Tsephanïah 3
3
PEN. III.—
1Gwae yr wrthryfelgar#amlwg. LXX. gyffrous. Vulg. enwog. Syr. a halogedig:#warededig. LXX, Syr., Vulg.
Y ddinas orthrymus.#y golomen. Vulg. y gol. ni wrandawodd. LXX.
2Ni wrandawodd ar lef;
Ni chymerodd addysg:
Yn yr Arglwydd nid ymddiriedodd;
At ei Duw ni nesäodd.
3Ei thywysogion o’i mewn;
Sydd yn#fel. LXX, Vulg. Syr. llewod rhuol:
Ei barnwyr yn fleiddiau hwyr;#Arabia. LXX.
Ni weddillant erbyn y boreu.
4Ei phroffwydi ydynt feilchion;#drahaus. drythyll. Syr. a yrir gan yr ysbryd. LXX. ynfydion. Vulg.
Yn wŷr twyllodrus:#dirmygwyr. LXX.
Ei hoffeiriaid a halogasant yr hyn oedd gysegredig;#santeiddrwydd, cysegr.
Treisiasant#annuwiol ydynt at y. LXX. anghyfiawn y gwnaethant yn erbyn y. Vulg. gyfraith.
5Yr Arglwydd sydd uniawn yn ei chanol;
Ni wna anwiredd:
Bob boreu#yn y boreu, yn y boreu. Hebr. y rhydd ei farn yn oleu,
Ni pheidia;#ni bu guddiedig. LXX. ni chuddir hi. Vulg.
Ond anwiredd ni fedr gywilyddio.#nid adnabu anghyfiawnder mewn gofyn—pan ofynid. LXX.
6Torais ymaith genedloedd,#feilchion. LXX.
Dinystriwyd eu tyrau#conglau hwynt. LXX., Vulg. hwynt;
Diffaethais eu heolydd hwynt rhag a dramwyai:
Anghyfaneddwyd eu dinasoedd hwynt,
Rhag bod dyn, rhag bod preswylydd.
7Dywedais,
Yn ddiau ti a’m hofni,#ofnwch, derbyniwch. LXX. derbyni addysg;
Fel na thorer#ac ni thorir ymaith. ni dderfydd. Vulg. ymaith ei thrigfa;
Y cwbl ag a osodais#yr ymddielais arni. LXX. o herwydd y cwbl yn mha rai yr ymwelais â hi. Vulg. arni:
Er hyny codasant yn foreu,
Llygrasant eu holl weithredoedd.#ddeiliad. LXX. meddyliau. Vulg.
8Gan hyny dysgwyliwch#dysgwyl. LXX., Vulg. wrthyf fi,
Medd yr Arglwydd;
At y dydd y cyfodwyf i’r ysglyfaeth:#at dystiolaeth. LXX, Syr. amser a fydd. Vulg. hyd byth. Rosenmuller.
Canys fy marn I sydd i gynull#at gynullfaoedd. LXX. cenedloedd,
I gasglu o honof deyrnasoedd,#i dderbyn breninoedd. LXX. i ddynesu teyrn. Syr.
I dywallt#a thywalltaf. Vulg. arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint;
Canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl wlad.
9O herwydd yna yr adferaf#newidiaf. i bobloedd wefus bur:#dafod at ei chenedl hi. LXX. wefus ddewisol. Syr., Vulg.
I alw o bawb o honynt ar enw yr Arglwydd;
I’w wasanaethu ef âg un ysgwydd.#yn gytun. dan un iau. LXX, Syr.
10O’r tu hwnt i afonydd Ethiopia:#Cush. Hebr., Syr.
Fy ngweddïwyr y rhai a wasgarwyd genyf;#merch fy ngwasgarfa. Hebr. plant fy ngwasgaredigion. Vulg. dysgwyliaf yn mysg fy ngwasgaredigion. LXX.
A ddygant fy offrwm.#aberthau i mi yn y dydd hwnw. Syr. offrwm i mi.
11Yn y dydd hwnw ni’th#ni’ch cywil. Syr. gywilyddir am dy holl weithredoedd;#twyllofaint. Syr. dychymygion. Vulg. arferion. LXX.
Trwy y rhai y pechaist i’m herbyn;
Canys yna y symudaf o’th blith,
Y rhai a lawenychant yn dy ddyrchafiad;#dy orfoleddwyr beilchion. dirmygoedd dy falchder. LXX. siaradwyr mawrion dy falch. Vulg. cadernid dy falch. Syr.
Ac ni chwanegi#chwanegwch. Syr. ymddyrchafu mwyach yn#ar. LXX, Syr. fy mynydd santaidd.
12A gweddillaf#adawaf yn weddill. yn dy ganol di,
Bobl ostyngedig a thlodion;#addfwyn a gostyngedig. LXX. dlodion a gost. Syr. dlod. ac angenogion. Vulg.
Ac yn enw yr Arglwydd y gobeithiant.#a gweddill Israel a ofnant rhag enw yr. LXX.
13Gweddill Israel ni wnant anwiredd,
Ac ni ddywedant gelwydd;#oferedd. LXX.
Ac ni cheir yn eu genau hwynt dafod twyllodrus:
Canys hwy a borant ac a orweddant,
Ac ni bydd a’u tarfo.#niweidio. Syr.
14Cân,#llawenha. LXX. mola. Syr., Vulg. ferch Sïon;
Crechwena,#gwaedda, ferch Jerusalem. LXX. Israel:
Llawenycha a gorfoledda â’r holl galon;
Oh, ferch Jerusalem.
15Trodd yr Arglwydd ymaith dy farnau;#anghyfiawnderau. LXX.
Dinystriodd#symudodd. Syr. trodd ymaith. Vulg. gwaredodd di o law dy. LXX. dinystr—bren. Isr. dy el. yr Arg. sydd yn dy. dy elynion:
Yr Arglwydd brenin Israel sydd yn dy ganol;
Ni weli#welwch (fenywod). Syr. ddrwg mwyach.
16Yn y dydd hwnw;
Y dywedir#y dywed yr Argl. LXX. wrth Jerusalem,
Nac ofna;#cymer galon, Sïon. LXX. nac ofnwch. Syr.
Sïon, na laesed#na laeser. LXX, Vulg., Syr. dy ddwylaw.
17Yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di yn gadarn,#y galluog a’th achub. LXX. yn gadarn ac yn waredwr, efe a’th wna yn hyfryd mewn llawenydd. Syr.
Efe a achub:
Efe a lawenycha o’th blegid#efe a ddwg arnat lawenydd. LXX. gan lawenydd,
Efe a ymlonydda#a’th adnewydda di yn ei. LXX, Syr. a ddystawa. Vulg. yn ei gariad;
Efe a orfoledda o’th blegid gan lawenydd.#fel ar ddydd gwyl. LXX., Syr.
18Casglaf#cesglais—a chasglaf. LXX. y rhai o honot sydd brudd am y gymanfa:#dy rai drylliedig. LXX. dygaf ymaith oddiwrthyt y rhai fu yn siarad gwawd am danat. Syr. rhwystrwyr cymanfa a symudais oddiwrthyt. Dathe.
Gwae am ddwyn arni waradwydd.
19Wele fi yn gwneuthur#ddrygaf, ddifethaf. laddaf. Vulg. ynot er dy fwyn. LXX. yn yr amser hwnw i’th holl gystuddwyr:
Ac a achubaf y gloff,#yr hon a wasgwyd. LXX.
A’r darfedig a gasglaf:
Ac a’u gosodaf yn foliant ac yn enw;#enwog yn yr holl ddaear. LXX.
Yn holl dir eu gwarth.#a hwy a gywilyddiant yn yr amser. LXX.
20Yn yr amser hwnw y dygaf chwi;
Ac yn yr amser y casglaf#y’ch derbyniaf. LXX. chwi:
Y rhoddaf chwi yn enw ac yn foliant,#yn enwog ac yn ymffrost. LXX.
Yn mysg holl bobloedd y ddaear;
Pan ddychwelwyf eich caethiwed chwi o flaen eich llygaid,#er syndod i chwi eich hunain. Dathe.
Medd yr Arglwydd.
Đang chọn:
Tsephanïah 3: PBJD
Tô màu
Sao chép
So sánh
Chia sẻ
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.