Amos 8
8
PEN. VIII.—
1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Iôr i mi:
Ac wele fasgedaid o ffrwythau haf.#fasgedaid haf, addfed. llestr adarwr. LXX, arwydd o’r diwedd. Syr. bachaid o afalau. Vulg.
2Ac efe a ddywedodd, Pa beth a weli di, Amos:
A mi a ddywedais,
Basgedaid o ffrwythau haf:
A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf,
Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel;
Ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.#ei droad oddiwrthynt. Syr.
3A chaniadau#nenau, cerfiadau y deml a gwynfanant. LXX. bachau dorau — a wichiant. Vulg. teml a droir yn alarnad ar y dydd hwnw;
Medd yr Arglwydd Iôr:
Lluaws o gelaneddau;
Yn mhob lle a deifl#taflaf. LXX. ac a deflir i ddystryw. Syr. yn mhob lle y teflir dystawrwydd. Vulg. ddystawrwydd.
4Gwrandewch hyn,
Y rhai a ddyheuwch#ffroenwch ar, rhuthrwch ar. a ddrylliwch. LXX., Vulg. ydych yn dirmygu tlodion. Syr. am anghenog:
A chan beri i dlodion gwlad ddarfod.#orthrechwch dlodion allan o’r tir. LXX.
5Gan ddywedyd,
Pa bryd yr â dydd y newydd loer heibio,
Fel y gwerthom#prynom. ŷd;
A’r sabbath,
Fel yr agorom#gwerthom. wenith:#yd, drysor. LXX.
Gan fychanu epha a mwyhau sicl;#lleihawn y mesur a mwyhawn y pwysau. Syr.
A thrwy dwyll wneuthur clorianau annghydbwys.#annghyfiawn. LXX. twyllodrus. Syr. Vulg.
6Gan brynu tlodion am arian;
A gwr anghenus er pâr o sandalau:#a’r truenus am sorod. Syr.
A ni a werthwn wehilion#o bob cynyrch y gwnawn fasnach. LXX. ysgubion ysgubor. Syr. gwenith.
7Tyngodd yr Arglwydd trwy ogoniant#cadarn Jacob. Syr. Jacob:
Nid annghofiaf byth eu holl weithredoedd hwynt.
8Oni chryn y ddaear am hyn;
Ac y galara ei holl breswylwyr:
A hi a gyfyd i gyd fel afon;#fel afon ollol. Vulg. ac esgyn dybendod fel afon ac a ostwng fel afon yr. LXX.
A hi a ddygir ymaith#a yrir, a symud. Syr. ac a ostwng megys afon yr Aipht.
9A bydd yn y dydd hwnw,
Medd yr Arglwydd Iôr:
Y gwnaf i’r haul fachludo haner dydd:
Ac y tywyllaf y ddaear ar ddydd#y tywylla y goleuni yn y dydd. LXX. goleu.
10A throaf eich gwyliau yn alar,
A’ch holl ganiadau yn gwynfan;
A dygaf sachlîan ar yr holl lwynau;#bob cefn. Vulg.
A moelni ar bob pen:
A gosodaf iddi alar fel am unig#ef fel galar am anwylyd. LXX. blentyn;
A’i diwedd fel dydd chwerw.
11Wele ddyddiau yn dyfod,
Medd yr Arglwydd Iôr;
Yr anfonaf newyn i’r tir:
Nid newyn am fara ac nid syched am ddwfr;
Ond am gael#newyn clywed. LXX. clywed geiriau yr Arglwydd.
12A hwy a grwydrant#a ymgasglant. Syr. o fôr i fôr;
Ac o’r gogledd hyd y dwyrain:
Gwibiant#y gwibiant, i geisio—. a rhedant i—. Syr. i geisio gair yr Arglwydd,
Ac nis cânt.
13Yn y dydd hwnw y llewyga y gwyryfon glân,
A’r meibion ieuainc trwy syched.
14Y rhai a dyngant trwy bechod#iawn, cymodiad. hynawsedd. LXX. eilunod. Syr. Samaria;
Ac a ddywedant,
Byw#myn bywyd. yw dy dduw#yr Arg. dy Dd. LXX. di, Dan;
A byw yw ffordd#dy dduw di. LXX. Beersheba:
A hwy a syrthiant ac ni chodant mwyach.
Đang chọn:
Amos 8: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.