Amos 7
7
PEN. VII.—
1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Iôr#Dduw. Vulg., LXX. i mi;
Ac wele efe yn ffurfìo locustiaid;#hil loc., yn dod yn foreu. LXX. creadigaeth o loc. Syr. gwneuthurwr loc. Vulg.
Pan ddechreuodd yr atdwf#adladd. atdwf gwlaw diweddar. Vulg. godi:
Ac wele atdwf#adladd. atdwf gwlaw diweddar. Vulg. wedi lladdiadau gwair y brenin oedd.
2A bu pan ddarfuwyd#ddybenodd fwyta. LXX., Vulg. bwyta glaswellt y ddaear;
Y dywedais,
Arglwydd Iôr#Arglwydd, Arglwydd. LXX. arbed#bydd dostnriol. LXX., Vulg. attolwg;
Pwy a gyfyd Jacob;
Canys bychan yw efe.
3Tosturiodd#trodd yr—hyn. Syr. yr Arglwydd wrth hyn:
Ni bydd medd yr Arglwydd.
4Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Iôr i mi;
Ac wele yr Arglwydd Iôr yn galw am farn drwy dân:
Ac efe a ddifaodd y dyfnder mawr;
Ac a ddifaodd y tir.#y rhandir, yr etifeddiaeth. rhan yr Arglwydd. LXX. ran. Vulg.
5A mi a ddywedais,
Arglwydd Iôr paid, attolwg;
Pwy a gyfyd Jacob: Canys bychan yw efe.
6Tosturiodd yr Arglwydd wrth hyn:
Ni bydd hyn, hefyd;
Medd yr Arglwydd Iôr.
7Fel hyn y dangosodd efe#yr Arglwydd i mi. LXX. Vulg. i mi;
Ac wele yr Arglwydd yn sefyll ar fûr syth;#plwmed, adamant. LX., Syr. dwbiedig. Vulg.
Ac yn ei law blwmed.#adamant. LXX. Syr. trywel dwbiwr. Vulg.
8A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf,
Beth a weli di, Amos;
A mi a ddywedais, Plwmed:
A dywedodd yr Arglwydd,
Wele myfi yn gosod plwmed yn nghanol fy mhobl Israel:
Ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.
9A dinystrir uchelfëydd#pebyll. Syr. Isaac;#y chwerthin. LXX., Syr. yr eilun. Vulg.
A chysegroedd#defodau, gwyliau. LXX. Israel a anrheithir,#a anrheithiant. Syr.
A mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf.
10Ac Amasiah offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, bradfwriadodd#terfysgoedd a wna. LXX. gwrthryfelodd. Vulg. Amos i’th erbyn yn nghanol tŷ Israel; ni ddichon y tir ddyoddef ei holl eiriau ef. 11Canys fel hyn y dywedodd Amos:
Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf:
Ac Israel yn ddiau a gaethgludir allan o’i wlad.
12A dywedodd Amasiah wrth Amos:
Weledydd, dos, ffo i wlad Judah:
A bwyta fara yno!
Ac yno proffwyda.
13Ac yn#i. LXX. Bethel;
Na chwanega broffwydo mwyach:
Canys cysegr brenin ydyw hi;
A llys teyrnas#llys breninol, ty y deyrnas. Vulg. ydyw hi.
14Ac Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaziah;
Nid proffwyd oeddwn i;
Ac nid mab i broffwyd oeddwn i:
Canys bugail#bugail geifr. LXX. oeddwn i a thriniwr#crafwr. LXX. ac yn casglu. Syr. piliwr syc. Vulg. casglydd ffigys. sycamorwydd.
15A’r Arglwydd a’m cymerodd i;
Oddiar ol y praidd:
A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf;
Dos, proffwyda i’m pobl Israel.
16Ac yn awr gwrando air yr Arglwydd:
Ti a ddywedi na phroffwyda yn erbyn#am. Vulg. Israel;
Ac na ddefnyna air#ac na chyfod derfysg. LXX. ac na ddysg i. Syr. na ddifera ar. Vulg. yn erbyn tŷ Isaac.#Jacob. LXX. yr eilun. Vulg.
17Am hyny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd,
Dy wraig a buteinia yn y#dy. Syr. ddinas;
A’th feibion a’th ferched a syrthiant drwy y cleddyf;
A’th dir a renir wrth linyn:
A thithau,
Byddi farw mewn tir halogedig;
Ac Israel,
A gaethgludir yn ddiau allan o’i wlad.
Đang chọn:
Amos 7: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.