Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Beibl i Bawb: Cenhadaeth Duw i NiSampl

The Bible for All: God's Mission for Us

DYDD 5 O 7

“Dw i yn eu hanfon nhw allan i'r byd yn union fel wnest ti fy anfon i.” (Ioan 17:18 beibl.net)

Os wyt ti’n ddilynwr i Iesu Grist, mae Duw wedi rhoi cenhadaeth i ti yn y byd hwn. Dwyt ti ddim yma i lenwi gofod yn unig; Dwyt ti ddim yma i ymdrechu i gyflawni dy amcanion personol dy hun yn unig.

Mae gen ti aseiniad gan Dduw ei hun. Unwaith y byddi di yn y teulu, mae dy bywyd yn newid. Mae gen ti reswm newydd dros fyw. Dyw eich bywyd ddim ymwneud â chi mwyach; mae’n ymwneud â chenhadaeth Duw.

Ac mae dy genhadaeth yn ffitio i mewn i genhadaeth Duw ar gyfer hanes cyfan. Creodd Duw bopeth yn y bydysawd oherwydd ei fod eisiau teulu. Doedd dim angen y Ddaear arno fe. Doedd dim angen y planedau eraill arno fe. Doedd dim angen y sêr arno fe. Creodd e y cyfan oherwydd ei fod yn gwybod y byddai rhai ohonon ni yn dewis bod yn rhan o'i deulu o'n gwirfodd.

Y genhadaeth a roddodd Duw i Iesu y mae bellach yn ei rhoi i Gorff Crist - yr Eglwys. Mae eisiau i ni helpu i gael pobl eraill i mewn i'w deulu. Dwedodd Iesu hi fel hyn: “Dw i yn eu hanfon nhw allan i'r byd yn union fel wnest ti fy anfon i.”(Ioan 17:18 beibl.net).

Unwaith y byddwn ni’n adnabod Iesu, mae'n rhaid i ni fynd! Rhaid i ni ddweud wrth ein ffrindiau a'n teuluoedd amdano. Ond allwn ni ddim stopio yn y fan yna. Erioed mae Duw wedi gwneud unrhyw un nad yw am iddo gael ei achub. Mae E'n caru pawb - ar draws y byd i gyd.

Dyna gynllun Duw ar gyfer y byd. Dyna ei genhadaeth E i chi. Mae eisiau i bawb ar y Ddaear ei Adnabod E. Ac mae eisiau dy defnyddio di I’w weld hynny'n digwydd. Ddwedodd Duw ddim hynny wrth genhadon neu weinidogion yn unig. Os wyt ti yn ei deulu, rhoddodd ei genhadaeth e i ti!

Ystyria…

- Ydy hi'n bosibl bod angen i ti newid y ffordd rwyt ti’n byw er mwyn dilyn cynllun Duw? Os felly, sut olwg fyddai ar hynny yn dy fywyd?

- Sut allet ti fod ar genhadaeth gyda Duw ledled y byd, hyd yn oed os yw Duw wedi dy alw di i fyw yn dy dref enedigol?

- Oes gen ti ofnau neu amheuon pan fyddi di'n meddwl am y genhadaeth y mae Duw wedi'i rhoi i ti? Cymer ychydig amser y funud hon i weddïo, a gofyna i Dduw roi dewrder, dirnadaeth a gras i ti wrth i ti ddibynnu ar ei nerth e i gwblhau dy dasg.

Ysgrythur

Am y Cynllun hwn

The Bible for All: God's Mission for Us

Mwynha ymroddiad ysbrydoledig 7 diwrnod y Parchedig Rick Warren ar yr hyn y mae'r Beibl yn ei ddweud am dy le yn stori'r Comisiwn Mawr.

More

Hoffem ddiolch i YWAM Kona am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, dos i: http://www.finishingthetask.com/