Habacuc 1
1
PEN. I.—
1Y baich#gweledigaeth. Syr. yr hwn a welodd Habacuc y proffwyd.
2Hyd bryd Arglwydd y gwaeddaf,
Ac nis gwrandewi:
Llefaf wrthyt, trais,#yn dreisiedig. LXX. yn dyoddef. Vulg.
Ac nid achubi.
3Paham y gwnei i mi weled anwiredd,
Ac y peri edrych ar flinder;
Anrhaith a thrais sydd o’m blaen:#i’m herbyn y bu barn, a barnwr yn derbyn. LXX. a barnwr yn derbyn gwobr. Syr. a gwnaed barn a gwrthddywediad a fu drech. Vulg.
Ac y mae y cyfyd dadl ac ymryson.
4Am hyny y llaesa cyfraith;
Ac nid â barn allan yn fuddugol:#byth, i’r diwedd. LXX. Vulg. mewn buddugoliaeth. Syr.
Am fod y drygionus yn amgylchu yr uniawn;
Am hyny yr a#aeth. Syr. allan farn ŵyrog.
5Edrychwch ar y cenedloedd#ddirmygwyr. LXX. feilchion. Syr. a gwelwch;
A chan ryfeddu rhyfeddwch:
Canys mi a wnaf waith#sydd yn cael ei wneuthur. Vulg. yn eich dyddiau;
Ni choeliwch y mynegir ef.#pe mynegai rhyw un. LXX. dyn. Syr. ni chred neb pan adroddir ef. Vulg.
6Canys wele fi yn codi y Caldeaid;
Y genedl chwerw a phrysur:
Yr hon a rodia i ledled daear;
I feddianu cyfaneddoedd#pebyll. LXX., Vulg. nad ydynt eiddo hi.
7Dychrynllyd ac ofnadwy yw hi:
Ohoni hi y daw allan ei barn a’i rhagoriaeth.#codiad, llwyth. LXX., Vulg. gwedd. Syr.
8A buanach#a lamant yn fwy na. LXX. ysgafnach Vulg. na llewpardiaid#eryrod. Syr. yw ei meirch,
A llymach#cyflymach. Vulg. na bleiddiau hwyr;#Arabia. LXX.
A’i marchogion a lamant:#wasgerir. Vulg.
A’i marchogion a ddeuant o bell;
Ehedant fel eryr yn prysuro#gwancus. Syr. awyddus. LXX. i fwyta.
9Hi a ddaw yn gwbl at drais;#diwedd i annuwiolion a ddaw. LXX.
Cyfeiriad#egni, awydd. gwynt llosgawl yw eu gwyneb. Vulg. y rhai a wrthsafasant eu hwynebau hwynt. LXX. gwelediad eu gwyneb sydd gryf. Syr. eu wynebau sydd rhag blaen:
Ac efe a gasgl gaethion fel tywod.
10Ac efe a wetwyr freninoedd;#ymhyfryda mewn. LXX. a chwardd ar. Syr. orfoledda ar. Vulg.
A thywysogion a fyddant yn chwerthiniad iddo:
Efe a chwardd wrth bob ymddiffynfa;
Efe a dyra lwch ac a’i cymer#deil hi. Syr. hi.
11Yna yr adnewydda wroldeb;#ysbryd. y newid yr ysbryd. LXX. ei ysbryd. Syr. y newidir ei. Vulg.
Ac a dramwya ac a drosedda:#a wna ddyhuddiad. LXX. a syrth. Vulg.
Hwn,#y nerth hwn sydd i’m duw. LXX. a thybir ei nerth yn dduw iddo. Syr. hyn yw ei nerth gan ei dduw ei hun. Vulg. ei rym yw ei dduw.
12Onid wyt ti er cynt#o’r dechreuad. LXX., Syr., Vulg. Oh! Arglwydd fy Nuw;
Fy Santaidd#fy Nuw santaidd. LXX., Syr.,
Ni byddwn farw:
Yn farnedigaeth y gosodaist ef;
Ac yn graig#oh, graig at—ac a’m lluniaist i’w geryddu ef. Syr. a’m lluniodd i argyhoeddi ei gerydd ef. LXX. ac yn gryf fel y ceryddit y seiliaist ef. Vulg. at geryddu yr ordeiniaist ef.
13Yn lanach o lygaid nac i weled drygioni;
Ac edrych ar flinfyd ni elli:#nid edrychant ar ddrwg. Syr.
Paham yr edrychi ar droseddwyr;#rai dichellus, dirmygwyr. LXX.
Y tewi pan lynco gŵr drygionus un uniawnach nag ef.
14Ac y gwnei ddynion#ddyn. Hebr. fel pysgod y môr:
Ac ymlusgiaid#ymlusgiad. Hebr. y sydd heb lywydd arnynt.
15Efe a’i cyfyd#cyfododd. Vulg. i fyny i gyd â bach;
Tyn ef yn ei rwyd;
Ac a’i casgl yn ei fallegrwyd:
Am hyny y llawenycha ac y gorfoledda.
16Am hyny yr abertha i’w rwyd;
Ac yr arogldartha i’w fallegrwyd:
Canys trwyddynt hwy y mae ei ran yn fras;#y brashaodd ei. LXX.
A’i fwyd yn ddanteithiol.#yn ddewisol. LXX., Vulg.
17A ga efe gan hyny waghau#efe a fwrw ei. LXX. yn lledu ei. Vulg. bwriodd ei—ac nid arbedodd. Syr. ei rwyd:
Ac nad arbedo ladd y cenedloedd yn wastadol.
Đang chọn:
Habacuc 1: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.