Micah 3
3
PEN. III.—
1A mi a ddywedais,#efe a ddywed. LXX.
Gwrandewch#y pethau hyn. LXX. atolwg benaethiaid Jacob;
A llywiawdwyr#gweddill ty. LXX. barnwyr. tŷ Israel:
Onid i chwi;
Y perthyn gwybod y farn.
2Y rhai a gashewch ddaioni,
Ac a gerwch ddrygioni:
Y rhai a flingwch#flingasant, fwytasant ddiosgasant, ddrylliasant, friwiasant. eu croen oddiam danynt;
A’u cnawd oddiam eu hesgyrn.
3A’r rhai a fwytant gnawd fy mhobl;
Ac a ddiosgant eu croen oddiam danynt;
Ac a ddrylliant eu hesgyrn:
Ac a friwiant megys#megys cig. LXX. yn y crochan;
Ac fel cig mewn pair.
4Yna y llefant ar yr Arglwydd;
Ac nis etyb hwynt:
Ac efe a guddia ei wyneb oddiwrthynt yn yr amser hwn;
Yn ol fel y bu eu gweithredoedd yn ddrwg.#yn ddrwg yn eu moes-au. LXX. am y gwnaethant yn feius yn eu dychymyg-ion, Vulg.
5Fel hyn#y pethau hyn. LXX. Vulg. y dywedodd yr Arglwydd;
Am y proffwydi ag a wnant i’m pobl gyfeiliorni:#llithiant fy. Vulg.
Y rhai a gnoant â’u danedd,
Ag a lefant heddwch:
A’r neb ni roddo i’w safn hwynt;
Darparant#codasant. LXX ryfel yn ei erbyn.
6Am hyn y bydd#bydded. nos i chwi rhag caffael gweledigaeth;
A thywyllwch i chwi rhag dewinio:#yn lle dewiniaeth. Vulg.
A mechlyd yr haul ar y proífwydi;
A’r dydd a ddûa#dywylla. LXX. dywyllir. Vulg. arnynt.
7A’r gweledyddion#a’r rhai a welant freuddwydion. LXX. a gywilyddiant,
A dewiniaid a wridiant;#chwerddir ar. LXX.
A phawb o honynt a guddiant ar eu gwefus:#wynebau. Vulg. a hwy oll a lefarant yn eu herbyn. LXX.
Am na rydd Duw ateb.#am nad atebodd Duw hwy. Syr. am na bydd a wrandawo arnynt LXX.
8Ond er hyny llawn wyf fi o nerth gan ysbryd#nerth ysbryd yr. Vulg. nerth trwy ysbryd yr Arglwydd. a barn, a gallu. LXX. o nerth ac ysbryd D. Dathe. yr Arglwydd;
Ac o farn a chadernid;
A fynegi i Jacob ei anwiredd;
Ac i Israel ei bechod.
9Gwrandewch hyn, atolwg,
Benaethiaid tŷ Jacob;
A llywiawdwyr#gweddill. LXX. tŷ Israel:
Y rhai a ffieiddiant#ydynt yn dirmygu. Syr. ffleiddiasoch. farn;
Ac a wyrant#gwyrasoch. Vulg. bob uniondeb.
10Gan adeiladu Sion â gwaed:
A Jerusalem âg anwiredd.
11Ei phenaethiaid a farnant#farnasant. am wobr,
A’i hoffeiriaid a ddysgant#ddysgasant, atebasant. LXX. am dâl;
A’i phroffwydi a ddewiniant#ddewiniasant, pwysasant, gorphwysant. Vulg. hyderant. Syr. am arian:
Ac ar yr Arglwydd y pwysant,
Gan ddywedyd,
Onid yw yr Arglwydd i’n plith;
Ni ddaw ddrygfyd#drygau. LXX. Vulg. arnom.
12Am hyny o’ch achos chwi;
Yr erddir Sïon yn faes:
A Jerusalem a fydd yn garneddau;#crug o geryg. Vulg.
A mynydd y tŷ yn glogwyni gallt.#yn allt dderi. LXX. yn goedwig. Syr. uchelfeydd coed. Vulg.
Đang chọn:
Micah 3: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.