Luc 7

7
A.D. 31. —
1 Crist yn cael mwy o ffydd yn y canwriad, un o’r Cenhedloedd, nag yn yr un o’r Iddewon: 10 yn iacháu ei was ef o bell: 11 yn cyfodi o farw i fyw fab y wraig weddw o Nain: 19 yn ateb cenhadon Ioan, trwy ddangos ei wyrthiau: 24 yn tystiolaethu i’r bobl ei feddwl am Ioan: 31 yn bwrw bai ar yr Iddewon, y rhai ni ellid eu hennill na thrwy ymarweddiad Ioan na’r eiddo yr Iesu: 36 ac yn dangos trwy achlysur y wraig oedd bechadures pa fodd y mae efe yn gyfaill i bechaduriaid, nid i’w maentumio mewn pechodau, ond i faddau iddynt eu pechodau, ar eu ffydd a’u hedifeirwch.
1Ac wedi iddo orffen ei holl ymadroddion lle y clywai’r bobl, #Mat 8:5efe a aeth i mewn i Gapernaum. 2A gwas rhyw ganwriad, yr hwn oedd annwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ymron marw. 3A phan glybu efe sôn am yr Iesu, efe a ddanfonodd ato henuriaid yr Iddewon, gan atolwg iddo ddyfod a iacháu ei was ef. 4Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a atolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur ohonot hyn iddo; 5Canys y mae yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni synagog. 6A’r Iesu a aeth gyda hwynt. Ac efe weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion ato, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: 7Oherwydd paham ni’m tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas. 8Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ac meddaf wrth #7:8 un.hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. 9Pan glybu’r Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel. 10A’r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ, a gawsant y gwas a fuasai glaf, yn holliach.
11A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain; a chydag ef yr aeth #7:11 bagad.llawer o’i ddisgyblion, a thyrfa fawr. 12A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi. 13A’r Arglwydd pan welodd hi, a gymerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla. 14A phan ddaeth atynt, efe a gyffyrddodd â’r #7:14 Neu, arch.elor: a’r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuanc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, #Act 9:40Cyfod. 15A’r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a’i rhoddes i’w fam. 16Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, #Pen 24:19; Ioan 4:19; 6:14; 9:17Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, #Pen 1:68Ymwelodd Duw â’i bobl. 17A’r gair hwn a aeth allan amdano trwy holl Jwdea, a thrwy gwbl o’r wlad oddi amgylch. 18#Mat 11:2A’i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll.
19Ac Ioan, wedi galw rhyw ddau o’i ddisgyblion ato, a anfonodd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai un arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 20A’r gwŷr pan ddaethant ato, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 21A’r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau, a phlâu, ac ysbrydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg. 22A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; #Esa 35:5fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyl. 23A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi.
24 # Mat 11:7 Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan. Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i’w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt? 25Ond pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent. 26Eithr beth yr aethoch allan i’w weled? Ai proffwyd? Yn ddiau meddaf i chwi, a llawer mwy na phroffwyd. 27Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd, #Mal 3:1Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. 28Canys meddaf i chwi, Ymhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef. 29A’r holl bobl a’r oedd yn gwrando, a’r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan. 30Eithr y Phariseaid a’r cyfreithwyr #7:30 Neu, ynddynt eu hunain.yn eu herbyn eu hunain a #7:30 fwriasant heibio.ddiystyrasant #Act 20:27gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.
31A dywedodd yr Arglwydd, #Mat 11:16I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg? 32Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch. 33Canys daeth #Mat 3:4; Marc 1:6Ioan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo. 34Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. 35A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o’i phlant.
36 # Mat 26:6; Marc 14:3; Ioan 11:2 Ac un o’r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef: ac yntau a aeth i dŷ’r Pharisead, ac a eisteddodd i fwyta. 37Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ’r Pharisead, a ddug flwch o ennaint: 38A chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a’u hirodd â’r ennaint. 39A phan welodd y Pharisead, yr hwn a’i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai #Pen 15:2hwn broffwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi. 40A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i’w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athro, dywed. 41Dau ddyledwr oedd i’r un echwynnwr: y naill oedd arno #Gwel Mat 18:28bum can ceiniog o ddyled, a’r llall ddeg a deugain. 42A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o’r rhai hyn a’i câr ef yn fwyaf? 43A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf fi’n tybied mai’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist. 44Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di’r wraig hon? mi a ddeuthum i’th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phen. 45Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed. 46#Salm 23:5Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint. 47#1 Tim 1:14Oherwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei haml bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y neb y maddeuer ychydig iddo, a gâr ychydig. 48Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau. 49A’r rhai oedd yn cydeistedd i fwyta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, #Mat 9:3; Marc 2:7Pwy yw hwn sydd yn maddau pechodau hefyd? 50Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, #Mat 9:22; Marc 5:34; 10:52; Pen 8:48; 18:42Dy ffydd a’th gadwodd; dos mewn tangnefedd.

اکنون انتخاب شده:

Luc 7: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید