Salmau 15
15
Salm XV.
Cerdd: eiddo Dafydd.
1 Iehova, pwy a drig#15:1 drig. — Ystyr y gair yn gyffredin yw ymdeithio; ond aros megys mewn trigfan a arwydda weithiau, ac felly yma, yn dy babell?
Pwy a breswylia yn dy fynydd#15:1 mynydd— Tŷ neu eglwys Dduw a feddylir. Lleoedd o addoliad oeddent yn gyffredin ar fanau uchel: Mynydd Moria — Mynydd Seion. sanctaidd?
2Yr hwn a rodia’n berffaith#15:2 a rodia’n berffaith; sef, yr hwn a gyfaddefo, a addolo, ac a wasanaetho y gwir Dduw, heb droi at eilunod. Gwel 1 Bren. 11:4. Y mae perffeithrwydd ffyddlondeb, a pherffeithrwydd ufudd-dod. Y mae pob gwir ddeiliad i Dduw yn berffaith yn ei ymroddiad iddo, gan na chydnebydd un Arglwydd arall; ond etto cyfaddef gyda gofid ei ddiffygion o ran ufudd-dod iddo. , ac a wna gyfiawnder#15:2 gyfiawnder. — Yr hyn sydd gywir, union, a chymmwys, tu ag at ein cyd-greadur yn gyffredin. ,
Ac a lefara wirionedd o’i galon#15:2 o’i galon. — “From his heart.” Cyfieithiad y Llyfr Gweddi Gyffredin yn Saesneg. Ex animo suo. Jun. a Threm. Nid digon llefaru gwirionedd, ond rhaid gwneud hyny o’r galon, yn gywir ac yn ddiragrith. Y prawf o hyn yw y cyssondeb a fyddo rhwng yr hyn a lefarom ac a wnelom. Os bydd y genau a’r fuchedd yn anghysson, nid oes ond twyll a rhagrith yn y galon. ;
3Heb absenu#15:3 Absenu. — Ystyr y gair yw troedio, neu sathru tan draed. Hyn a wna absenwyr, troediant ereill, neu sathrant hwynt dan eu traed: gwaith creulon, addas yn unig i greaduriaid rheibus. â’i dafod,
Heb wneud i’w gymmydog ddrwg,
Na chodi#15:3 Na chodi, — Nid derbyn, fel yn y cyfieithiad cyffredin. Yr un gair a gyfieithir codi yn Exod. 23:1. a’r cyssylltiad sydd yr un ag yma. enllib ar ei gyfnesaf#15:3 gyfnesaf. — Dyma air a gyfatebola yn gywir â’r un gwreiddiol: gellir ei ystyried fel hwnw fel yn dynodi y nesaf o ran lle neu berthynas.;
4Yr hwn y dirmyger yn ei olwg y gwaradwyddus#15:4 gwaradwyddus; sef o ran ei foes a’i ymddygiad. Diau mai “drygionus” yw y fath, ond nid hyn yw ystyr y gair. Un gwael a ffiaidd o herwydd ei aflan fuchedd a feddylir. Vile person. Cyf. Saes. Dirmygu neu ddiystyru y fath sydd ddyledus; ac etto dylid gwneuthur hyn yn y fath fodd ag a gydweddo âg ymdrech i’w diwygio, a’u dwyn i edifeirwch. ,
Ond a anrhydeddo y rhai a ofnant Iehova;
Yr hwn a dwng i gymmydog#15:4 i gymmydog: felly y LXX. ac felly y mae y Cyf. Saes. yn y Llyfr Gweddi Gyffredin. Tra thebygol yw i lythyren gael cyfnewid ei lle; a hyn i gyd a wna y gwahaniaeth: לרעה yn lle להרע. Diau mai y diweddaf oedd y darlleniad yn amser y LXX. , ac ni newidia;
5Yr hwn ni rydd ei arian ar lôg#15:5 ar lôg. — “Usuriaeth,” Cyf. Cyff. Nid hawdd gwybod pam yr arferwyd y gair Saesneg, pan yr oedd un Cymraeg i’w gael. Un o’r cyfreithiau neillduol a roddwyd i Israel, oedd peidio cymmeryd llog am arian. Peth perthynol i’r oruchwyliaeth hono oedd hyn. Cyfraith wladol oedd. Ni welodd Duw yn dda adnewyddu y fath gyfraith dan yr efengyl. ,
Ac ni dderbyn wobr yn erbyn y dieuog:
A wnelo’r pethau hyn, nis symudir byth#15:5 nis symudir byth; sef, o’i le y’mhabell neu eglwys Dduw. Caiff hwn drigo yno, a phreswylio yn dragywydd. Gwedi treulio ei ddyddiau ynddi yn y byd hwn, caiff breswylio ynddi, wedi ei gwneuthur yn wir ogoneddus, yn y nesaf, a hyny dros byth. .
NODAU.
Darlunir yma y gwir dduwiol, gan osod i lawr ei ymddygiad cyffredin. Ni sonir am yr egwyddor, ond am y ffrwyth. Nid addas disgwyl pob peth ym mhob darluniad. Ni ddywedir dim yma am ffydd a chariad, ond am eu heffeithiau. Tebyg mai diben y Salmydd oedd gwahaniaethu rhwng arddelwyr gwir a rhagrithiol. Cyfenwa llawer eu hunain y’mhob oes yn ganlynwyr Duw, heb feddu ar wir dduwioldeb. Pa fodd y gellir eu hadnabod? Wrth eu buchedd. Os nad ydynt yn ateb i’r fath ddarluniad a roddir yma, nid gwir, ond rhagrith a thwyll yw eu crefydd.
Đang chọn:
Salmau 15: TEGID
Tô màu
Sao chép
So sánh
Chia sẻ
Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập
Cafodd Argraffiad Digidol Salmau 1-20 a detholiad o Ruth ac Eseia ei ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2021.