyaf, mwyaf amrywiol a mwyaf arwyddocaol mewn hanes—ei deyrnas. Hanes yw ei stori. Mae'n adeiladu ei deulu am dragwyddoldeb. Does dim byd yn bwysicach, a does dim byd yn para cyhyd.
O lyfr Datguddiad dŷn ni’n gwybod y bydd cenhadaeth fyd-eang Duw yn cael ei chyflawni. Ryw ddydd, y Cenhadaeth Mawr fydd y Cyflawniad Mawr. Yn y nefoedd bydd torf enfawr o bobl "o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith" (Datguddiad 7:9 beibl.net) un diwrnod yn sefyll gerbron Iesu Grist i'w addoli. Bydd cymryd rhan fel Cristion disglair yn caniatáu i ti brofi ychydig o sut beth fydd y nefoedd ymlaen llaw.
Pan ddwedodd Iesu wrth ei ddilynwyr "ewch i bobman yn y byd, a dwedwch yr Efengyl wrth bawb," cafodd y grŵp bach hwnnw o ddisgyblion tlawd o'r Dwyrain Canol roedd y grŵp bach hwnnw o ddisgyblion tlawd o'r Dwyrain Canol wedi'u llethu. A oedden nhw i fod i gerdded neu farchogaeth anifeiliaid araf? Dyna'r cyfan oedd ganddyn nhw ar gyfer cludiant, a doedd dim unrhyw llongau mawr i groesi'r cefnforoedd. Roedd rhwystrau corfforol go iawn i fynd i'r byd i gyd.
Nawr, gyda'r rhyngrwyd, mae'r byd wedi dod hyd yn oed yn llai. Yn ogystal â ffonau a ffacsys, gall unrhyw grediniwr sydd â mynediad i'r rhyngrwyd gyfathrebu'n bersonol â phobl ym mron pob gwlad ar y ddaear. Mae'r byd i gyd ar flaen dy fysedd. Dydy hi erioed wedi bod mor haws i ti gyflawni dy comisiwn di i fynd i'r byd i gyd. Bellach, nid pellter, cost na chludiant yw’r rhwysrau mwyaf. Y Comisiwn Mawr yw dy Comisiwn di, a gwneud dy rhan di yw'r gyfrinach i fyw bywyd o arwyddocâd.
Asesa dy hun -- Yn seiliedig ar ble rwyt ti heddiw, pa mor hyderus allet ti ateb y cwestiynau canlynol?
Mae'n ymddangos bod fy ymddygiadau, fy meddyliau a fy gweddïau'n dangos fy mod i eisiau cael fy nefnyddio at ddibenion Duw, nid dim ond fy rhai fy hun.
Dw i'n gwybod fy mod i wedi cael fy ngwneud ar gyfer cenhadaeth yn y byd hwn.
Dw i'n gwneud gwahaniaeth yn y byd hwn.
Dw i wedi gwneud y Comisiwn Mawr yn gomisiwn i mi.
Gweddïa am feysydd lle rwyt ti'n teimlo dy hun yn cael trafferth gydag amheuaeth a gofynna i Dduw roi ei galon e i ti dros y rhai coll.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mwynha ymroddiad ysbrydoledig 7 diwrnod y Parchedig Rick Warren ar yr hyn y mae'r Beibl yn ei ddweud am dy le yn stori'r Comisiwn Mawr.
More