Tsephanïah 2
2
PEN. II.—
1Ymgesglwch a deuwch ynghyd:#ymchwiliwch a chwiliwch. cydgasgler a chydrwymer chwi. LXX. casgler a rhwymer chwi. Syr.
Y genedl ag na chywilyddia.#anhiraethadwy. anysgadwy LXX. na ddysgodd. Syr. angharadwy. Vulg.
2Cyn i’r arfaeth#i beth a sefydlwyd. cyn eich bod fel blodeuyn yn myned heibio. LXX. fel ûs yn myned. Syr. cyn yr esgoro gorchymyn ar ddydd yn myned heibio fel llwch. Vulg. esgor;
Fel ûs y mae y dydd yn myned heibio:
Cyn dyfod #tra eto heb ddyfod. arnoch angerdd digofaint yr Arglwydd.
3Ceisiwch yr Arglwydd holl rai llariaidd y tir;
Y rhai a wnaethant#gwnewch farn. LXX. a gwnewch. Syr. a wnaethoch. Vulg. ei farn Ef:
Ceisiwch uniondeb, ceisiwch addfwynder;
Fe allai#fel y cuddier chwi. LXX. os yn rhyw fodd y. Vulg. y diogelir chwi. Syr. y cuddir chwi;
Yn nydd digofaint yr Arglwydd.
4Canys bydd Gaza wedi ei gadael;#ei ysglyfaethu. LXX. ei dinystrio. Vulg.
Ac Ashcelon yn anrhaith:#yn ddiflaniad. LXX. yn ddiffaethwch. Vulg.
Ashdod, ar haner dydd y gyrant#a yrir. a deflr ymaith. LXX. a arweiniant. Syr. hi allan;
Ac Ecron#a’r ddiwreiddfa a. a ddiwreiddir.
5Gwae breswylwyr glàn y môr,
Cenedl y Cerethiaid;#dyfodiaid o Gretiaid. LXX. cenedl y dinystrwyr. Vulg. pobl Creta. Syr.
Y mae gair yr Arglwydd i’ch erbyn,
A Chanaan#C. a gwlad. Syr. gwlad y Philistiaid;
Mi a’th ddyfethaf fel na byddo cyfaneddwr.#o breswyliad. LXX.
6A bydd glàn y môr#a bydd Creta yn rhandir deadelloedd. LXX. a Chreta yn borfan i. Syr. yn borfanau,
Yn fythod bugeiliaid ac yn gorlanau defaid.
7A hi a fydd yn rhandir#a bydd rhandir y môr i. LXX. Syr. i weddill tŷ Judah;
Arnynt#ynddynt. Syr. y porant:
Yn nhai Ashcelon y gorweddant yn yr hwyr;
Canys yr Arglwydd eu Duw a ymwel â hwynt,
Ac a ddychwel eu caethiwed hwynt.
8Clywais waradwydd Moab;
A difenwadau#dyrnodiau. LXX. cableddau. Syr., Vulg. meibion Ammon:
A’r rhai y gwaradwyddasant fy mhobl;
Ac ymfawrygasant yn erbyn eu terfyn#fy nherfynau I. LXX. hwynt.
9Am hyny, byw wyf I,
Medd Arglwydd y lluoedd,#yr Arglwydd Hollalluog. Syr. Duw Israel,
Fel Sodom y bydd Moab,
A meibion Ammon fel Gomorah;
Yn dyfle drain#difrodaf eu planigion. Syr. yn sychle. Vulg. a chloddfa#crugiau. Vulg. halen, ac yn ddifrod#a bydded yn. Syr. hyd byth:
Gweddill fy mhobl a’u difroda hwynt;
A gweddill fy nghenedl a’u meddiana hwynt.
10Hyn a ddaw iddynt am eu balchder:
Canys gwaradwyddasant ac ymfawrygasant;
Yn erbyn pobl Arglwydd y lluoedd.#Hollalluog. LXX., Syr.
11Ofnadwy#ymddengys yr. LXX. amlygwyd yr. Syr. yw yr Arglwydd yn eu herbyn:
Canys efe a ddygodd gulni#deneuodd, ddinystriodd. ddystrywia. LXX., Syr. deneua. Vulg. ar holl dduwiau#freninoedd. Syr. y tir:
A holl wledydd#ynysoedd. LXX., Syr., Vulg. y cenedloedd;#y môroedd. Syr.
A ymgrymant#a’i haddolant. iddo bob un o’i lle.#o’i le. Hebr.
12Hefyd chwithau Ethiopiaid;
Lladdedigion#clwyfedigion. LXX. fy nghleddyf#cleddyf. Syr. ydych.#ydynt hwy. Hebr.
13Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd:
Ac a ddyfetha Ashur:#yr Assuriaid, LXX.
Ac a esyd Ninefeh#yr un deg neu olygus. Vulg. yn ddifrod;
Yn sech#yn ddifrod diddwfr. LXX. ac yn unigedd. Syr. yn anhyffordd. Vulg. fel yr anialwch.
14A deadelloedd o bob rhywogaeth fyw#pob anifail cenedl. pob math byw. holl wylltfilod y ddaear. LXX. y cenedloedd. Vulg. y bobloedd. Syr. a orweddant yn ei chanol;
Pelican hefyd, draenog hefyd;
A letyant yn nghapiau ei cholofnau:
Swn#anifeiliaid a leisiant yn ei ffosydd. LXX. llais un yn cânu yn y. Vulg. a chwery yn y ffenestr,
Anghyfanedd-dra#a brain yn ei phyrth. LXX. brân yn ei gorsin. Vulg. a fydd ar y trothwy;
Canys dynoethodd y gwaith cedrwydd.#canys meinhaf ei nerth hi. LXX., Vulg. ei gwreiddyn a fathrwyd. Syr.
15Hon yw y ddinas lawen,#watwarllyd. LXX. ogoneddus. Vulg. gadarn. Syr.
Y sydd yn trigo yn ddiogel;#mewn hyder. Vulg.
Y sydd yn dywedyd yn ei chalon;
Myfi sydd a neb ond#eto fel fi. Syr. myfi:
Pa fodd yr aeth yn anghyfanedd,
Yn orweddfa i’r anifail;
Pob un a el heibio#a el trwyddi. LXX. arni. drosti. Syr. a hwtia#chwibana. LXX, Syr., Vulg. arni,
Efe a ysgwyd ei law.#ei ddwylaw. LXX. a arwydda a’i law ac a ddywed, gwae y ddinas, &c. Syr.
Đang chọn:
Tsephanïah 2: PBJD
Tô màu
Sao chép
So sánh
Chia sẻ
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.