Hosea 12
12
PEN. XII.—
1Ephraim a’m hamgylchodd â chelwydd;#âg ymwadiad. Vulg.
A thy Israel â thwyll:#a thy Israel a Judah â. LXX. Syr.
[A Judah hefyd sydd yn crwydro oddiwrth Dduw;
Ac oddiwrth yr un Santaidd ffyddlon. Dathe.]
[Eto Judah llywodraetha di o hyd gyda Duw,
A thi bobl y saint bydd ffyddlon. Dr. R. Williams.]
[A Judah sydd hyd yn hyn yn ansefydlog gyda Duw,
Gyda yr un ffyddlon Santaidd. Schmoller.#nes y disgynodd pobl Dduw, pobl santaidd a ffyddlon. Syr.]
2Ephraim sydd yn ymborthi ar wynt,#ysbryd drwg yw Ephraim. LXX. dilynodd wynt drwg, llosg wynt trwy gydol y dydd. LXX. Van Ess.
Ac yn dilyn gwynt y dwyrain;
Ar hyd y dydd celwydd a dinystr a amlha efe:
A chyfamod âg Assur a wnant,
Ac olew a ddygir i’r Aipht.
3Ac y mae i’r Arglwydd gwyn#ddadl â. ar Judah:
Ac y mae i ymweled â Jacob yn ol ei ffyrdd;
Yn ol ei weithredoedd#ei ddychymygion. Vulg. y tâl#y try, dychwel. iddo.
4Yn y groth y disodlodd#twyllodd. Syr. ei frawd:
Ac yn ei nerth#ei flinderau y bu yn gryf. LXX. yr ymdrechodd#yr aeth yn fawr ger bron Duw. Syr. y cyfeiriwyd ef gyda’r angel. Vulg. â Duw.
5Ac efe a ymdrechodd ag angel a gorchfygodd;
Wylodd ac ymbiliodd#wylasant, ymbiliasant, cawsant. LXX. ag ef:
Cafodd ef yn Bethel;#yn nhy On. LXX. Bethel a’i cafodd. Syr.
Ac yno yr ymddyddanodd ag ef.#wylasant, ymbiliasant, cawsant. LXX.
6A Jehovah Duw y lluoedd:
Jehovah yw ei goffadwriaeth#a’i cofiodd ef. y Duw hollalluog fydd ei. LXX ef.
7A thithau tro gyda’th Dduw:
Cadw drugaredd a barn;#cyfiawnder.
A dysgwyl wrth dy Dduw#nesa at dy. LXX. gobeithia yn dy. Vulg. bob amser.
8Yn farchnatäwr,#Canaan. Canaanead.
Yn ei law#clorianau sydd yn llaw Canaan. Syr. y mae clorianau twyllodrus,
Da ganddo orthrymu.
9A dywed Ephraim;
Diau mi a ymgyfoethogais;
Cefeis i mi olud:#gysur. LXX. gofidiau. Syr. eilun. Vulg.
Yn fy holl gynyrch ni chafwyd#ni chawsant. Hebr. yn fy erbyn#genyf, i mi. Hebr. ei holl drafferthion ni cheir iddo am yr anwireddau a bechodd. LXX. fy holl—ni chant i mi. Vulg. fai a fyddai yn bechod.
10A mi yr Arglwydd dy Dduw#a’th ddygais i fyny o. LXX. o wlad yr Aipht;
Gwnaf i ti drigo mewn pebyll megys ar ddyddiau cymanfa.#gwyl, gwledd. Vulg.
11A mi a lefarais#lefaraf. LXX. wrth y proffwydi;
A myfi a roddais aml weledigaeth:
A thrwy y proffwydi yr arferais gyffelybiaethau.#ddamegion, y parwn ddinystr. y’m cyffelybwyd. LXX. Vulg.
12Os#oni bu. bu Gilead yn anwireddus,#yn Gilead y mae gofidiau. Syr. eilun. Vulg.
Twyllodrus yn ddiau fuont yn Gilgal;
Ychain a aberthasant:#gan aberthu i fystych. Vulg.
Eu hallorau hefyd sydd fel carneddau;#crugiau mewn maes o dir anial. Syr.
Ar rychau maes.
13A ffodd#symudodd. LXX. Jacob i wlad Aram:#Syria.
A gwasanaethodd Israel am wraig;
Ac am wraig y bu yn bugeilio.#gwylio. LXX., Vulg.
14A thrwy broffwyd y dygodd yr Arglwydd Israel i fynu o’r Aipht:
A thrwy broffwyd y cadwyd ef.
15Ephraim a barodd ddigofaint chwerw:#chwerwderau. Hebr. a ddigiodd. LXX. a barodd chwerwedd. Syr.
A’i waed a adewir#edy efe, a dywelltir arno. LXX., Syr. a ddaw arno. Vulg. arno;
A’i waradwydd a ddychwel ei Arglwydd arno.
Đang chọn:
Hosea 12: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.