Rhufeiniaid 5
5
Gwynfydedigrwydd y rhai a Gyfiawnhâwyd
1Wedi ein cyfiawnhâu#5:1 Pan gredasom ac y derbyniasom Grist. gan hynny trwy#5:1 Llyth., allan o, yna, ar delerau. ffydd, bydded#5:1 Bydded gennym [echômen, o hir] א A B C D E K L Vulg. Pesh. Memph. Ti. Tr. Al. WH. Diw.; y mae gennym F G. gennym#5:1 Y mae y tyst‐ysgrifau goreu bron yn hollol yn ffafr y darlleniad hwn. Gwrthwynebir ef (1) Am y cyfnewidid o fer am o hir yn fynych (ac yn y gwrthwyneb) gan y copiwr boreuol; (2) Am mai dadganiad o ffaith ac nid cymhelliad i ddyledswydd a rhagorfraint sydd yma yn yr holl gyd‐destyn. Ond, mewn atebiad, gellir dywedyd fod Paul yn symmud yn fynych o ymresymiad i gynghor neu gymhelliad (6:1, 12, 15; 8:12). Y mae yn wir ei bod yn fwy naturiol i ddarllen ‘y mae gennym’ na ‘bydded gennym,’ ond y mae yr ystyriaeth hon yn cyfrif am y cyfnewidiad o'r blaenaf i'r olaf. Golyga yr ymadrodd nid ‘gwneyd neu gael heddwch,’ ond ei fwynhau a'i deimlo. Ai nid oes llawer o'r rhai sydd wedi eu cyfiawnhau etto yn amddifad o'r tangnefedd a ddylent ei feddiannu? Y maent wedi myned trwy Borth Cyfiawnhad i Ddinas Noddfa; felly dylent fwynhau gwenau Duw, ac ennill yr ymwybodolrwydd fod heddwch Duw yn eiddo iddynt. heddwch#5:1 Nid boddhâd, tawelwch, ond y sefyllfa o gymmod gyda Duw, fel yn wrth‐gyferbyniol i'r sefyllfa o elyniaeth (ad. 10). gyda#5:1 Llyth., tuag at (gweler ‘gyda Duw,’ Ioan 1:1). ‘Mewn perthynas iddo,’ ‘gyda golwg arno.’ ‘Y mae wedi ei gymmodi â ni, yn ogystal a ni âg yntau.’ Pan mae y Barnwr wedi cael iawn, ac yn rhoddi maddeuant i'r pechadur edifeiriol, y mae yn cyhoeddi ei gyfiawnhâd, ac felly, fel Barnwr, yn dyfod i gymmod âg ef. Duw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist; 2trwy yr hwn hefyd yr ydym wedi cael y ddyfodfa#5:2 Prosagôgê: llyth., arweiniad i mewn, tywysiad, dygiad i mewn. Y mae Crist, nid yn unig yn Ddrws i'r ‘Ty o lawer o Drigfanau,’ ond hefyd yn arweinydd i'r credadyn at yr orsedd, gan ei gyflwyno a'i gymmeradwyo i'w Dâd. Nid yw y pechadur edifeiriol yn gorfod gwynebu yr orsedd wrtho ei hun, ond y mae ei ‘frawd hynaf’ yn ei gymmeryd gerfydd ei law, ac yn rhinwedd ei Aberth yn ei ddwyn i ystafell eang ac agored ‘y gras hwn,’ sef Cyfiawnhâd. Dyg Crist yn agos y rhai oeddynt bell. [trwy ffydd]#5:2 Trwy ffydd א A C [La.] [Tr.] Ti. [WH.] Diw.; gad. B D G Al. i'r gras#5:2 Fel lle dyogel, yn yr hwn yr ydym i aros. hwn yn yr hwn yr ydym yn sefyll yn gadarn, a bydded i ni orfoleddu yng#5:2 Ar, ar sail. Yr ydym i ymffrostio, i orfoleddu, ar randir gobaith, ‘y Mynyddoedd Hyfryd,’ o'r rhai y gwelir y Ganaan Nefol, a'r gogoniant sydd etto yn ol i bobl Dduw. ‘Gogoniant Duw,’ o'r hwn y bydd ei blant yn gyfrannog. ngobaith gogoniant Duw; 3ac nid hynny yn unig, eithr bydded i ni hefyd orfoleddu#5:3 Gan orfoleddu B C; bydded i ni orfoleddu â A D G. yn y gorthrymderau#5:3 A syrthiant i ran y credadyn. (Gweler 8:35–39) Y mae Mynydd y Gweddnewidiad a Dyffryn Galar i fod yn dystion o orfoledd y Cristion.: gan wybod fod gorthrymder yn dadblygu#5:3 Llyth., yn gweithredu allan, yna, effeithio, cynnyrchu. Y mae gorthrymderau yn cilio o'r diwedd, ond y maent wedi dadblygu yn y Cristion sefyllfa meddwl ag sydd yn para. Bydd y cynnyrch yn aros, pan fydd yr achlysuron wedi darfod. dyoddefgarwch#5:3 Hupomonê: llyth., dal i fyny o dan (orthrymder, cystudd, erledigaeth, &c.), gan ddangos yspryd dewr a di‐ildio, diysgogrwydd, dyfal‐barhâd, amyneddgar. Nid yw yr ystorm ond yn cryfhau gwreiddiau y pren.; 4a dyoddefgarwch, gymmeriad profedig#5:4 Golyga dokimê y weithred o brofi (‘mewn mawr brofiad cystudd,’ 2 Cor 8:2), neu ganlyniad neu effaith y prawf (2 Cor 2:9; Phil 2:22), sef yr hyn sydd wedi, sefyll y prawf; yna, cymmeradwyaeth, boddlonrwydd; y cymmeriad a ffurfir gan orthrymderau, fel eiddo y milwr profedig yr hwn sydd wedi gwynebu a gorchfygu llu o elynion. (Gweler Iago 1:3, 12); a chymmeriad profedig, obaith#5:4 Y mae y ffaith ein bod wedi gallu sefyll hyd yn hyn yn creu gobaith cryf y parhawn hyd y diwedd. Nid yw profiad yn cynnyrchu gobaith, ond ei ddadblygu.: 5a'r gobaith ni ddwg gywilydd#5:5 Neu, ni sioma, ni phrofa yn dwyllodrus. Ni wna cywilydd siomedigaeth byth ganlyn y gobaith hwn. Y mae y meddylddrych o siomiant yn y gair. (Gweler 9:33; 2 Cor 7:14; 9:4; 2 Tim 1:12), am fod cariad Duw#5:5 Sef cariad Duw tuag attom ni. wedi ei dywallt allan#5:5 O galon Duw i'n calonnau ni. Dynoda y gair helaethrwydd, taeniad ar led, adfywiad, a dylanwad parhaol. Y mae yn y credadyn ymwybodolrwydd ac ymdeimlad o hono. Dyma y cyfeiriad cyntaf yn yr Epistol at waith yr Yspryd yn yr enaid. Y mae yr Hwn sydd yn chwilio dyfnderau Duw (1 Cor 2:10–12) yn ei ddadguddio ac yn cyfrannu Ei gariad i ddyn. Adeilada gobaith ar gariad Duw at ddyn, ac nid ar gariad dyn at Dduw. yn ein calonnau trwy yr Yspryd Glân yr hwn a roddwyd i ni. 6Canys#5:6 Canys etto א A C D La. Ti. Tr. Diw.: os yn wir [ei ge, mor sicr a]. B WH. a nyni etto#5:6 Canys etto א A C D La. Ti. Tr. Diw.: os yn wir [ei ge, mor sicr a]. B WH. yn weiniaid#5:6 Yn eiddil, heb nerth, yn gleifion (1 Cor 11:30), yn analluog i waredu ein hunain o gaethiwed pechod a chondemniad y ddeddf., Crist etto#5:6 Etto [neu, er hynny, eti] א A B C D. Y mae dau neu dri o ddarlleniadau eraill. mewn pryd#5:6 Amser priodol, adeg gyfaddas: (1) Yn ol y Cynllun Tragywyddol; (2) Yn ol anghen y byd, wedi cyrhaedd ei isaf‐nod mewn annuwioldeb. Os na wna Duw faddeu, y mae yr amser iddo i gospi wedi dyfod. Hefyd: (3) Yr oedd sefyllfa gyffredinol y byd yn cyfatteb i fwriadau Duw. Yr oedd yn ‘gyflawnder yr amser’ (Gal 4:4). a fu farw dros annuwiolion#5:6 Y mae yma y gyferbyniaeth gryfaf, yn dangos y cariad dyfnaf, a rhad ras yn ei ogoniant pennaf.. 7Oblegyd o'r braidd y bydd neb farw dros ddyn cyfiawn; oblegyd dros y dyn#5:7 Person ac nid achos a olygir yma. da#5:7 Sef, dyn caredig, cymmwynasgar, haelfrydig, yr hwn sydd wedi tynnu serch ac ennill edmygedd o herwydd ei galon dosturiol a'i law agored. Y mae pobl yn fwy hoff o hono ef na'r hwn sydd yn mynnu “llygad am lygad, a dant am ddant.” feallai y beiddiai un hyd y nod farw#5:7 Y mae marw dros gyfaill yn urddasol; y mae marw dros elyn yn Ddwyfol! Nid oes gennym ond ychydig enghreifftiau o un yn foddlon marw dros gâr neu gyfaill, megys Orestes yn marw dros Pylades, ac Alcestis dros ei gwr Admetus.. 8Eithr y mae Duw yn llwyr‐brofi#5:8 Sunistêmi, gosod ynghyd, yna, cyflwyno (un person i arall) canmol (Rhuf 16:1; 2 Cor 3:1; 6:4; 10:12, 18); dangos, arddangos, sefydlu, profi (Rhuf 3:5; Gal 2:18). ei gariad ei hun#5:8 Yr hwn oedd yn hunan‐ymgynhyrfiol, heb unrhyw wrthrych i'w dynnu allan. Yr oeddym ni yn ‘bechaduriaid’ (enw yr Iuddewon am y Cenhedloedd), ac felly yn elynion a gwrthryfelwyr. tuag attom ni, gan, a nyni etto yn bechaduriaid, i Grist#5:8 Dengys y geiriau y berthynas agosaf rhwng Duw a Christ. Y mae yn bosibl i ddyn i roddi ei fywyd ei hun dros arall; y mae Duw wedi rhoddi Crist; y mae wedi aberthu ei Hun, os na, buasai aberth Duw yn llai nag aberth dyn. Rhoddodd ei ‘Unig‐anedig Fab.’ farw drosom. 9Mwy ynte o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhâu yn#5:9 Fel y ffynnon neu y noe yn yr hon y caem ein puro. Os gwnaeth Duw y mwyaf, y mae yn sicr o wneyd y lleiaf. ei Waed ef, y'n hachubir trwyddo ef rhag y digofaint#5:9 Sef, yn Nydd y Farn.. 10Canys os pan yn elynion y'n cymmodwyd#5:10 Sef, Duw a nyni, a ni a Duw. Yr oedd eisieu Cymmod o'r ddau tu; â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef, mwy o lawer, wedi ein cymmodi, y'n hachubir yn#5:10 Neu, trwy ei fywyd, ar ol ei farwolaeth, sef Bywyd ei Eiriolaeth, yn yr hwn y mae yn rhoddi i ni ei Yspryd, ac yn ein noddi hyd nes yr effeithia brynedigaeth ein corph yn yr Adgyfodiad. Y mae y crediniol ynddo (8:1) yn byw, yn ymsymmud, ac yn bod. (Gweler 6:8–11) ei fywyd ef; 11ac nid hynny#5:11 Y mae gair yn ddealledig: yn ol rhai, “Nid yn unig yr ydym wedi ein ‘cyfiawnhâu,’ wedi cael maddeuant a'n gollwng yn rhydd, ond yr ydym yn llawenhâu yng nghariad a chymdeithas Duw.” Yn ol eraill, “Nid yn unig y'n hachubir, nid yn unig y byddwn o'r braidd yn gadwedig, heb ddim gennym ond ein bywyd, ond byddwn wedi ein coroni â sancteiddrwydd, a bydd cyfoeth annherfynol ein hetifeddiaeth yn eiddo i ni.” yn unig, ond hefyd yr ydym yn gorfoleddu yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn yn awr y derbyniasom y cymmod#5:11 Yn adran 1:18—3:20, dengys Paul fod y Condemniad yn gyffredinol. Yn adran 3:21—5:11, dengys fod y Cyfiawnhâd yn gyffredinol..
Yn Adda ac yng Nghrist.
12Am hynny#5:12 O herwydd gwaith prynedigol Crist, 8–11., megys#5:12 Dyma air cyntaf y gymhariaeth, ond ni cheir ‘felly’ i atteb iddo, ond ceir y gyferbyniaeth yn gyflawn yn ad. 18. Cymharer 1 Cor 15:21, 22. trwy un dyn y daeth pechod i mewn i'r byd, a marwolaeth trwy bechod#5:12 Llyth., ‘a'r farwolaeth drwy y pechod’ &c., sef marwolaeth naturiol ac nid dragywyddol (Gen 2:17; 3:19)., ac felly yr aeth#5:12 ‘A aeth trwodd’ nes cyrhaedd pob dyn, a dreiddiodd i bellafoedd dynoliaeth, a dramwyodd fel gorchfygwr drwy y byd dynol. marwolaeth#5:12 Marwolaeth א A B C; gad. D F G. ar bob dyn, o herwydd#5:12 Eph' ho, ‘ar y tir hwn,’ ‘o herwydd y ffaith fod’ pawb wedi pechu. Nid ‘yn yr hwn [Adda] y pechodd pawb.’ i bawb bechu: 13canys hyd#5:13 O Adda hyd Moses, pan gyhoeddwyd y Gyfraith. y ddeddf yr oedd pechod yn y byd, ond ni chyfrifir#5:13 Ni chyfrifir gyda'r bwriad o gospi. Buont feirw o herwydd trosedd Adda. pechod os na fydd deddf: 14er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses hyd y nod ar y rhai ni phechasant yn ol cyffelybiaeth#5:14 Yn yr un modd ag y troseddodd Adda orchymyn pendant Duw. camwedd Adda, yr hwn oedd gysgodlun#5:14 Tupos, llun, ffurf, cynllun, arwyddlun. Golyga berson neu ddygwyddiad mewn hanes, yn cyfatteb i berson neu ddygwyddiad arall mewn rhai neilltuolion. o'r Hwn#5:14 Sef, yr Ail Adda o'r nef. oedd i ddyfod. 15Eithr nid fel y camwedd, felly y dawn#5:15 Charisma, ‘rhodd rhad ras,’ ‘gweithrediad gras,’ ‘yn maddeu a dileu pechod.’ Dynoda amlygiad arbennigol o ras. Yn y lliosog dynoda y gair rasusau neu amryddoniau yr Yspryd. hefyd; canys os trwy gamwedd yr un y bu feirw y llawer#5:15 Y mae ‘y llawer,’ hynny yw, ‘pawb,’ mewn cyferbyniaeth i'r ‘Un.’, mwy o lawer y gor‐ymhelaethodd#5:15 Perisseuô: llyth., llifo drosodd, ‘bod mewn gorlawnder.’ ‘Ymhelaethodd.’ Y mae gras Duw yn llifo fel afon risialaidd dros anialwch y byd lle y teyrnasai angau, ac yn gadael prydferthwch a ffrwythlondeb ar ol, rhagorach nag eiddo Eden. gras Duw a'r rhodd#5:15 Dôrea, a ddefnyddir am roddion pennaf Duw, megys yr Yspryd (Act 2:38) a'i rasusau. Dôrema: rhodd, llesâd, cymmwynas. trwy ras yr un dyn Iesu Grist i'r llawer. 16Ac nid megys trwy un dyn a bechodd, y mae y rhodd#5:16 Dôrea, a ddefnyddir am roddion pennaf Duw, megys yr Yspryd (Act 2:38) a'i rasusau. Dôrema: rhodd, llesâd, cymmwynas.; canys y farn#5:16 Neu, ddedfryd. “Mor ofnadwy yw pechod fel yr oedd un pechod un dyn yn ddigon i gollfarnu pawb; ond rhyfeddach fyth yw gras, gan ei fod drwy Iawn Crist yn maddeu camweddau afrifed, ac yn cyhoeddi yr euog yn gyfiawn.” oedd o#5:16 Allan o, yn deilliaw, codi o, yn canlyn o, un. un i gondemniad, ond y dawn#5:16 Charisma, ‘rhodd rhad ras,’ ‘gweithrediad gras,’ ‘yn maddeu a dileu pechod.’ Dynoda amlygiad arbennigol o ras. Yn y lliosog dynoda y gair rasusau neu amryddoniau yr Yspryd. o#5:16 Allan o, yn deilliaw, codi o, yn canlyn o, un. gamweddau lawer i gyfiawnhâd. 17Canys os trwy gamwedd yr un y teyrnasodd marwolaeth trwy yr un, mwy o lawer y caiff y rhai a dderbyniant y gorlawnder o ras ac o rodd#5:17 Dôrea, a ddefnyddir am roddion pennaf Duw, megys yr Yspryd (Act 2:38) a'i rasusau. Dôrema: rhodd, llesâd, cymmwynas. cyfiawnder#5:17 Sef, yn bennaf, cyfiawnhâd., deyrnasu mewn bywyd trwy yr un, Iesu Grist. 18Gan hynny#5:18 Anhawdd cyfieithu yr adnod yn llythyrennol, oblegyd gadewir allan rai geiriau i gyfansoddiad cyflawn; etto nid oes anghen rhoddi i mewn ‘y daeth barn’ ac ‘y daeth y dawn.’ Hefyd, ‘Un camwedd’ ac nid ‘camwedd un,’ ‘un weithred o gyfiawnder,’ ac nid ‘cyfiawnder un,’ yw y gwir gyfieithiad., yn wir, trwy un camwedd, y canlyniad oedd i bob dyn er condemniad, felly hefyd trwy un weithred o gyfiawnder#5:18 Dikaiôma (hefyd yn ad. 16), ‘peth wedi ei wneyd yn gyfiawn.’ Ordinhâd, trefniad, neu orchymmyn cyfiawnder. Gweithred gyfiawn. Yma, marwolaeth iawnol Crist. y canlyniad oedd i bob dyn er cyfiawnhâd bywyd#5:18 Sydd yn rhoddi neu yn diweddu mewn bywyd.. 19Canys megys trwy anufudd‐dod yr un dyn y gwnaethpwyd#5:19 “Y cyfansoddwyd,” “y gosodwyd mewn safle.” y llawer yn bechaduriaid, felly hefyd trwy ufudd‐dod yr un y gwnaethpwyd#5:19 “Y cyfansoddwyd,” “y gosodwyd mewn safle.” y llawer yn gyfiawn. 20Ond deddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi y camwedd; ond lle yr amlhâodd pechod, y gor‐ymhelaethodd gras; 21fel, megys y teyrnasodd pechod mewn marwolaeth#5:21 Fel cylch ei lywodraeth ormesol., felly hefyd teyrnased gras trwy gyfiawnder#5:21 Yr Hwn a “fu ufudd hyd angau, ië, angau y groes.” i fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Rhufeiniaid 5: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.