Habacuc 2
2
PEN. II.—
1Safaf ar fy nysgwylfa;#fy lle. Syr.
Ac ymsefydlaf ar dŵr:#ar graig. LXX. pan sangwyf ar graig. Syr.
Ac edrychaf i weled pa beth a ddywaid wrthyf;
A pha beth a atebaf#y’m atebir. LXX. ateb a rydd. Syr. am yr hyn yr achwynaf arno.#i’r sawl a achwyno arnaf. Vulg.
2A’r Arglwydd a’m atebodd ac a ddywedodd;
Ysgrifena weledigaeth;#a weli, a gei weled.
A cherfia#ac yn eglur ar. LXX., Vulg. ar y llechau:
Fel y rhedo#ynddi. Syr. yr hwn a’i darlleno.#a ddarll. ynddi. Hebr.
3Canys eto bydd gweledigaeth at yr amser;#ymddengys eto ymhell. Vulg.
A hi a frysia#tyr allan, a gyfyd. LXX. i’r diwedd ac ni thwylla:#ac nid yn ofer. LXX.
Os erys, dysgwyl wrthi:#wrtho. LXX.
Canys gan ddyfod y daw, nid oeda.#daw yn fuan. Syr.
4Wele trahaus,#ac mewn anwiriad nid ymhyfrydodd ei enaid. Syr. os tyn yn ol. LXX. wele yr hwn sydd yn anghrediniol. Vulg.
Nid uniawn ei enaid ynddo:#nid yw fy enaid foddhaol ynddo. LXX.
A gŵr uniawn a fydd byw yn ei ffyddlondeb.#o’i, trwy, ei ffydd ynof fi—i mi. LXX.
5A hefyd fel y twylla gwin;#a’r trahaus a’r dirmygus, yn wr ffrostus na chwblhao ddim LXX. a gwr trahaus. Syr.
Gŵr balch#a chybyddlyd. Syr. yw efe ac ni bydd lonydd:#ni ddigonwyd. Syr. nid addurnir. Vulg.
Yr hwn a helaetha ei enaid fel anwelfa,
Ac y mae efe fel yr angeu,
Ac nis digonir ef;#nis cyflawnwyd ef. LXX. nis cyflenwir. Vulg.
Ac efe a gasgl#fel angeu casglodd ato. Syr. ato yr holl genedloedd;
Ac a gynull#dynodd ato yr. Syr. ato yr holl bobloedd.
6Oni chyfyd y rhai hyn oll o honynt ddiareb#dameg. LXX, Vulg. am dano;
A chaneuon gwatwarus iddo:
A dywedir,#dywedant. LXX., Syr.
Gwae yr hwn a chwanego yr hyn nad yw eiddo iddo;
Pa hyd;
A’r hwn a lwytho arno wystlon yn drwm.#ei gadwyn yn dyn. LXX. cwmwl o laid. Syr. clai tew. Vulg.
7Onid yn ddisymwth y cyfyd y rhai a’th gnoant;#a’i cnoant. LXX.
Ac y deffry y rhai a’th gystuddiant:#a gynghorant i’th erbyn. LXX, a’th larpiant. Vulg.
A thi a fyddi yn ysglyfaeth iddynt.
8Am iti ysbeilio cenedloedd lawer;
Holl weddill pobloedd a’th ysbeiliant dithau:
Am waed dyn a thrais#annuwioldeb. LXX. i wlad;
I ddinas ac oll ag a drigant ynddi.
9Gwae a elwo#a orthrymo ac a gasglo ddrwg iddo ei hun. Syr. elw#gybydd-dod. LXX., Vulg. drwg i’w dŷ:
I osod ei nyth yn uchel;
I ddianc o afael drygfyd.#o law drygau. LXX. law drwg. Vulg.
10Cynghoraist warth i’th dŷ:
I ddinystrio#cyd-ddybenaist. LXX. pobloedd lawer;
A phechu y bu dy enaid.#a pheraist i’th enaid bechu. Syr. yn erbyn dy.
11O herwydd careg a lefa o fûr;
A thrawst#a chwilen a ddywed hyn. LXX, hoelbren. Syr. a’i hetyb o’r coed.
12Gwae a adeilado dref trwy waed:
Ac a gadarnhao#ddarparo. LXX., Vulg. ddinas trwy anghyfiawnder.
13Wele, onid oddiwrth Arglwydd y lluoedd y mae:#y pethau hyn. LXX., Vulg. hyn oll. Syr.
Y gwna pobloedd lafurio wrth dân;#mewn tân lawer. Vulg. pobloedd amryw a fethant mewn tân a—a ddiffygiant. LXX. y bobloedd a ymflinant. Syr.
A chenedloedd ddiffygio wrth wagedd.
14Canys llenwir y ddaear;
Gan wybodaeth#a gwybod. LXX. gogoniant yr Arglwydd,
Fel y toa y dyfroedd fôr.#hwynt. LXX.
15Gwae a roddo ddiod i’w gymydog;
Gan dywallt dy gostrel#i ddadymchweliad blin. LXX. fustl. Vulg. a gwaddod digofaint. Syr. a pheri meddwi hefyd:
Er cael edrych ar eu noethni#ogofau. LXX. hwynt.
16Llanwyd di o warth#llawnder o amharch, wedi — oddiwrth ogoniant — yf dithau. LXX. yn fwy na gogoniant;
Yf dithau hefyd a noetha dy flaengroen:#llamed a chryned dy galon. LXX. a therfysger di. Syr. a chysga. Vulg.
Try atat gwpan deheulaw#a’th gylchodd. LXX. a’th gylcha. Vulg. try deheulaw yr. yr Arglwydd;
Chwydiad gwarthus#a chesglir gwarth. LXX. a bydd anmharch ar. Syr. fydd ar dy ogoniant.
17Canys trais#annuwioldeb. LXX. anghyflawnder at. Vulg. Libanus a’th orchuddia;
A difrod anifeiliaid a’u#a’th ddych. LXX., Syr. dychryna:
O achos gwaed dynion a thrais ar wlad,
Dinas ac oll ag a drigant ynddi.
18Pa les a wna delw gerfiedig,
Er i’w lliniwr ei cherfio hi;#ddarfod iddynt ei. LXX. i beth, p’am y cerf. LXX. Tisch.
Delw dawdd ac athraw celwydd,#yn wedd gelwyddog. LXX. athrawiaeth celwydd. Syr.
Er i liniwr ei waith hyderu arno;
I wneuthur eilunod mudion.#eilun mud. Syr. byddeir.
19Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro;
Cyfod, wrth gareg fud:
Efe a rydd addysg;#sydd yn ymddangosiad. LXX. a all efe addysgu. Vulg.
Wele gwisgwyd ef âg aur ac arian;
A dim anadl nid oes o’i fewn.#ynddynt. Syr. yn ei ymysgaroedd. Vulg.
20Ond y mae yr Arglwydd yn ei deml santaidd:
Yr holl ddaear gostega#yr holl—ofned rhag ei wyneb, LXX. ymgynhyrfa o’i flaen ef. Syr. ger ei fron EF.#rhagddo.
Đang chọn:
Habacuc 2: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.