Micah 7
7
PEN. VII.—
1Gwae fi,
Canys ydwyf fel casgliadau#casglwyr, casglydd tywysen ar gynhauaf. LXX. casgliad haf. Syr. a gasglo sypiau cynhauaf grawn yn hydref Vulg. ffrwythau haf;
Fel lloffion#lloffyddesau. cynhauaf grawnwin:
Nid oes swp i’w fwyta;
Blysiais am ffigusen gynar.
2Darfu am dduwiol#trugarog, santaidd. Vulg. o’r tir;
A gwr uniawn nid oes yn mhlith dynion:
Cynllwynant#ymrysonant hyd waed. LXX. bawb o honynt am waed;
Helant bob un ei frawd i ddystryw.
3Y ddwylaw ydynt egniol#darparant eu. LXX., Syr. drwg eu dwylaw a ddywedant sydd dda. ar ddrwg;
Y tywysog sydd yn gofyn;
A’r barnwr am y tâl:
A’r gŵr mawr yntau a ddywed ddymuniad#ddrygioni. Vulg. ei feddwl.
4A phlethant#a therfysgasant hi. Vulg. am y da yn eu plith#eu da. Hebr. a chymeraf ymaith eu da fel gwyfyn ysol. LXX. fel brethyn a ddifa gwyfyn. Syr. fel drain;
Am ŵr uniawn yn fwy na chlawdd drain:
Dydd dy wylwyr,#dy amlygiad. Vulg. dy ymweliad#gwae, gwae, dyddiau ay ddialau. LXX. dy atdâl. Syr. a ddaeth;
Bellach y bydd eu penbleth#dy wylofain. LXX. Syr. anrheithiad. Vulg. hwynt.
5Nac ymddiriedwch mewn cyfaill;#cyfeillion. LXX. Syr.
Na hyderwch ar gydymaith:#blaenoriaid. LXX. cymydogion. Syr. arweinydd, duc. Vulg.
Rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes;
Cadw ddrws dy enau.#gwylia rhag adrodd dim wrthi. LXX. rhag dy wraig cadw eiriau dy enau. Syr.
6Canys mab a amharcha dad;
Merch a gyfyd yn erbyn#i achwyn ar. Syr. ei mham:
Gwaudd yn erbyn ei chwegr:
Gelynion gŵr yw dynion ei dŷ.
7A myfi a edrychaf ar yr Arglwydd;
Dysgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth:#iachawdwr. LXX. Syr. Vulg.
Fy Nuw a’m gwrendy.
8Na lawenycha i’m herbyn fy ngelynes;
Er syrthio#am syrthio. LXX., Syr. Vulg. o honof mi a gyfodais:#cyfodaf. LXX., Vulg.
Er yr eisteddaf mewn tywyllwch;
Yr Arglwydd sydd oleuni i mi.
9Dygaf ddig yr Arglwydd;
Canys pechais i’w erbyn:
Hyd oni ddadleuo fy nadl ac y gwnelo fy marn;#y barno fy achos. Vulg.
Efe a’m dwg i oleuni;
Edrychaf ar ei unionder ef.
10A’m gelynes a ga weled,
A chywilydd a orchuddia;
Yr hon a ddywedodd#a ddyweo. LXX. Vulg. wrthyf;
Pa le y mae yr Arglwydd dy Dduw:
Fy llygaid a edrychant arni;
Bellach y bydd hi yn sathrfa megys tom yr heolydd.
11Y dydd yr adeiledir dy furiau:#y dydd at adeiladu dy furiau, y dydd hwn y’ch cymerir ymaith. Syr. dydd eneiniad troed colofn, dy ddilead di fydd y dydd hwnw. LXX.
Y dydd hwnw pell pell y fydd.#a sychir ymaith bethau dy gyfraith. LXX. pell fydd cyfraith. Vulg.
12Y dydd hwnw y deuir atat;#a’th ddinasoedd a ddeuant yn wastadedd ac yn rhaniad gan Assuriaid. LXX.
0 Assur a dinasoedd yr Aipht:#ac o’r dinasoedd cedyrn Syr. hyd at ddinasoedd caerog. Vulg.
Ac o’r Aipht#o Tyrus hyd yr. LXX., Syr. ac o ddinasoedd caerog hyd. Vulg. ïe hyd yr afon
A môr i fôr a mynydd i’r mynydd.#hyd fynydd Hor. Syr.
13A’r wlad a fydd yn anrhaith o achos#i’w. Syr. yn nghyd a’i. LXX. ei thrigolion:
Gan ffrwyth eu gweithredoedd.#meddyliau. Vulg. moesau. LXX.
14Bugeilia dy bobl â’th wialen,
Defaid dy etifeddiaeth;
Y rhai a drigant yn unig,
Mewn coed yn nghanol Carmel:
Porant Bashan a Gilead megys y dyddiau gynt.#yr hen ddyddiau. Vulg
15Megys y dyddiau y daethost allan o dir yr Aipht;
Paraf iddo#y gwelwch. LXX. weled rhyfeddodau.
16Cenedloedd a welant ac a gywilyddiant;
O’u holl gryfder hwynt:
Gosodant law ar enau;
Eu clustiau a fyddarant.
17Llyfant lwch fel y sarph;
Fel ymlusgiaid#madgallau. Syr. fel seirph yn ymlusgo ar ddaear. LXX. daear;
Crynant o’u llochesau;#tramwyfeydd. Syr. yn eu tai. Vulg.
Wrth yr Arglwydd ein Duw ni yr arswydant;
Ac ofnant rhagot ti.
18Pa#nid oes D. fel. Syr. Dduw sydd fel Tydi,
Yn maddeu anwiredd ac yn myned heibio i gamwedd;
I weddill ei etifeddiaeth:
Ni ddeil efe#nid wyt yn dal. Syr. ei ddig byth;
Am fod yn hoff ganddo drugaredd.
19Efe drugarha wrthym drachefn;
Efe a ddarostwng#sodda. LXX. a gasgl. Syr. ein hanwireddau:
A thi a defli#a theflir. LXX. eu holl#ein. LXX., Syr., Vulg. eich. LXX., Tisch. bechodau i ddyfnderoedd y môr.
20Ti a roddi wirionedd i Jacob;
Trugaredd i Abraham:
Yr hyn a dyngaist i’n tadau er y dyddiau gynt.
Đang chọn:
Micah 7: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.