Hosea 11
11
PEN. XI.—
1Pan oedd#am mai maban oedd. LXX. Israel yn fachgen,
Mi a’i cerais:
Ac o’r Aipht y gelwais fy mab.#ei blant. LXX.
2Galwyd arnynt:#galwasant. Hebr. fel y gelwais arnynt felly yr aethant o’m gwydd. LXX. Syr.
Yna aethant o’u gwydd hwy;
Aberthasant i Baalim;
Ac arogldarthasant#aberthasant. Vulg. i ddelwau ceifiedig.
3A myfi a ddysgais i Ephraim gerdded;#bum fel maethydd i. Vulg. arweiniais Ephraim. Syr.
Gan eu cymeryd erbyn eu#ei freichiau. Hebr. cymerais ef i fynu ar fy mraich. LXX. fy mreichiau. Syr. dygais hwynt yn fy mreichiau. Vulg. breichiau:
Ac ni wybuant mai myfi a’u meddyginiaethodd#ofalwn am danynt. Vulg. hwynt.
4A rheffynau#yn nifrod dynion. LXX. dyn#Adda. Vulg. y tynwn hwynt, â llinynau cariad;
A bum iddynt megys rhai a godent iau ar eu bochgernau hwynt:
Ac estynwn atynt fwyd.#parwn fwyta. edrychaf ato, byddaf gryf iddo. LXX. plygwn ato fel y bwyteai. Vulg.
5Ni ddychwel efe i wlad yr Aipht;
Ac Assur, efe fydd ei frenin;
Am iddynt wrthod#canys gwrthodasant. dychwelyd.
6A chleddyf a syrth#gwanychodd trwy gleddyf yn ei. LXX. gwanychodd cleddyf yn ei—a theflir ef o’u llaw. Syr. cleddyf a ddechreuodd yn eu —ac a ddifa eu etholedigion ac a fwyty eu penau. Vulg. ar ei ddinasoedd:
Ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef:
Am ei cynghorion hwynt.#bwyta y maent o’u. LXX. a bwytant. Syr.
7A’m pobl i a ogwyddant#a ddysgwyliant am fy nychweliad. Vulg. a’i bobl. LXX. a’m pobl a betrusant droi ataf, a galwant ar Dduw, ac nis dyrchefir ef. Syr. i gilio oddiwrthyf fi:
Ond at iau y gelwir hwynt#a Duw a ddigir wrth ei bethau gwerthfawr, ac nis cyfyd ef. LXX. Ond iau a osodir arnynt. Vulg. yn nghyd;
Ni chodir hi#ni phar ei chodi fyny. i fyny.
8Pa fodd y’th roddaf ymaith,#pa beth y’th osodaf — a amddiffynaf di — fel Adama y’th. LXX. Ephraim,
Y’th roddaf i fyny, Israel;
Pa fodd y’th roddaf fel Admah;
Y’th osodaf megys Seboim:
Trodd fy nghalon ynof;#arnaf,
Cydgynghyrfwyd fy nhosturiaethau.
9Ni chyflawnaf angerdd fy llid,
Ni chwanegaf ddinystrio Ephraim:
Canys Duw wyf fi ac nid dyn;
Santaidd#santaidd un sydd yn dy. yn dy ganol di;
Ac ni ddeuaf mewn llidiogrwydd.#nid af i mewn i ddinas. LXX., Syr., Vulg.
10Ar ol yr Arglwydd yr ant,#af. LXX.
Efe a rua fel llew:
Canys efe a rua;
A meibion a brusurant#ddychrynant. o’r gorllewin.#plant dyfroedd a derfysgir. LXX. meibion o’r bobl a gynhyrfir. Syr. plant y môr a ddychrynant. Vulg.
11Prysurant#ehedant. Vulg. fel aderyn o’r Aipht, Ac fel colomen o dir Assur:
A gwnaf iddynt drigo yn eu tai, medd yr Arglwydd.
Đang chọn:
Hosea 11: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.