Jonah 2
2
PEN. II.—
1A’r Arglwydd a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jonah; a Jonah a fu yn mòl y pysgodyn dri diwrnod a thair nos. 2A Jonah a weddiodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fòl y pysgodyn ac a ddywedodd,
3Llefais o’m cyfyngder ar yr Arglwydd,
Ac efe a’m hatebodd:
O fòl y byd isod#anwelfa. LXX. y gwaeddais,
Clywaist fy llef.
4A thi a’m bwriaist i’r dyfnder#i ddyfnderau calon y môr. LXX. yn nghanol moroedd;#llifoedd, dyfroedd.
A llif#llanw, llanwed. a’m hamgylchodd:
Dy holl donau a’th lifeiriant a aethant drosof.
5A minau a ddywedais:
Bwriwyd fi o wydd dy lygaid:
Er hyny mi a edrychaf eto:
Tu a’th deml santaidd.#gan hyny, a chwanegaf edrych tua’th deml. LXX. gwelaf eto dy. Vulg.
6Dyfroedd a’m hamgylchasant hyd yr einioes:
Dyfnder#dyfunder eithaf, gwaelod y. a ddaeth o’m hamgylch:#a gauodd arnaf. Vulg.
Ymglymodd hesg#gwmon, yn ngwaelod y môr y cauwyd ar fy mhen. Syr. am fy mhen.#suddodd fy mhen i holltau y. LXX. yr eigion a guddiodd fy. Vulg.
7Disgynais#disgynais i’r ddaear yr hon y mae ei throsolion yn afaelus oesol. LXX. i odre y mynyddoedd;
Trosolion y ddaear oeddent o’m hamgylch yn wastadol:
A thi a godaist#a deued i fynu ddystryw fy. LXX. fy einioes o ddystryw, Oh! Arglwydd fy Nuw.
8Pan lewygodd#pan ballai fy—oddiwrthyf. LXX. pan gyfyngid ar fy. Vulg. fy enaid ynof;
Cofiais yr Arglwydd:
A’m gweddi a ddaeth#a deued fy. LXX. fel y deuai fy. Vulg. atat;
I’th deml santaidd.
9Y rhai a ddaliant ar oferedd celwydd,#a wasanaethant eilunod gweigion. a gadwant oferedd a LXX. a gadwant addoliad ofer. Syr.
A wrthodant#a adawsant. LXX. adawant. Vulg. eu trugaredd eu hunain.#dy drugaredd. Syr.
10A minau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti;
Talaf#a gyflawnaf yn atdâl i’r Ar-glwydd. Syr. yr hyn a addunedais:
Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd.#talaf i ti Arglwydd iachawdwriaeth. LXX i’r Arglwydd am iachawdwriaeth. Vulg.
11A dywedodd yr Arglwydd wrth y pysgodyn;#a gorchymynwyd gan yr Ar. i’r. LXX. ac efe a fwriodd#a gyfogodd. Vulg. Jonah i’r tir sych.
Đang chọn:
Jonah 2: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.