Amos 6
6
PEN. VI.—
1Gwae y rhai esmwyth#trahaus wrth S. y rhai a ddirmygant S. LXX. Syr. chwi y goludogion yn S. Vulg. yn Sion;
A’r rhai a ymddiriedant yn mynydd Samaria:
Gwyr nodedig#a neillduwyd yn benau y bobloedd. Syr. y flaenaf o’r cenedloedd;
Ac atynt hwy y mae tŷ Israel yn dyfod.#ty Isr. ewch drosodd bawb a gwelwch. LXX.
2Ewch trosodd i Calneh#Celia. Syr. ac edrychwch;
Ac ewch oddiyno i Hamath Fawr:
A disgynwch i Gath Philistiaid;
Ai gwell ydynt#mai gwell yw hi na’r. Syr. y rhai ydynt alluocaf o’r holl d. LXX. ac at bob un o deyrnasoedd goreu y rhai hyn. Vulg. na’r teyrnasoedd hyn;
Ai mwy yw eu terfyn hwynt na’ch terfyn chwi.
3Y rhai ydych yn pellhau#y rhai sydd yn dyfod at dd. LXX. yn dysgwyl am y. Syr. y rhai ydych neillduedig i. Vulg. dydd drwg:
Ac a ddyneswch at eisteddle trais.
4Y rhai a orweddant#gysgant. LXX. ar welyau ifori;
Ac a ymestynant#ymfoethant. LXX. ymdrythyllant. Syr. ymdrythyllwch. Vulg. ar eu glythau:
Ac a fwytant ŵyn#geifr. LXX. tewion o’r praidd;
A lloi#lloi llaethedig. LXX. o’r cut.
5Y rhai a ddadganant#a ddaliant ar sain yr organau. LXX. gyda’r nabl:
Fel Dafydd dychymygasant iddynt eu hunain offer cerdd.#fel pethau yn sefyll y cyfrifasant nid fel pethau yn ffoi. LXX.
6Y rhai a yfant mewn phiolau gwin;#gwin hidledig. LXX. pur. Syr.
Ac a ymirant a’r olew penaf:
Ond nid ymofidiant#nid oes ofal ganddynt. Syr. ni ddyoddefasant ddim. LXX., Vulg. am ddryllio Joseph.
7Am hyny yn awr hwy a ddygir yn gaeth gyda’r cyntaf a gaethgludir:.
Ac ymedy crechwen y rhai a ymestynant.#gloddestwyr. a chymerir ymaith lawenydd oddiwrth eu harglwyddi. Syr. a chymerir ymaith weryriad meirch o Ephraim. LXX. cymerir ymaith blaid y rhai trythyll. Vulg.
8Tyngodd yr Arglwydd Iôr i’w einioes,#iddo ei hun.
Medd yr Arglwydd Duw y lluoedd;
Ffiaidd genyf falchder Jacob;
A chasheais ei balasau,
A chauaf i fynu#cymeraf ymaith. LXX. ddinas ag y sydd ynddi.
9A bydd os gweddillir deg o ddynion mewn un tŷ,
Y byddant farw.#bob un. Syr.
10A châr un a’r hwn a’i llysg a’i cymer,
I ddwyn esgyrn allan o’r tŷ;#eu tylwyth a’u cymerant ac a gymellant ddwyn allan eu. LXX. a’i gymydog a’i cymer ac a’i llysg fel y dygo allan yr. Vulg.
Ac a ddywaid wrth yr hwn fyddo yn rhan fewn y tŷ,
A oes genyt neb eto,
Ac efe a ddywaid, Nac oes;#diwedd, y cwbl, dim. nac oes eto. LXX.
Ac a ddywaid, Taw;
Canys nid gwiw coffau#nid ydys i goffau. am na chofiasant enw yr. Syr. am enw yr Arglwydd.
11O herwydd wele yr Arglwydd yn gorchymyn;
Ac efe a dery y tŷ mawr yn adfeilion:#bâr iddo grynu. Syr.
A’r tŷ bychan yn holltau.#yn ddau hanner. a’i anrheithia. Syr.
12A rêd meirch ar y graig;
A erddir hi âg ychain:#a dawant wrth fenywod. LXX.
Canys troisoch farn yn wenwyn;#cecyd. colocynth, digofaint. LXX. chwerwder. Syr.
A ffrwyth cyfiawnder yn wermod.
13Y rhai a lawenhewch o herwydd yr hyn nad yw ddim:
Y rhai a ddywedwch;
Onid trwy ein nerth ni;
Y cawsom i ni gryfder.#gyrn. Hebr. ddinas. Syr.
14Diau wele fi yn codi yn eich erbyn chwi, tŷ Israel,
Medd yr Arglwydd, Duw y lluoedd, genedl:
A hwy a’ch gorthrymant#gwasgant. drylliant. Vulg. chwi,
O’r ffordd yr eir i Hamath#rhag myned i. LXX. hyd afon y diffaethwch.#y machludiadau, gorllewin. LXX. hyd ddyffryn machlud haul. Syr.
Đang chọn:
Amos 6: PBJD
Tô màu
Chia sẻ
So sánh
Sao chép
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.