Jonah 3
3
PEN. III.—
1A bu gair yr Arglwydd at Jonah yr ail waith, 2gan ddywedyd, Dos i Ninefeh y ddinas fawr, a chyhoedda wrthi y genadwri a ddywedwyf wrthyt.#yn ol y bregeth o’r blaen yr hon a lefarais wrthyt. LXX. 3A Jonah a gyfododd ac a aeth i Ninefeh yn ol gair yr Arglwydd: a Ninefeh oedd ddinas fawr iawn;#i Dduw. Hebr., LXX, Syr. yn daith tri diwrnod. 4A dechreuodd Jonah fyned trwy y ddinas daith un diwrnod: ac efe a lefodd ac a ddywedodd, deugain niwrnod#yn mhen 40 niwrnod eto. tri d. eto. LXX. wedi hyn. Syr. eto a Ninefeh a ddinystrir.#a Nin. yn ddadymchwiledig. Hebr. 5A gwyr Ninefeh a gredasant yn Nuw; ac a gyhoeddasant ympryd ac a wisgasant sachlieiniau o fawr o honynt hyd fach o honynt.#o’u mawr hyd eu bach. Hebr. 6A’r sôn#y peth. a ddaeth at frenin Ninefeh; ac efe a gyfododd oddiar ei orsedd ac a ddiosgodd ei fantell#a dynodd ymaith ei goron. Syr. oddiam dano, ac a wisgodd sachlian, ac a eisteddodd ar y lludw. 7Ac efe a barodd gyhoeddi a dywedyd#a llefwyd a dywedwyd gan y. LXX. trwy orchymyn y. Syr. yn Ninefeh trwy orchymyn y brenin a’i bendefigion,#fawrion. Hebr. gan ddywedyd: y dyn a’r anifail, yr eidion a’r ddafad, na phrofant ddim, na phorant, ac nac yfant ddwfr. 8A gwisger#a’r dynion a’r anifeiliaid a wisgasant. LXX. y dyn a’r anifail a sachlieiniau; a galwant#galwasant. LXX. ar Dduw yn lew#yn gryf, yn groch, yn daer. yn egniol. LXX. gydag ochenaid. Syr. a dychwelant#dychwelasant. LXX. a throed dyn. Vulg. bob un oddiwrth ei ffordd ddrwg; ac oddiwrth y trais sydd yn eu dwylaw.#gan ddweyd pwy. LXX. 9Pwy a wyr a dry ac y tosturia Duw: a throi oddiwrth angerdd ei ddigofaint, ac na’n difether ni.
10A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, droi o honynt o’u ffordd ddrygionus: a thosturiodd Duw am y drwg yr hwn y dywedasai y gwnai#i wneuthur. Hebr. iddynt ac nis gwnaeth.
Đang chọn:
Jonah 3: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.