Salmau 18
18
Salm XVIII.
I’r Pencerdd: eiddo gwas Iehova, eiddo Dafydd, yr hwn a lefarodd i Iehova eiriau y gân hon, ar y dydd y gwaredodd Iehova ef o afael ei holl elynion, ac o law Saul — a dywedodd —
1Anwyl-garaf#18:1 Anwyl-garaf; yn lythyrenol, ymysgareddaf; tyner-garaf, gwresog-garaf, neu cofleidiaf, yw ystyr y gair. Ex intimis visceribus diligam, — Junius a Thremelius. — Cadernid, sef, yr hwn sydd yn fy ngwneud yn gryf ac yn nerthol. Iehova fy nghadernid:
2 Iehova “yw” fy lloches#18:2 lloches, yn lythyrenol, craig; ond un a feddyliai y byddid yn llochesu ynddi — “llochesau y graig.” Ni feddwn un gair arall addas. a’m diogelfa a’m gwaredydd,
Fy Nuw, fy nghraig#18:2 fy nghraig, — un er sylfaen yw hon, a all gynnal un a safo arni. ; ymddiriedaf ynddo:
Fy nharian, a nerth#18:2 nerth, &c. yn lythyrenol, corn: dynodai corn un o ddau beth, grym neu urddas; yma grym neu nerth. Y gallu a roddai ymwared oedd eiddo Duw. Nerthol waredydd a feddylir. — “Arfera y Salmydd amryw enwau er dangos, fel ag y mae gan y gelyn amrywiol ffyrdd i niweidio, fod gan Dduw amrywiol ffyrdd i gynnorthwyo.” fy ymwared, fy uchelfa.
3Gan foliannu,#18:3 Gan foliannu,— felly LXX. a mwy unol ag arfer yr iaith na’r cyfieithiad cyffredin. galwaf ar Iehova;
Ac achubir fi rhag fy ngelynion.
4Pan#18:4 Pan, — felly yn 2 Sam. 22:5. ac mewn rhai copïau yma. gylchyno fi gadwynau#18:4 gadwynau, — cyfeiria at arfer helwyr, y rhai a ddefnyddiant gadwynau neu raffau i ddal anifeiliaid gwyllt. Y rhai a syrthiant iddynt a syrthiant i gadwynau marwolaeth. Yr un cyfeiriad a wneir pan ddywedir am “gadwynau’r bedd,” a “maglau marwolaeth.” Yr oedd erlidwyr yn arfer pob moddion er rhwydo pobl Dduw: os gwnaent eu dal, marwolaeth a’r bedd fyddai eu rhan. marwolaeth,
Ac y dychryno fi ffrydiau y Fall;
5Pan amgylcho fi gadwynau y bedd,
Y rhagflaeno fi faglau marwolaeth;
6Yn fy nghyfyngder galwaf ar Iehova;
Ië, ar fy Nuw y gwaeddaf; Gwrendy o’i deml fy llef,
A’m gwaedd o’i flaen a ddaw i’w glustiau:
7Yna sigla a chryna y ddaear,
Ië, cynhyrfa ac ymsigla seiliau y mynyddoedd.
8 # 18:8 O hon hyd y 16 adnod, y mae darluniad o ymddangosiad Duw wedi ei gymmeryd oddiwrth yr hyn a draethir am ei wyrthiau yn yr Aipht, yn y Môr Coch, ar Sinai, ac yn ninystr trigolion Canaan. Pan ddigiodd efe, esgynodd mwg yn ei lid,
A thân o’i enau a ysodd;
Fflamau a ennynwyd ganddo:
9Ië, gostyngodd y nefoedd a disgynodd,
A’r caddug o tan ei draed;
10A marchogodd ar gerub, ac ehedodd,
Ië, ehedfanodd ar adenydd y gwynt;
11A gosododd dywyllwch yn ddirgelfa iddo,
Ei amgylchoedd yn orchudd iddo —
Tywyllni’r dyfroedd, cymylau’r wybren.
12Gan y disgleirdeb “oedd” o’i flaen, ei gymylau
A aethant heibio yn genllusg ac yn fflamau tân:
13Canys taranodd Iehova o’r nefoedd,
A’r Goruchaf a roddodd ei lais, Cenllysg a fflamau tan:
14Ië, danfonodd ei saethau, a gwasgarodd hwynt;
A melltenau aml, ac a’u terfysgodd:
15A gwelwyd ffrydiau dyfroedd,
Ac amlygwyd seiliau y byd,
Gan dy gerydd di, Iehova,
Gan chwythad gwynt dy lid.
16Danfona#18:16 Danfona, — sef dan amgylchiadau y fath ag a enwyd achod. Y’nghanol dinystr cyffredin cymmerai Duw ofal am dano. o’r uchelder, cymmer fi;
Tyn fi allan o ddyfroedd lawer:
17Gwared fi rhag fy ngelyn cadarn,
A rhag fy nghaseion; canys cryfach ydynt na mi.
18Cyfarfyddant â mi yn nydd fy ngofid
Ond bydd Iehova i mi yn gynnaliad;
19A dwg fi allan i ehangder;
Gwared fi, canys hoffodd ynof.
20Edfryd Iehova i mi yn ol fy nghyfiawnder;
Ac yn ol glendid fy nwylaw yr adchwela i mi;
21Canys cedwais ffyrdd Iehova,
Ac ni wrthgiliais#18:21 ni wrthgiliais, — neu ni throais yn annuwiol oddiwrth Dduw. oddiwrth fy Nuw;
22Canys ei holl farnau ydynt ger fy mron,
A’i ddeddfau ni fwriaf oddi wrthyf:
23Ië, byddaf berffaith ger ei fron,
Ac ymgadwaf rhag fy anwiredd;
24Ac adchwela Iehova i mi yn ol fy nghyfiawnder,
Yn ol glendid fy nwylaw ger ei fron.
25A’r trugarog#18:25 A’r trugarog, &c. — Dywed yma am Dduw fe llywodraethwr y byd, ac nid fel cyfranydd gras; fel Duw cyfiawn, ac nid fel Duw trugarog. Fel llywodraethwr, ymddwg fel y dywedir yma; dengys gariad i’r rhai duwiol, a gwrthwyneba y rhai annuwiol. y gwnei drugaredd,
A’r gwr perffaith y gwnai berffeithrwydd,#18:25 cyfiawnder, y perffeithrwydd,â’r glendid, a sonia y Salmydd am danynt, oeddent mewn perthynas i’w elynion, ac eilun-addoliaeth. Yr oedd yn gyfiawn o ran y pethau y cyhuddid ef gan ei wrthwynebwyr; yr oedd yn berffaith o ran ei ymlyniad wrth Dduw, ac yr oedd yn lân oddiwrth y pechod o wrthgiliad, neu’r anwiredd o eilun-addoli.
26A’r glân y gwnai lendid;
Ond a’r cyndyn yr ymgyndyni:
27Canys ti achubi bobl orthrymedig,
A golygon uchel a ostyngi:
28Canys ti a oleui fy llusern, Iehova;
Fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch:
29Canys trwyddot ymlidiaf fyddin;
A thrwy fy Nuw, llamaf dros fur —
30Y Duw “sydd” berffaith ei ffordd.
Yr hyn a lefarodd#18:30 Yr hyn a lefarodd, &c. yn lythyrenol, llefariad, sef y peth a draethodd, yn enwedig ei addewidion. Iehova sydd wedi ei buro#18:30 buro, neu goethi trwy dân. Y mae yr hyn a ddywed Duw fel arian a brofir trwy dân, daw allan yn bur. Nid oes dim sothach yn gymmysg âg ef.;
Tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
31Canys pwy sydd Dduw heblaw Iehova?
A phwy sydd graig onid ein Duw ni?
32Y Duw yr hwn a’m gwregysa â nerth,
Ac a wna yn berffaith fy ffyrdd;
33Yr hwn a osod fy nhraed fel ewigod,
Ac a’m sefydla ar fy uchelfan;
34Yr hwn a ddysg fy nwylaw i ryfel:
Gwnai#18:34 Gwnai, &c. — Unol â hyn yw y LXX. Dyma farn Horsley. hefyd fel bwa dur fy mraich,
35A rhoddi i mi darian dy waredigaeth;
A’th ddeheulaw a’m sefydla,
A’th gystudd#18:35 A’th gystudd, &c. — neu drallod a roddasai Duw arno; παιδεια, disgyblaeth, LXX. “Thy humiliation,” darostyngiad. Horsley; sef y darostyngiad a gafodd trwy ragluniaeth Duw. a’m gwna yn fawr:
36Ehangi fy nghamrau tanaf,
Fel na siglo fy ngwadnau:
37Erlidiaf fy ngelynion, a goddiweddaf hwynt;
Ac ni ddychwelaf nes eu difetha:
38Archollaf hwynt fel na allant godi;
Syrthiant o tan fy nhraed:
39Ië, gwregysi fi â nerth i ryfel,
Darostyngi fy ngwrthwynebwyr tanaf:
40A’m gelynion, rhoddi i mi “eu” gwddf;
A’m caseion, toraf hwynt ymaith.
41Gwaeddant; ond ni bydd achubydd:
Ar Iehova; ond ni ateb hwynt.
42Yna maluriaf hwynt fel llwch o flaen y gwynt;
Fel tom yr heolydd y taflaf hwynt allan.
43Gwaredi fi rhag cynhenau y bobl;
Gosodi fi yn benaeth y cenhedloedd:
44Pobl nid adnabum a’m gwasanaethant;
Ar wrandawiad#18:44 Ar wrandawiad, &c. — nid â’r galon: ni wnaent gyfrif o hono. clust y gwrandawant arnaf:
Meibion dieithr a ragrithiant#18:44 ragrithiant, &c. — methu o ran un peth yw ystyr y gair; ac yma, methu o ran y gwir. Celwyddu, a arfer y LXX. i mi;
45Meibion dieithr a ddihoenant,
Ië, brawychant o’u cauadleoedd#18:45 cauadleoedd— argauadau, cuddfannau, neu derfynau. .
46Byw yw Iehova, a bendigedig fyddo’m craig;
A derchafer fy Nuw, fy ngwaredydd;
47Y Duw a rydd i mi ymddialeddau,
Ac a ddwg y bobl danaf;
48Yr hwn a’m gwared rhag fy ngelynion;
(Diau tradyrchefi fi uwchlaw fy ngwrthwynebwyr;
Oddiwrth y gwr traws y’m gwaredi.
49Am hyny clodforaf di, Iehova, y’mhlith y cenhedloedd,
A chanaf i’th enw) —
50Yr hwn a fawreddusa#18:50 fawreddusa, &c. — sef, gwna yn fawreddig (magnificent or illustrious). Hynodai Duw ei waredigaethau, dygai hwynt i ben mewn modd hynod, rhyfedd, ac ardderchog. Mae yn eglur oddiwrth eiriadaeth yr iaith wreiddiol yr ymgyssyllta yr adnod hon â’r llinell gyntaf yn adn. 48. — Tra hyawdl a godidog yw y Salm hon waredigaethau ei frenin,
Ac a wna drugaredd i’w eneiniog,
I Ddafydd ac i’w had yn dragywydd.
NODAU.
Ceir y Salm hon yn 2 Sam. 22 bron air y’ngair. Amrywiant mewn geiriau yn fwy na sylwedd. Cynnwys saith rhan: —
I. Y dechreuad, adn. 1-3.
II. Ei arfer yn amser cyfyngder — gweddi, adn. 4-7.
III. Cyfeiriad at wyrthiol gyfryngiad Duw ar ran ei bobl, adn. 8-15. —
IV. Ei gred am yr hyn a wnai Duw eiddo, adn. 18-19. —
V. Cyfiawn ymddygiad Duw tu ag at y diniwed gorthrymedig, adn. 20-30.
VI. Hyder ar Dduw am fuddugoliaeth, adn. 31-45.
VII. Clodforiant i Dduw, adn. 46-50. Cyfieithir yn gyffredin y rhan fwyaf o’r Salm fel pe buasai yn adroddiad o’r hyn a gymmerodd le, gan arfer yr amser a aeth heibio (the past time) ond nid oes un reol ieithadurol am hyny. Cedwir yma yr amser priodol: y mae’r perwyddiaid yn yr amser dyfodol (future tense) yr hwn a arferai yr Hebreaid, fel y Cymry, yn fynych yn lle yr un presennol. Y mae amgylchiad ag sy’n troi hwn yn Hebraeg i amser wedi myned heibio; ond nid yw y rhan fwyaf o’r perwyddiaid yma dan y fath amgylchiad.
Đang chọn:
Salmau 18: TEGID
Tô màu
Sao chép
So sánh
Chia sẻ
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Cafodd Argraffiad Digidol Salmau 1-20 a detholiad o Ruth ac Eseia ei ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2021.