Micah 6
6
PEN VI.—
1Gwrandewch atolwg yr hyn a ddywed yr Arglwydd:#gwrandewch air yr Arg. yr Arg. a ddywedodd. Alex.
Cyfod dadleu wrth#ger bron, gogyfer â’r. â’r. Syr. y mynyddoedd;
A chlywed y bryniau dy lais.
2Gwrandewch fynyddoedd ddadl yr Arglwydd;
A chedyrn sylfaeni#cymoedd neu holltau seiliau. LXX. Vulg. dyfnion seiliau. Syr. daear:
Canys y mae dadl gan yr Arglwydd â’i bobl;
Ac âg Israel yr ymryson.#Isr. y mae yn geryddu. Syr.
3Fy mhobl beth a wnaethum i ti, Ac yn mha beth y’th flinais:
Tystia wrthyf.#ateb i’m herbyn, ateb i mi. LXX., Vulg.
4Canys myfì a’th ddygais i fyny o dir yr Aipht;
Ac a’th ryddheais o dŷ caethiwed:
Ac a anfonais o’th flaen;
Moses,#Moshe. Hebr. Aaron,#Aharon. Hebr. a Miriam.#Mariam. LXX.
5Fy mhobl cofia atolwg beth a fwriadodd Balac brenin Moab;
A pha beth a atebodd Bilam mab Beor iddo:
O Sittim#o’r rhaffau. LXX. o’r coed Sit hyd y dreiglfa. Hebr. hyd Gilgal;
Er mwyn gwybod unionderau#unionder. LXX. yr Arglwydd.
6A pha beth y deuaf gerbron#y caf afael yn yr Arg. LXX. yr Arglwydd;
Yr ymgrymaf i’r#yr ymaflaf yn fy Nuw goruchaf. LXX. uchel Dduw:
A ddeuaf ger ei fron#a gaf afael ynddo. LXX. a offrymaf iddo. Vulg. ef âg aberthau llosg;
A lloi blwyddiaid.
7A foddlonir yr Arglwydd â miloedd o hyrddod;
A myrddiynau o ffrydiau olew:#geifr tewion. LXX., Vulg. aneirod nerthol. Syr.
A roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd;
Ffrwyth fy nghroth am bechod fy enaid.
8Hysbysodd#a fynegai efe i ti. LXX. dangosaf i ti. Vulg. dangosais. Syr. efe i ti ddyn beth sydd dda:
A pha beth a gais yr Arglwydd genyt,
Ond gwneuthur barn a hoffi trugaredd;
Ac ymostwng i rodio gyda’th Dduw.
9Llef yr Arglwydd a eilw ar ddinas;
A doethineb#yn cyhoeddi addysg i’r rhai a ofnant ei. Syr. ac efe a achub y rhai a ofnant. LXX. ac iachawdwriaeth fydd i’r rhai a ofnant. Vulg. yw ofni dy enw:
Gwrandewch gerydd#gwrando, lwyth. LXX. Vulg., Syr. a phwy a’i hordeiniodd.#pwy a dystia. Syr.
10A oes eto#eto dân yn nhy. Syr. dŷ anwir;
Drysorau anwir:
Ac ephah brin felldigedig.#gorthrwm, gorthrymus. Syr. ffiaidd.
11A gyfrifwn yn lân#a fyddaf lân gyda. a gyfiawnheir un anghywir mewn clorian. LXX. a gyfiawnhaf glorian ddrwg. Vulg. gyda chlorianau anghywir;
A chyda chôd o geryg twyllodrus.
12Am fod ei chyfoethogion yn llawn trais;#o’r rhai y llanwasant eu golud annuwiol. LXX
A dywedyd celwydd o’i thrigolion:
A’u tafod yn dwyllodrus#a godwyd yn. LXX. yn eu genau.
13Minau hefyd a ddechreuais#a’th wanychais trwy dy dechreuaf. LXX., Syr. dechreuais dy daro â dinystr am dy. Vulg. dy daro:
Gan ddwyn difrod#difrodaf di trwy dy. LXX. a’th drallodaf am. Syr. am dy bechodau.
14Ti a fwyti ac ni’th ddigonir;
A’th wagter#a thywylla arnat. LXX. a’th ostyngiad. Vulg. a fydd ynot:
A thi a gymeri ymaith ac nid achubi;#ni’th achubir. LXX.
A’r hyn#a’r rhai a. Vulg., LXX. a achubech a roddaf#a roddir. LXX. i’r cleddyf.
15Ti a heui ac ni fedi:
Ti a sethri olewydden ac nid ymiri âg olew;
A gwin newydd ac nid yfi#yfwch. LXX. win.
16A chadw yr ydys#cedwaist. LXX., Syr. at ddeddfau Omri,#Zambri. LXX.
A holl waith#weithredoedd. Syr. tŷ Ahab;#Achaab. LXX.
A chwi a rodiwch#chwi a aethoch yn eu ffyrdd. LXX. ti a rodiaist yn. Vulg. wrth eu cynghorion hwynt:
Fel y’th wnawn yn#am hyny y rhoddais hi yn syndod. Syr. anghyfanedd,
A’i thrigolion yn ddirmyg;#chwibaniad. LXX. Syr.
A chwi a ddygwch warth fy mhobl.#w. pobloedd. LXX.
Đang chọn:
Micah 6: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.