1
Rhufeiniaid 6:23
Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards)
CTE
Canys cyflog pechod yw marwolaeth, eithr dawn Duw yw bywyd tragywyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
เปรียบเทียบ
สำรวจ Rhufeiniaid 6:23
2
Rhufeiniaid 6:14
Canys pechod nid arglwyddiaetha arnoch chwi, oblegyd nid ydych dan ddeddf ond dan ras.
สำรวจ Rhufeiniaid 6:14
3
Rhufeiniaid 6:4
Cyd‐gladdwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megys y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb bywyd.
สำรวจ Rhufeiniaid 6:4
4
Rhufeiniaid 6:13
Ac na chynnygiwch eich aelodau yn arfau annghyfiawnder i bechod, eithr cynnygiwch eich hunain i Dduw, megys rhai o feirw yn fyw, a'ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.
สำรวจ Rhufeiniaid 6:13
5
Rhufeiniaid 6:6
gan wybod hyn, fod ein hen ddyn ni wedi ei groeshoelio gydag ef, fel y dirymmid corph pechod, fel na wasanaethom bechod mwyach.
สำรวจ Rhufeiniaid 6:6
6
Rhufeiniaid 6:11
Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, ond yn fywi Dduw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
สำรวจ Rhufeiniaid 6:11
7
Rhufeiniaid 6:1-2
Pa beth gan hynny a ddywedwn? A barhawn ni mewn pechod fel y byddo i ras amlhau? Na atto Duw! Nyni, y rhai a fuom feirw i bechod, pa fodd y gallwn fyw etto ynddo?
สำรวจ Rhufeiniaid 6:1-2
8
Rhufeiniaid 6:16
Oni wyddoch chwi mai i'r hwn y cynnygiwch eich hunain yn weision er ufudd‐dod, gweision ydych i'r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai gweision i bechod i farwolaeth, neu gweision ufudd‐dod i gyfiawnder?
สำรวจ Rhufeiniaid 6:16
9
Rhufeiniaid 6:17-18
Ond diolch i Dduw, a chwi oeddech weision pechod ond a ufuddhasoch o'r galon i'r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi; ac wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, chwi a wnaed yn weision i gyfiawnder.
สำรวจ Rhufeiniaid 6:17-18