Amos 9
9
PEN. IX.—
1Gwelais yr Arglwydd yn sefyll ar#wrth. yr allor,
Ac efe a ddywedodd,
Taro gapan y drws#y drugareddfa. LXX. yr afaleg. Syr. fel y siglo y gorsinau,
A thor hwynt oll o honynt yn y pen;#a thor hwynt ar ben pawb o honynt, a thor ar ben pawb. LXX. cybydd-dod sydd ar ben pawb. Vulg.
A’u gweddill hwynt a laddaf â’r cleddyf:
Ni ffy ymaith o honynt a ffo;#ni bydd ffoad iddynt. Vulg.
Ac ni ddianc o honynt a ddiango.#a waredwyd. Syr.
2Pe cloddient#ymguddient yn. LXX. os disgynant. Syr. i’r byd isaf;#anwelfa. LXX. annwfn. Syr.
Fy llaw a’u tynai hwynt oddiyno:
A phed esgynant i’r wybrenau;
Mi a’u disgynwn hwynt oddiyno.
3A phe llechent ar ben Carmel;
Chwiliwn a chymerwn hwynt oddiyno:
A phed ymguddient#a phed elent i lawr. LXX. o olwg fy llygaid yn ngwaelod y môr;
Oddiyno y gorchymynwn i’r sarph eu cnoi hwynt.
4Ac os ant yn gaethion o flaen eu gelynion;
Oddiyno y gorchymynaf i’r cleddyf eu lladd hwynt:#ac efe a’u lladd hwynt. Hebr.
A gosodaf#sefydlaf fy. LXX. fy ngolwg arnynt er drwg ac nid er daioni.
5A’r Arglwydd, Arglwydd y lluoedd,#dywedodd Arglwydd arglwyddiaethau yr hollalluog. Syr.
Yr hwn a gyffwrdd â’r ddaear a hi a dawdd;#ac yn ei hysgwyd hi. LXX.
A galara pawb a’r a drigant ynddi:
A hi a gyfyd oll o honi#a’i dinystr hi a gyfyd. LXX. fel yr afon;
Ac a ostwng megys afon yr Aipht.
6Yr hwn a adeilada ei oruwch-ystafelloedd yn y nefoedd;
Ac a sylfaenodd ei ystorfeydd#ac yn seilio ei addewid ar y ddaear. LXX. ac yn cadarnhau ei addewid ar y. Syr. ystafelloedd bwaog. ei dwysw, ysgyb. Vulg. ar y ddaear:
Yr hwn a eilw ddyfroedd y môr,
Ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear,
Yr Arglwydd yw ei enw.
7Onid ydych chwi meibion Israel i mi,
Fel meibion Ethiopiaid,
Medd yr Arglwydd:
Oni ddygais I Israel i fynu o dir yr Aipht;
A Philistiaid o Caphtor#Cappadocia. LXX., Syr., Vulg. a Syriaid#Aram. Syr. o Cir.#Ffos. LXX. Cyrene. Vulg.
8Wele lygaid yr Arglwydd Iôr ar y deyrnas bechadurus;#y pechaduriaid. LXX.
A mi a’i dyfethaf hi oddiar wyneb y ddaear;
Er hyny ni lwyr ddyfethaf#er hyny nid felly y. Syr. dŷ Jacob,
Medd yr Arglwydd.
9Canys wele myfi yn gorchymyn;
A mi a ogrynaf#wyntyllaf, nithiaf. LXX. a wasgaraf. Syr. ysgydwaf. Vulg. dŷ Israel yn mysg yr holl genedloedd:
Fel y gogrynir yn y gogr:
Ac ni syrth gronyn i’r#dryll. LXX. caregan. Vulg. llawr.
10Trwy gleddyf y bydd marw;
Holl bechaduriaid fy mhobl:
Y rhai a ddywedant,
Ni ddaw y drwg#y drygau. LXX. yn agos ac ni wyneba#ni byddant chwaith. LXX. ni’n goddiwes. Syr. ni ddaw. Vulg. arnom.
11Yn y dydd hwnw,
Y codaf babell Dafydd yr hon a syrthiodd:
Ac a gauaf ei bylchau,#bylchau ei furiau. Vulg. eu bylchau, eu hadf. Syr.
Ac a godaf ei hadfeilion;
Ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt.
12Fel y meddianont weddill Edom a’r holl genedloedd;#fel y ceisio y lleill o’r dynion fi, a’r holl genedloedd ar y rhai y gelwir. LXX., Alex., Act. xv. 16, 17. fel y ceisio y lleill. LXX, Vat.
Y rhai#am y galwyd fy. Vulg. y gelwir fy enw arnynt:
Medd yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn.#fel y ceisio y lleill. LXX, Vat.
Y rhai#am y galwyd fy. Vulg. y gelwir fy enw arnynt:
Medd yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn.
13Wele ddyddiau yn dyfod,
Medd yr Arglwydd,
Y goddiwes arddwr fedwr;#y deil medi winfa. LXX.
A sathrydd grawnwin hauwr yr hâd:#yr addfeda grawn yn amser hau. LXX.
A’r mynyddoedd a ddefnynant win newydd,
A’r holl fryniau a lifant trostynt.#a fyddant blanedig. LXX. a fwydir. Vulg. fyddant beraroglus. Syr.
14A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel;
A hwy a adeiladant ddinasoedd anrheithiedig ac â'u preswyliant.
A phlanant winllanoedd;
Ac a yfant o’u gwin hwynt:
A gwnant erddi;
Ac a fwytânt eu ffrwyth hwynt.
15A mi a’u planaf hwynt yn eu tir:
Ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir yr hwn a roddais iddynt;
Medd yr Arglwydd dy Dduw.
Đang chọn:
Amos 9: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.