Rhufeiniaid 7

7
Eglureb oddiwrth Briodas.
1Ai heb wybod yr ydych, frodyr (canys wrth rai sydd yn gwybod am ddeddf#7:1 Nid yw yr Apostol yn llefaru am un gyfraith neilltuol, Iuddewig neu Rufeinig, ond am ddeddf yn gyffredinol, yn yr hon y cydnabyddir yr egwyddor. yr wyf yn dywedyd), fod y Ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra byddo efe byw? 2Canys y wraig briod sydd wedi ei rhwymo gan ddeddf i'r gŵr tra byddo efe byw: ond os bydd y gŵr farw, rhyddhâwyd#7:2 Katargeô, ‘gwneyd yn aneffeithiol,’ ‘dirymmu.’ Y mae ei safle fel gwraig wedi ei ddirymmu yn hollol. ‘Y mae y wraig wedi ei dileu yn achos y ddeddf, a'r ddeddf wedi ei dileu yn achos y wraig.’ hi oddiwrth ddeddf y gŵr. 3Gan hynny, yn wir, a'r gŵr yn fyw, hi a ddyg yr enw#7:3 Chrematizô, trafnidio, trafnidio dan enw neilltuol; yna, dwyn enw neu deitl (Act 11:26, ‘galw y dysgyblion yn Gristionogion’). Gweler Mat 2:12, 22; Act 10:22. o odineb‐wraig, os ä yn eiddo gŵr arall; ond os bydd y gŵr farw, y mae hi yn rhydd oddiwrth y ddeddf, fel nad yw hi yn odineb‐wraig, er ei bod yn eiddo gŵr arall. 4Gan hynny, fy mrodyr, chwithau hefyd a wnaed yn feirw#7:4 Llyth., a roddwyd i farwolaeth trwy weithred un arall, sef Crist, yr hwn a fu farw drostynt ac yn eu lle. i'r Ddeddf trwy gorph#7:4 Yr hwn a osodwyd i farwolaeth. Efallai fod yn y gair ‘corph’ gyfeiriad at amcan mawr yr ymgnawdoliad. Crist, fel y byddoch eiddo un arall#7:4 Ni ddywedir fod y gyfraith wedi marw, ond awgrymmir ei bod wedi darfod, mor bell ag y mae ei hawliau arnom ni yn myned., yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth#7:4 Gan gyfeirio at hiliogaeth: y ffrwyth y mae y credadyn i'w ddwyn, pan wedi ymbriodi â Christ. i Dduw. 5Canys pan oeddym yn y cnawd#7:5 Saif cnawd yn bennaf yn ysgrifen adau Paul am ddyn yn ei sefyllfa wrth natur ar wahan â Christ. Dynoda y natur ddynol heb yr Yspryd Dwyfol; sefyllfa y creadur cyn neu mewn cyferbyniaeth i'w dderbyniad o'r elfen Ddwyfol trwy yr hon y gwneir ef yn greadur newydd yng Nghrist; yr holl fywyd dynol heb ei ddwyn dan ddylanwad gras Duw. Yma, ‘Pan oeddym yn unedig â'r hen ddyn, yng nghorph pechod.’, nwydau#7:5 Pathêmata, (1) dyoddefiadau; (2) ac yma, gwyniau, nwydau, cynhyrfiadau. Defnyddir y gair yn yr un ystyr yn Gal 5:24. ‘Nwydau a arweiniant i bechodau’ yw yr ystyr yma. pechodau, y rhai sydd trwy y Ddeddf, a weithient yn rymmus#7:5 Energeô, grymmusu, gweithredu yn nerthol, &c. yn ein haelodau i ddwyn ffrwyth i farwolaeth; 6ond yn awr, rhyddhâwyd#7:6 Gweler ad. 2. ni oddiwrth y Ddeddf, wedi marw o honom i'r peth yn yr hwn y'n delid#7:6 ‘Delid ni yn dŷn yng ngafael y ddeddf, ond daethom yn rhydd o'i chrafangau trwy farw iddi.’, fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb yspryd, ac nid yn hendra y llythyren.
Gwir Swyddogaeth y Ddeddf.
7Beth gan hynny a ddywedwn? Ai pechod yw y Ddeddf? Na atto Duw. Eithr nid adnabum#7:7 Defnyddir yma ddwy ferf wahanol, y cyntaf, eidenai, a olyga, ‘gwelediad eglur,’ yna, gwybodaeth uniongyrchol fel yn wrthgyferbyniol i dybiaeth neu wybodaeth ddeilliedig oddiwrth eraill; yr ail, ginôskô, dyfod i wybod, dyfod yn gydnabyddus, gwybod drwy ddarganfod, clywed, &c. i bechod, oddi eithr trwy ddeddf; canys nid adnabuaswn#7:7 Defnyddir yma ddwy ferf wahanol, y cyntaf, eidenai, a olyga, ‘gwelediad eglur,’ yna, gwybodaeth uniongyrchol fel yn wrthgyferbyniol i dybiaeth neu wybodaeth ddeilliedig oddiwrth eraill; yr ail, ginôskô, dyfod i wybod, dyfod yn gydnabyddus, gwybod drwy ddarganfod, clywed, &c. i drachwant, oni bai ddywedyd o'r Ddeddf#7:7 Gan gyfeirio at hiliogaeth: y ffrwyth y mae y credadyn i'w ddwyn, pan wedi ymbriodi â Christ., Na thrachwanta. 8Eithr pechod, wedi cael cychwyniad#7:8 Aphormê, llyth., ‘lle o'r hwn y gwneir rhuthr, neu ymosodiad’; yna, cychwynfa, cyfleustra i weithredu, atteg (fulcrum) (i yni a gweithgarwch yr egwyddor ddrwg). Cafodd pechod le a mantais i ddechreu trwy y Gorchymyn. trwy y gorchymyn, a weithiodd yn rymmus ynof fi bob trachwant. Canys ar wahân â deddf y mae pechod yn farw. 9Ac yr oeddwn i yn fyw unwaith ar wahân â deddf, ond pan ddaeth y Gorchymyn yr adfywiodd pechod, 10ond myfi a fum farw; a'r Gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd#7:10 “Gwna hyn a byw fyddi,” oedd y gorchymyn. Methu ei gadw arweiniodd i farwolaeth., hwnnw a gaed i mi i farwolaeth: 11canys pechod, gan gael cychwyniad trwy'r Gorchymyn, a'm twyllodd yn hollol#7:11 Exapataô, twyllo yn drwyadl. Eglurir hyn yn hanes y Cwymp, fel yn hanes pawb. Cymharer 2 Cor 11:3; 1 Tim 2:14., a thrwy hwnnw a'm lladdodd. 12Gan hynny yn wir, y mae y Ddeddf yn sanctaidd, a'r Gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda#7:12 Sanctaidd, fel dadguddiad o ewyllys Duw; cyfiawn, yn ei hawliau; da, yn ei ddyben.. 13Am hynny, a ddaeth yr hyn sydd dda yn farwolaeth i mi? Na atto Duw; eithr pechod, fel yr ymddangosai#7:13 Yn ei ‘liw’ a'i gymmeriad priodol. ei fod yn bechod, gan weithio marwolaeth i mi, trwy yr hyn sydd dda#7:13 Y mae cyssegredigrwydd yr offeryn yn cynnyddu euogrwydd y drwg‐weithredwr., fel y byddai pechod trwy y Gorchymyn yn bechadurus dros fesur. 14Canys yr ydym yn gwybod fod y Ddeddf yn ysprydol#7:14 Y mae ei chymmeriad yn cyfatteb i'w Rhoddwr a'i hamcan.; ond yr wyf fi yn gnawdol#7:14 Sarkinos (א A B C D) yw y gwir ddarlleniad yma, ystyr yr hwn yw sylwedd neu fater cyfansoddiad y natur ddynol, sef ‘cig a gwaed.’ “Nid wyf fi ond o gig a gwaed, ac felly yn agored i'r holl demtasiynau a weithredant drwy y corph.” Llefara Paul yn yr adnod hon am dano ei hun, nid yn ei sefyllfa annychweledig, ond yn ei ymdrech fel credadyn yn erbyn pechod, yr hwn y mae yn ei gashau (ad. 15), gan ymhyfrydu yng Nghyfraith Duw (ad. 22)., wedi fy ngwerthu dan#7:14 I wasanaethu pechod, i fod dan ei ddylanwad. bechod. 15Canys nid wyf yn gwybod#7:15 Nid wyf yn gallu deall ac iawn‐amgyffred natur a chanlyniadau fy ngweithredoedd. Gwnaf, fel caethwas, ufuddhau i gymhellion dall fy chwantau, heb ystyried y canlyniadau, &c. yr hyn yr wyf yn ei weithredu; canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gâs gennyf, hyn yr wyf yn ei wneuthur. 16Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf yn cydsynio â'r Ddeddf mai da#7:16 Golyga da yn adnod 12 fod y Ddeddf yn garedig a chymwynasgar; pwysleisia y gair yma (kalos) ei phrydferthwch a'i rhagoriaeth moesol. yw. 17Ond yn awr#7:17 Nid ‘yn awr’ amser, ond ‘yn awr’ rhesymmeg sydd yma., nid myfi mwyach sydd yn ei weithredu, ond y pechod sydd yn trigo ynof; 18canys gwn nad oes ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd i, ddim da yn trigo: oblegyd yr ewyllysio sydd yn bresennol#7:18 Llyth., gorwedd yn ymyl, wrth law. i mi, ond gweithredu y da, nid yw; 19canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio, ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei ymarfer. 20Ac os wyf yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof. 21Yn wir yr wyf yn cael y Ddeddf hon: I mi pan yn ewyllysio gwneuthur y da, i mi, meddaf, y mae y drwg yn bresennol#7:21 Y mae cyfansoddiad yr adnod yn anhawdd, ac yn drwsgl, ond y mae yr uchod yn llythyrennol ac yn cyfleu y meddylddrych.. 22Canys ymhyfrydu#7:22 Neu, ‘ymhyfrydu wyf gyda Chyfraith Duw:’ iaith teimlad. ‘Yr wyf yn cydsynio,’ ad. 16: iaith meddwl. yr wyf yng Nghyfraith Duw yn ol y dyn oddimewn#7:22 Nid yr un a'r ‘dyn newydd’ (Eph 4:24; Col 3:10), neu ‘y creadur newydd’ (2 Cor 5:17; Gal 6:15), ond saif mewn cyferbyniaeth i'r ‘dyn oddiallan’ (2 Cor 4:16), gan ddynodi ‘cuddiedig ddyn y galon’ (1 Petr 3:4), sef y bod rhesymmol, ewyllysiol, ysprydol, heb yr hwn nis gall dyn fod yn ddyn., 23eithr yr wyf yn gweled deddf wahanol yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl#7:23 Nous, y meddwl fel y gynneddf adfyfyriol a damcaniadol; y gynneddf o farn foesol yr hon a ganfydda ac a gymmeradwya yr hyn sydd dda., ac yn fy nghaethiwo#7:23 ‘Gwneyd yn garcharor rhyfel’ [llyth., ‘gyru â blaen y bicell’]. i ddeddf#7:23 Enwir yn 22, 23 dair deddf: (1) deddf Duw, Cyfraith Moses; (2) deddf y meddwl, yr hwn a gymmeradwya Ddeddf Duw, ac wedi cael gras, efe a ufuddha iddi; (3) y ddeddf wahanol yn yr aelodau, yr hon sydd yr un â ‘deddf pechod.’ pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. 24O ddyn truenus ydwyf! pwy a'm gwared i allan o gorph y farwolaeth hon? 25Diolch yr wyf i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd#7:25 Ymadrodd sydyn ac anorphenedig, ond yn hollol gydweddol â ieithwedd a theimlad cynhyrfiedig Paul.. Gan hynny, yn wir, yr wyf fi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu deddf Duw, ond â'r cnawd, ddeddf pechod.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Rhufeiniaid 7: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้

วิดีโอสำหรับ Rhufeiniaid 7