Jonah 1
1
PEN. I.—
1A bu gair yr Arglwydd at Jonah,#Ionas. LXX. Jonas. Vulg. Iwnon. Syr. mab Amitta#Amathi. LXX., Vulg. Mathi. Syr. gan 2ddywedyd: Cyfod, dos i Nineveh y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn:#ynddi. LXX., Vulg. canys dyrchafodd eu drygioni#ei drygioni. LXX. Vulg. hwynt ger fy mron. 3A Jonah a gyfododd i ffoi i Tarshish#Tharsis. LXX. oddi gerbron yr Arglwydd: ac a aeth i waered i Joppa, ac a gafodd long yn myned i Tarshish, ac a dalodd ei phris hi ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarshish oddi gerbron yr Arglwydd. 4A’r Arglwydd a gyfododd wynt mawr yn#i’r. Hebr. y môr; a bu yn y môr dymestl fawr, a thebygwyd y dryllid y llong.#bu perygl i’r llong gael ei dryllio. LXX. Vulg. a gyrwyd y—i’w dryllio. Syr. 5A’r morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw; ac a fwriasant y dodrefn oedd yn y llong i’r môr i ymysgafnhau oddiwrthynt: a Jonah a aethai i waered i waelod#geudeb. LXX. ranau tufewnol y. Vulg. y llong, ac a orweddasai ac a gysgasai.#yn drwm. Vulg. chwyrnasai. LXX. 6A meistr y llong#y prif forwr, pen y morwyr. Syr. a ddaeth ato ef; ac a ddywedodd wrtho, beth ddarfu i ti gysgadur:#paham y chwyrni. LXX. cyfod, galw ar dy dduw; fe allai yr ystyr y duw wrthym#fel yr achubo D. ni. LXX. y gweryd D. ni. Syr. ac na’n coller. 7A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, deuwch a bwriwn goelbrenau; a gwybyddwn o achos pwy#paham. Vulg. am y drwg hwn o achos pwy y daeth arnom. Syr. y mae y drwg hwn i ni: a bwriasant goelbrenau, a’r goelbren a syrthiodd ar Jonah. 8A dywedasant wrtho, mynega, atolwg, i ni; o achos peth y mae y drwg hwn i ni: pa beth yw dy waith, ac o ba le y deui;#wyt ti Syr. i ba le yr ei. Vulg. beth yw dy wlad ac o ba bobl wyt ti. 9Ac efe#Jonah. Syr. a ddywedodd wrthynt, Hebread wyf fi,#gwas yr Arglwydd. LXX. ac ofni yr wyf fi yr Arglwydd, Duw y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir. 10A’r dynion a ofnasant ag ofn mawr; ac a ddywedasant wrtho, pa beth yw hyn a wnaethost: canys y dynion a wybuasent mai ffoi yr oedd efe oddi gerbron yr Arglwydd, o herwydd efe a fynegasai iddynt?#a phan fynegasai iddynt dywedent wrtho. Syr. 11A dywedasant wrtho pa beth a wnawn i ti fel y gostego y môr i ni, canys myned yr oedd y môr a therfysgu. 12Ac efe a ddywedodd wrthynt, cymerwch fi a bwriwch fi i’r môr; a’r môr a ostega i chwi: canys gwn mai o’m hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi. 13A’r dynion a rwyfasant#ymroisant. LXX. i ddychwelyd i’r tir, ac nid allent, am fod y môr yn myned ac yn terfysgu#codi. LXX. chwyddo. Vulg. yn eu herbyn hwy. 14A llefasant ar yr Arglwydd a dywedasant, Atolwg, Arglwydd, na’n dyfether,#atolygwn Arg. na bo i ni farw. Vulg. atolwg, am einioes y gŵr hwn; ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion: canys ti, Arglwydd, a wnaethost fel y gwelaist yn dda. 15A hwy a gymerasant Jonah; ac a’i bwriasant ef i’r môr: a llonyddodd#safodd. y môr a’i gyffro. 16A’r dynion a ofnasant yr Arglwydd âg ofn mawr: ac a aberthasant aberth i’r Arglwydd, ac a adduneddasant addunedau.
Đang chọn:
Jonah 1: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.