Rhufeiniaid 6
6
ATHRAWIAETH SANCTEIDDHAD (6–8)
Undeb Cyfriniol y Credadyn â Christ.
1Pa beth gan hynny a ddywedwn? A barhawn#6:1 Llyth., aros ar bechod, gan gyfleu y syniad o ‘ddyfal‐barhau mewn ewyllys a gweithred.’ ni mewn pechod fel y byddo i ras amlhau? 2Na atto Duw#6:2 Llyth., na fydded! Y mae y syniad mor annuwiol ag yw yr ym esymiad yn wrthun, ‘Na atto Duw.’! Nyni#6:2 Y fath bobl a nyni, y rhai ydym eisoes wedi profi marwolaeth., y rhai a fuom feirw i bechod#6:2 Dyma y tro cyntaf i'r Apostol ddefnyddio yr ymadrodd, ‘marw i bechod.’ Defnyddia ‘marw i (neu i'r) ddeddf’ (7:4; Gal 2:9), ‘croeshoelio i'r byd’ (Gal 6:14). Golyga ‘marw i bechod’ dorri i ffwrdd oddiwrth ddylanwad a gallu pechod, fel y mae y caethwas, pan y bydd farw, yn rhydd o afaelion gormes ei feistr. Y mae Croes Crist, yn lle gwneyd pechod yn beth dibwys, yn ei gollfarnu yn dragywyddol, ac yn borth newydd i fywyd newydd a duwiol. Fel y dywedodd pagan dychweledig, “Y mae y groes yn fy nghondemnio i i fod yn sanctaidd.”, pa fodd y gallwn fyw etto ynddo? 3Neu a ydych heb wybod mai cynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist#6:3 Fedyddiwyd i Grist, ‘mewn perthynas iddo’: ‘Chwi a fedyddiwyd i Grist ac yn y weithred daethoch yn eiddo iddo.’ ‘Bedyddio i'w enw’ yw ei dderbyn a'i gydnabod yng ngoleu yr holl ddadguddiad y mae yr enw yn ei roddi. Nid yw bedyddio yma yn dangos marwolaeth yn gymmaint a chladdedigaeth. Y mae claddedigaeth yn brawf o'r farwolaeth. Y mae y credadyn yn marw i bechod pan mae ffydd yn cymmeryd meddiant o rin iawnol Crist. Dengys ‘claddu’ fod ffydd wedi ymlochesu yng Nghrist lle y mae pechod fel gormeswr wedi cael ei orchfygu. Iesu#6:3 Iesu א A C D; gad. B. ein bedyddio i'w farwolaeth ef? 4Cyd‐gladdwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth#6:4 Llyth., ‘trwy y bedydd i'r farwolaeth,’ sef eiddo Crist. Y mae bedydd yn angladd, gan ddangos fod marwolaeth yn ffaith, ac y mae yn gadarnhâd o'n cyssylltiad cyfammodol â Christ a'i farwolaeth. Y mae yn ddarlun a ddengys y credadyn yn cael ei osod gyda'i Arglwydd ym medd yr hwn fu farw drosto, ac o'r rhan a gymmerwn yn ein cyfiawnhâd., fel#6:4 Llyth., er mwyn, mewn trefn i. Nid yw y farwolaeth ond drws cyfyng yn arwain i eangder y bywyd newydd. Yr hyn oedd yr Adgyfodiad i Grist yw adnewyddiad gan yr Yspryd Glân i'r credadyn. Trwy farw gyda Christ yr ydym yn treiddio i uchelderau gogoneddusaf y bywyd uwch. megys y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant#6:4 Nid yw ‘gogoniant’ yn sefyll yn unig am ‘allu,’ ond am holl berffeithderau y Duwdod y rhai oedd yn amlygedig yn Adgyfodiad Crist, ei gyfiawnder a'i drugaredd, ei ddoethineb a'i sancteiddrwydd. Dyma brif gampwaith Duw. Pan gyflawnodd Crist ei brif wyrth, Cyfodiad Lazarus, dywedodd wrth Martha, “Oni ddywedais i ti … y caet ti weled gogoniant Duw.” y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb#6:4 Y mae yr ymadrodd yn arddangos nid yn unig fod y bywyd yn newydd, ond pwysleisir ei yni, hoewder, a'i barhâd. bywyd. 5Canys os ydym wedi ein cyfuno#6:5 Sumphutoi (yma yn unig yn y T.N.), cyd‐eni, cyd‐blannu, o'r un gwreiddyn, tyfu ynghyd. Trwy ffydd yng Nghrist a'i farwolaeth iawnol yr ydym yn cael ein himpio ynddo ef, Pren y Bywyd. Y mae yr hen ffrwyth yn marw ac yn syrthio ymaith, ac y mae bywyd yr Adgyfodiad yn dwyn ffrwyth i sancteiddrwydd. âg ef trwy gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, hefyd#6:5 Alla kai, ‘Yn wir, hefyd,’ ‘o gwrs, hefyd,’ ‘nid dyna'r oll, ond hefyd.’ ni a fyddwn trwy gyffelybiaeth ei adgyfodiad ef; 6gan wybod hyn, fod ein hen ddyn#6:6 Defnyddir ‘yr hen ddyn’ gan Paul yn unig, a hynny dair gwaith (Eph 4:22; Col 3:9). Edrycha ar y Cristion yn ffugyrol, cyn ei uniad â Christ, fel person arall, ‘fy hen hunan.’ ni wedi ei groeshoelio#6:6 Llyth., croeshoeliwyd, gweithred bennodol yn y gorphennol. gydag ef, fel y dirymmid corph pechod#6:6 Y corph dynol a lywodraethir gan allu pechod yn y dyn annychweledig. Nid yw yr un a'r ‘hen ddyn,’ yr hwn sydd grynhoad o dueddiadau drwg, ond y corph fel caethwas yr ‘hen ddyn.’, fel na wasanaethom#6:6 ‘Fel na fyddom mwyach yn gaeth‐weision i bechod.’ bechod mwyach. 7Canys y mae yr hwn a fu farw wedi ei ollwng yn rhydd#6:7 Y mae dedikaiotai (‘wedi ei gyfiawnhau’) yn golygu yma ‘wedi ei ryddhau.’ Fel y mae y caethwas, pan bydd farw, wedi ei osod yn rhydd oddiwrth ei feistr, felly y mae yr hwn a fu farw gyda Christ wedi ei ryddhau o allu pechod. oddiwrth bechod. 8Ond os buom feirw gyda Christ, yr ydym yn credu hefyd y cawn fyw gydag ef; 9gan wybod nad yw Crist a gyfodwyd oddiwrth y meirw yn marw mwyach: nid yw marwolaeth yn arglwyddiaethu arno mwyach#6:9 “Nid yw angau yn feistr arno mwy.”. 10Canys y farwolaeth y bu efe farw#6:10 Llyth., ‘yr hyn y bu farw,’ ‘canys mewn perthynas i'r hyn y bu farw.’, i bechod y bu farw unwaith am byth#6:10 Gweler Heb 7:27; 9:12, 26, 28; 10:10; 1 Petr 3:18.; ond y bywyd y mae yn ei fyw#6:10 Llyth., ‘yr hyn y mae yn ei fyw.’, byw y mae i Dduw. 11Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, ond yn fywi Dduw yng Nghrist Iesu ein#6:11 Ein Harglwydd א C; gad. A B D. Harglwydd.
12Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corph marwol#6:12 Corph marwol. Yr unig farwolaeth o'r hon ni ryddhâwyd gan Grist oedd marwolaeth y corph. ‘Nid yr hyn sydd i farw ddylai lywodraethu yspryd anfarwol y dyn.’ i ufuddhau o honoch i'w#6:12 Iddo [i bechod] D F G; gad. א A B C Brnd. chwantau. 13Ac na chynnygiwch#6:13 Gosod yn ymyl, cyflwyno, cynnyg. Yma yn yr amser presennol ‘Na pharhewch i gynnyg.’ eich aelodau yn arfau annghyfiawnder i bechod, eithr cynnygiwch#6:13 Yma yr aorist, ‘Cynnygiwch ar unwaith ac yn derfynol’ eich hunain yn yr oll o honoch, gorph ac yspryd.’ eich hunain i Dduw, megys rhai o feirw yn fyw, a'ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw#6:13 Y rhai y gall Duw eu defnyddio yng nghyflawniad cyfiawnder, sef gweithredoedd moesol a da.. 14Canys pechod nid arglwyddiaetha arnoch chwi, oblegyd nid ydych dan ddeddf ond dan ras.
Rhyddhad y Credadyn: Beth nad yw, a Beth yw.
15Pa beth, gan hynny? a bechwn ni o herwydd nad ydym dan ddeddf eithr dan ras? Na atto Duw! 16Oni wyddoch chwi mai i'r hwn y cynnygiwch eich hunain yn weision#6:16 Llyth., caeth‐weision. er ufudd‐dod, gweision#6:16 Llyth., caeth‐weision. ydych i'r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag#6:16 Etoi, ê. Defnyddia Paul yr ymglymeiriau hyn fel rhai cryfion i ddangos nas gellir gwasanaethu ‘dau arglwydd.’ ai gweision#6:16 Llyth., caeth‐weision. i bechod i farwolaeth, neu#6:16 Etoi, ê. Defnyddia Paul yr ymglymeiriau hyn fel rhai cryfion i ddangos nas gellir gwasanaethu ‘dau arglwydd.’ gweision ufudd‐dod#6:16 Paham y defnyddir ufudd‐dod yma yn lle, dyweder, sancteiddrwydd, mewn cyferbyniaeth i bechod? Gweithred ffydd yw ‘ufuddhau.’ Geilw Paul ffydd y Cenhedloedd yn “ufudd‐dod” (15:15). i gyfiawnder? 17Ond diolch i Dduw, a chwi oeddech weision pechod ond a ufuddhasoch o'r galon i'r ffurf#6:17 Gweler 5:14: (1) argraff a wnaed gan offeryn llym, (2) ad‐argraph, copi, (3) cynllun, dangoseg, siampl, safon; yma, ‘cyfundrefn o wirionedd.’ o athrawiaeth a draddodwyd i chwi#6:17 Fel rheol a deddf eich bywyd.; 18ac wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, chwi a wnaed yn weision#6:18 Llyth., chwi a gaethiwyd, ‘chwi a wnaed yn gaeth‐weision.’ i gyfiawnder. 19Yn ol dull dynol#6:19 Llyth., yn ddynol yr wyf yn llefaru. Gwna ymddiheurad am ddefnyddio ymadrodd fel ‘chwi a wnaed yn gaeth‐weision i gyfiawnder.’ Iaith y ddaear a dyn gormesol yw ‘caeth‐weision,’ etto dengys fod yn rhaid i'r credadyn roddi ei hun i fyny yn hollol i wasanaeth Duw. yr wyf yn dywedyd, oblegyd gwendid eich cnawd chwi#6:19 Nid (1) y rhwystrau moesol sydd ar eich ffordd i arwain y bywyd uwch, ond (2) eich anallu i amgyffred yn hollol a gweled yn eglur, o herwydd diffyg profiad ysprydol, ei sylfaeni a'i egwyddorion pell‐gyrhaeddol.; canys fel y cynnygiasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac i annghyfraith er annghyfraith#6:19 Anomia (‘Annghyfraith yw pechod,’ 1 Ioan 3:4), sef ‘torri cyfraith’ Duw. ‘Annghyfraith er annghyfraith.’ Y mae y weithred yn gorphen mewn cynnyrchu sefyllfa.; yr un modd yn awr cynnygiwch eich aelodau yn weision cyfiawnder er sancteiddiad. 20Canys pan oeddych weision pechod, rhyddion oeddych mewn perthynas i gyfiawnder#6:20 Yn rhydd o'i wasanaeth. Nid oes yma wawd‐iaith ond ffaith resynnus. ‘Rhoddasoch eich hunain yn hollol i wasanaeth pechod.’. 21Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw yn y pethau hynny y mae arnoch yn awr gywilydd o'u plegyd? diwedd y pethau hynny yw marwolaeth#6:21 Rhai a attal‐nodant yn wahanol, “Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw? Pethau y mae arnoch yn awr gywilydd o'u plegyd, canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth.”. 22Ond yn awr wedi eich rhyddhâu oddiwrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, mae i chwi eich ffrwyth er sancteiddiad, a'r diwedd yn fywyd tragywyddol. 23Canys cyflog#6:23 Opsônia, y bwyd a roddid i'r milwyr yn lle cyflog, yn enwedig pysgod. Yna, taliad am wasanaeth milwrol. Canlyniad, tal, gwobr pechod yw marwolaeth. pechod yw marwolaeth, eithr dawn#6:23 Charisma, rhad rodd. Bywyd o bechod yw achos cynnyrchiol marwolaeth, ond nid yw sancteiddiad yn achos bywyd tragywyddol, ond yn barotôad bendigedig i fwynhau rhad rodd Duw am byth. Duw yw bywyd tragywyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Rhufeiniaid 6: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.