Nahum 1
1
PEN. I.—
1Baich#llwyth., cymerfa, caffaeliad. LXX. archoll. Syr. Ninefeh: Llyfr#yn llyfr. Syr. gweledigaeth#gweledigaethau. Syr. Nahum yr Elcosiad.#Elcesaiad. LXX. Elcesaead. Vulg.
2Duw eiddigus a dialeddus yw yr Arglwydd;
Dialeddus yw yr Arglwydd a pherchen llid:
Dialeddus yw yr Arglwydd i’w wrthwynebwyr;
A’i gadw#a chadwodd. Syr. ac yn cymeryd ymaith ei elynion. LXX. a wna i’w elynion.
3Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig#oddefus. Vulg. goddefus yw ysbryd yr Arglwydd. Syr. a mawr o rym;
A chan ddieuogi ni ddieuoga;#yr Arglwydd. LXX.
Yr Arglwydd,
Mewn corwynt ac mewn rhyferthwy#mewn diweddiad ac mewn ysgydwad. LXX y mae ei ffordd Ef;
A chwmwl#cymylau. LXX., Vulg. yw llwch ei draed ef.
4Efe a gerydda#yn bygwth. LXX. gwarafynodd i’r. Syr. y môr ac a’i sych ef;
A’r holl afonydd a ddyhysbydda:#yn diffaethu. LXX. Vulg.
Gwywodd#bychanwyd. LXX. galarodd. Syr. gwanychwyd. Vulg. Bashan a Charmel;
A gwyrddni#blodeuad, tyfiant. Syr. Lebanon a wywodd.
5Y mynyddoedd a grynasant rhagddo;
A’r bryniau a doddasant;#lifasant, anrheithiwyd. Vulg.
A’r ddaear a gododd#symudodd, a godwyd. LXX. grynodd. Syr., Vulg. o’i flaen Ef;
A’r byd a phawb ag a drigant ynddo.
6Pwy a saif o flaen ei lid Ef?
A phwy a gyfyd#wrthsaif. LXX., Vulg. a oddef. Syr. yn angerdd ei ddigofaint Ef?
Ei lid Ef a dywalltwyd#a losgodd. Syr. a’i lid a dawdd gyntefigaethau. LXX. fel tân;
A’r creigiau a ddrylliwyd rhagddo.#ganddo. Vulg.
7Da yw yr Arglwydd;
Yn amddiffynfa#i’r rhai a ddysgwyliant wrtho yn. LXX. i gynorthwyo yn. Syr. ac yn nerthu yn. Vulg. yn nydd cyfyngder;
Ac Efe a edwyn y rhai a ymddiriedant#a’i hofnant. LXX. ynddo;
8A thrwy genllif llifeiriol;
Y gwna#y gwnaeth. Syr. Efe dranc ar ei lle hi;#â trosodd yw lle hi. Syr.
A’i elynion a erlid Efe i dywyllwch.#tywyllwch a erlid y rhai a godant yn ei erbyn a’i elynion. tywyll—a erlid ei. Syr. Vulg.
9Beth a ddychymygwch yn erbyn yr Arglwydd;
Efe a wna#gwnaeth. Syr. dranc;
Ni chyfyd cyfyngder ddwywaith.#ni ddial efe ddwywaith am yr un peth trwy drallod. LXX. ni chyfyd trallod deublyg. Vulg.
10Canys tra yn benbleth fel drain;#hyd ei sail yr anrheithir ef ac ysir ef fel carth penbleth. LXX.
Ac wrth feddwi yn feddwon:
Yr ysir hwynt fel sofl#ysasant a llanwyd hwy o sofl grin. Syr. grinllawn.
11Oddiwrthyt yr aeth allan;#yr â allan. LXX.
Un yn dychymygu drwg yn erbyn yr Arglwydd:
Un yn cynghori drygioni.#dinystr, pethau croes. LXX. twyll. Vulg.
12Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd,
Os ydynt yn llwyddianus#yn dawel—yr Ar. yr hwn sydd yn llywio dyfroedd lawer. LXX. ac felly yn eiml;#yn rymus.
Ond felly y torir hwynt i lawr#eillir. Vulg. ar benau dyfroedd lawer yr arosasant ac aethant heibio; a mi a’th. Syr. ac yr ant heibio.
13Mi a th gystuddiais;#a’r son am danat ni chlywir mwyach. LXX.
Ni’th gystuddiaf eto.
Ac yn awr toraf ymaith ei wialen oddiarnat:
A drylliaf dy rwymau.
14A’r Arglwydd a orchymynodd#orchymyn. LXX., Vulg., Syr. am danat;
Na thaener o’th enw mwyach:#ac ni heuir mwy o’th enw, dy dy dduw. Syr.
Toraf ymaith o dŷ dy dduwiau gerfddelw a delw dawdd:
Gosodaf fedd i ti,#a gwnaf ef yn fedd i ti. Syr.
Canys#yn fuan. LXX., Syr. gwael ydwyt.
15Wele ar y mynyddoedd draed un yn mynegu newydd da,
Yn cyhoeddi hawddfyd;
Judah cadw dy wyliau, tâl dy addunedau;
Canys gwr anwir#Belial. Vulg. ni chwanega#chwanegant. LXX. wneuthur cam ynot. Syr. dramwyo trwyot mwyach:#hyd heneiddiad LXX.
Cwbl dorwyd ef ymaith.#dybenwyd, cymerwyd ef ymaith. LXX. llwyr y darfyddodd. Vulg., Syr.
Đang chọn:
Nahum 1: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.