Micah 5
5
PEN. V.—
1A thydi, Bethlehem Ephratha,#ty Ephratha. LXX.
Bychan#lleiaf wyt i fod. LXX. bychan wyt i fod o honoch. Syr. yw bod yn mhlith miloedd#teuluoedd, tywysogion. Judah:
O honot ti y daw allan i mi;
Un#flaenor i fod yn. LXX. Alex. y daeth allan lywodraethwr a fydd ar. Syr. i fod yn llywydd yn Israel;
A’i fynediad#fynediadau. Hebr. allan sydd er cynt,#o’r dechreuad. LXX., Vulg. er dyddiau oesol.#hen tragywyddol.
2Er hyny,#am hyny. LXX. efe a’u rhydd hwynt i fyny;
Hyd amser esgoriad yr hon a esgoro:
A gweddill ei frodyr ef;
A ddychwelant at feibion Israel.
3Ac efe a saif#a saif, ac a wel, ac a fugeilia ei braidd. LXX. ac a fugeilia trwy nerth yr Arglwydd;
Trwy enw gogoneddus yr Arglwydd ei Dduw:
A phreswyliant;#eu Duw y byddant. LXX. a dychwelant. Syr., Vulg.
Canys yn awr efe a fydd mawr hyd eithafoedd daear;
A hwn fydd yn heddwch#ffyniant, a bydd iddi heddwch. LXX.
4Assuriad pan ddel i’n tir ni,
A phan sathro o fewn ein palasau;
Ni a godwn#a chodir. LXX. yn ei erbyn saith fugeiliaid;
Ac wyth wyr o dywysogion.#wyth dywysogion o ddynion. Syr. gnoadau gwyr. LXX.
5A hwy a ddrylliant#fugeiliant. LXX., Vulg. llywodraethant ar. Syr. dir Assur â’r cleddyf;
A thir Nimrod#Nebrod. LXX. yn ei byrth ei hun:#ffos, argae. LXX. yn ei lid. Syr. ffyn gwaew. Vulg.
Ac efe a weryd#a’n gweryd. Syr. rhag Assur;
Pan ddel#fel na ddelo. Syr. i ddyfod o hono. i’n tir;
A phan sathro o fewn ein terfynau.
6A bydd gweddill Jacob yn nghanol llawer o bobl;
Fel gwlith oddiwrth yr Arglwydd;
Fel cawodydd#wyn ar. LXX. defnyniad. Syr. ar laswellt:
Yr hwn nid erys#fel na chunuller un. LXX. wrth ddyn;
Ac ni ddysgwyl wrth feibion dynion.
7A bydd gweddill Jacob yn mysg y cenedloedd,
Yn nghanol pobloedd lawer;
Fel llew yn mysg anifeiliaid coedwig;
Fel cenaw llew yn mysg deadellau defaid:
Yr hwn pan dramwya a sathra ac a ysglyfaetha,
Ac ni bydd a achubo.
8Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr;
A’th holl elynion a dorir ymaith.
9A bydd yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd;
Y toraf#cymeraf ymaith. Vulg. ymaith dy feirch o’th ganol di:
Ac y dinystriaf dy gerbydau.
10A thoraf i lawr ddinasoedd dy wlad:
A drylliaf dy holl ymddiffynfeydd.
11A thoraf ymaith swynion#dy swynion. LXX. o’th law:
Ac ni bydd i ti ddewiniaid.#traethyddion. LXX. dewiniaethau. Vulg.
12A thoraf ymaith dy eilunod#cerfiadau, eilunod cerf a’th ddelwau#colofnau, allorau. Syr. o’th blith:
Ac nid ymgrymi#addoli. Syr. mwyach i waith dy ddwylaw.
13A diwreiddiaf dy dduwiesau#delwau Asteroth; dy lwyni, dy elltydd, dy blanfeydd. Syr. toraf ymaith dy ellt-ydd. LXX. tynaf dy elltydd. Vulg. o’th ganol:
A dinystriaf dy ddinasoedd.
14A gwnaf mewn dig a llid ddialedd#atdâl. Syr. ar y cenedloedd:
Y rhai ni wrandawsant.#am na wrandawsant. LXX.
Đang chọn:
Micah 5: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.