Micah 1
1
PEN. I.—
1Gair yr Arglwydd yr hwn a fu#a bu gair yr. LXX. at Micah,#Michaiah. LXX., Vulg. y Morasthiad#Morasiad. Syr., yn nyddiau Jotham#Ioatham. LXX. Jothan. Vulg., Achas, Hizciah, breninoedd Judah: yr hwn#am y pethau a. LXX. a welodd am Samaria a Jerusalem.
2Gwrandewch, bobloedd, oll#eiriau. LXX. o honynt;
Clyw, wlad a’i chyflawnder:
A bydd yr Arglwydd Iôr yn dyst yn eich erbyn;#i chwi. Vulg.
Yr Arglwydd o’i deml santaidd.
3Canys wele yr Arglwydd yn dyfod allan o’i le:
Ac efe a ddisgyn ac a sathr ar uchelderau#uchelder y. Syr. daear.
4A’r mynyddoedd a doddant#neidiant. LXX. a ddifeir. Vulg. dano ef;
A’r glynoedd a ymholltant:#a doddant fel y. LXX. a ddryllir. Syr.
Fel y cwyr o flaen y tân;
Fel dyfroedd a dywalltwyd ar y gorwaered.
5Am anwiredd Jacob y mae hyn i gyd;
Ac am bechodau tŷ Israel:
Beth yw anwiredd Jacob,
Onid Samaria;
A pheth yw uchelfeydd#pechodau ty Judah. LXX., Syr. Judah;
Onid Jerusalem.
6A gosodaf Samaria yn garnedd y maes,#yn fwth maes at wylio ffrwythau. LXX. anialwch maes. Syr.
Yn blanfeydd gwinllan:
A gwnaf i’w cherig dreiglo i’r dyffryn;#a chasglaf ei cherig yn garn. Syr.
A dadguddiaf ei sylfaeni.
7A’i holl ddelwau cerfiedig#gerfiadau. Syr. a ddryllir,#a gurant. LXX.
A’i holl wobrau#a’i holl ddelwau a losgant. Syr. a losgir yn tân;#losgant. LXX.
A’i holl eilunod a osodaf yn anrhaith:
O herwydd mai o wobr#o wobrwyon puteindra LXX. putain y casglodd hi;#y casglwyd hwynt. Vulg.
Yn wobr putain yr ant#y troir hwynt. Syr. eto.
8O herwydd hyn y galaraf#y galara—cwyna. LXX., Syr. ac y cwynaf;
Cerddaf yn ddiosgedig#disandalau, troednoeth. LXX., Syr. yspeiliedig. Vulg. ac yn noeth:
Gwnaf gwynfan fel y dreigiau:
A griddfanaf fel cywion estrys.#merch y ddraig. Syr. merched sirenau. LXX.
9O herwydd anwelladwy#trechodd ei. LXX. diobaith. Vulg. yw ei harchollion hi;
Canys daeth hyd at Judah;
Cyrhaeddodd hyd at borth fy mhobl, Hyd at Jerusalem.
10Yn Gath#Geth. LXX., Vulg. na fynegwch;#na lawenhewch. Syr. y rhai sydd yn Geth nac ymfawrygwch. LXX.
Gan wylo nac wylwch:
Yn Beth#yn nhai. Syr. yn nhy y llwch. Vulg. Aphra,
Ymdreigla#ymdreiglaf, taenwch lwch arnoch. Vulg. yn y llwch.
11Dos trosodd, breswyles Shaphir,#y breswylfa deg. Vulg. yr hon a breswylid yn dda ei dinasoedd. LXX. yn noeth dy warth:
Nid aeth#nid â. Dathe. preswyles Saanan#deadellfa, defeidfa, Sennaar. LXX. allan;
Galar Beth Hasel,#y ty agos.
A gymer oddiwrthych ei chynorthwy.#archoll flin. LXX. archoll. Syr.
12Preswyles Maroth#chwerwderau: a gwrthryfelodd. Syr. yn ddiau a ddysgwyliodd#clafychodd. Syr. gwanhauwyd at dda yr hon a breswylia mewn chwerwderau. Vulg. am ddaioni:
Canys drwg a ddisgynodd oddiwrth yr Arglwydd;
Hyd borth#ar byrth. LXX. Jerusalem.#wrth byrth Jer. y ffrwynodd preswyles L. Syr.
13Rhwym y cerbyd wrth y buan-farch,#trwst cerbydau a marchogion. LXX. terfysg cerbyd syndod i breswyles. Vulg. breswyles Lachis:
Dechreuad pechod fu hi i ferch Sion;
Canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel.
14Am hyny y rhoddi ollyngdod;#anrhegion, ysgar. Syr. genadau. LXX., Vulg., roddi fyny dy hawl. Dathe.
Ar Moresheth Gath.#i etifeddiaeth Gath. Syr.
Tai Aczib#tai ofer. LXX. tai celwydd. Vulg. tai gwagedd fuont yn wagedd i. Syr. a fyddant yn gelwydd;
I freninoedd Israel.
15Hefyd mi a ddygaf etifedd i ti, breswyles Maresha:
Hyd Adulam y daw gogoniant Israel.#wrth Ad. y mechlyd gogoniant. Dathe. yn wastad y cyfyd go. Syr, etifeddiaeth hyd Ad. a ddaw, gogoniant merch Isr. LXX.
16Ymfoela ac ymeillia;#gogoniant Isr. ymfoela
Am dy feibion moethus:
Lleda dy foelni fel yr eryr;
Canys caethgludwyd hwynt oddiwrthyt.
Đang chọn:
Micah 1: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.