Obadiah 1
1
GWELEDIGAETH OBADIAH.
1Fel hyn#y pethau hyn. LXX., Vulg. y dywedodd yr Arglwydd Iôr wrth. Edom,
Clywsom#clywais. LXX. son oddiwrth yr Arglwydd,
A chenad a anfonwyd#anfonodd. LXX., Vulg. yn mysg y cenedloedd:
Codwch a chyfodwn i ryfel yn ei herbyn hi.
2Wele bychan y’th wnaethum yn mysg y cenedloedd:
Dirmygedig iawn wyt ti.
3Balchder dy galon a’th dwyllodd#gododd. LXX., Vulg. di;
Yr hwn wyt yn holltau#clogwyni. ogofau y creigiau. LXX. craig yn uchel ei drigfa:
Yn dywedyd yn ei galon;
Pwy a’m tyn i lawr i’r ddaear.
4Ped ymddyrchefit megys yr eryr;
A gosod dy nyth rhwng sêr:
Oddiyno y’th ddisgynwn,
Medd yr Arglwydd.
5Os lladron a ddaethant atat,
Os ysbeilwyr nos;
Pa fodd y’th anrheithiwyd;#y’th daflwyd ymaith. LXX. y dystawesit. Vulg. y tewaist. Syr.
Onid eu digon a ladratent:
Os cynullwyr grawnwin a ddaethant atat;
Oni adawent loffion#gangen. LXX., Vulg. yn weddill.
6Pa fodd y chwiliwyd Esau;
Y ceisiwyd ei guddfëydd ef.
7Hyd y terfyn y’th yrodd yr holl wŷr yr oedd cyfamod i ti â hwynt;
Twyllasant#gwrthsafasant. LXX. di, buont drech na thi:
Gwŷr dy heddwch,#trech na thi fy gwyr dy heddwch. Vulg. dy fara,#y rhai a fwytant gyda thi. Vulg. a osodasant fagl#gynllwynion. LXX., Syr., Vulg. danat:
Nid oes ddeall ynddo.#ynddynt. LXX.
8Onid#yn y dydd. LXX., Syr. yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd:
Y dinystriaf ddoethion allan o Edom;
A deall allan o fynydd Esau.
9A dryllir#dychrynir. LXX. ofnant. Vulg. dy gedyrn di Teman:#o’r deheu. Vulg.
Fel y torer ymaith bob gŵr o fynydd Esau.
10Am lofruddiaeth, am draha ar dy frawd Jacob,
Y’th orchuddia gwarth:
A thi a dorir ymaith byth.
11Yn y dydd y sefaist ar gyfer;#ei gyfer. Vulg.
Yn y dydd y cludodd estroniaid ei olud#lu, ei filwyr ef. Vulg. ef:
Ac y daeth dyeithriaid i’w byrth ef,
A bwrw o honynt goelbren#goelbrenau. LXX. ar Jerusalem;
Tithau hefyd oeddit megys un o honynt.
12Ond nac edrych ar ddydd dy frawd,
Ar ddydd ei adfyd;#ddyeithrwch. dyeithriaid. LXX. Syr. ymdaith. Vulg.
Ac na lawenycha o achos plant Judah,
Yn nydd eu dinystr hwynt:
Ac na leda dy safn ar ddydd cyfyngder.
13Na ddos o fewn porth fy mhobl,
Yn nydd eu haflwydd;
Ac nac edrych di chwaith ar eu#ei. Hebr. hadfyd,
Yn nydd eu haflwydd;
Ac nac estynwch#estynwch, wragedd. law ar eu golud,
Yn nydd eu haflwydd.
14Ac na saf ar y groesffordd;
I dori ymaith eu rhai diangol:
Ac nac argaea ar eu ffoaduriaid,
Yn nydd cyfyngder.
15Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genedloedd:
Fel y gwnaethost y gwneir i ti;
Dy bwyth a ddychwel ar dy ben.
16Canys megys yr yfasoch#yfaist. LXX. ar fy mynydd santaidd,
Yr ŷf yr holl genedloedd yn wastad:#win. LXX.
A hwy a yfant ac a lyncant;#ddisgynant. LXX.
A byddant fel pe na buasent.
17Ond ar fynydd Sion y bydd ymwared,
A bydd yn santaidd:#cysegr.
A thŷ Jacob a etifeddant eu hetifeddiaethau.#y rhai a’u etifeddasant hwy. LXX., Syr., Vulg.
18A bydd tŷ Jacob yn dân,
A thŷ Joseph yn fflam,
A thŷ Esau yn sofl;#gwinwydd. Syr.
A chyneuant ynddynt a llosgant hwynt:
Ac ni bydd a weddillir#cludyad tân. LXX. i dŷ Esau;
Canys yr Arglwydd a ddywedodd.
19A’r dehau#deheuwyr. a etifedda#etifeddant. Hebr., Syr. fynydd Esau,
A’r gwastadedd#pobl y gwastadedd. y Philistiaid;
Ac etifeddant diriogaeth Ephraim;
A thiriogaeth Samaria:
A Benjamin#a B. a Gilead. LXX. Gilead.
20A’r llu hwn o gaethion#a’r dechreuad hwn o gaethglud i feibion Isr. i wlad y Canaaneaid hyd Sarepta. LXX. a’r gaethglud gyntaf hon i dy Isr. o Canaan a hyd Tsarephath. Syr. meibion Israel gan Ganaaneaid#a feddiana holl leoedd y Canaaneaid hyd Sarepta. Vulg. hyd Tsarephath;
A chaethglud Jerusalem y rhai sydd yn Sepharad:#hyd Ephratha. LXX. yr hon sydd yn yr Yspaen. Syr. yn y Bosphorus. Vulg.
A etifeddant ddinasoedd y dehau.
21A gwaredwyr#gwaredigion. LXX., Syr. a godant i fyny yn mynydd Sion;
I farnu#i ddial, i fyny cyfiawnder. LXX. mynydd Esau:
A’r freniniaeth a fydd eiddo yr Arglwydd.
Đang chọn:
Obadiah 1: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.