Luc 6
6
A.D. 31. —
1 Crist yn argyhoeddi dallineb y Phariseaid ynghylch cadw y Saboth, trwy ysgrythyrau, a rheswm, a gwyrthiau: 13 yn dewis deuddeg apostol: 17 yn iacháu y cleifion: 20 a cherbron y bobl, yn pregethu i’w ddisgyblion fendithion a melltithion. 27 Pa fodd y mae i ni garu ein gelynion: 46 a chysylltu ufudd‐dod gweithredoedd da ynghyd â gwrando y gair; rhag, yn nydd profedigaeth, i ni syrthio fel tŷ wedi ei adeiladu ar wyneb y ddaear, heb ddim sylfaen.
1A #Mat 12:1; Marc 2:23bu ar yr ail prif Saboth, fyned ohono trwy’r ŷd: a’i ddisgyblion a dynasant y tywys, ac a’u bwytasant, gwedi eu rhwbio â’u dwylo. 2A rhai o’r Phariseaid a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabothau? 3A’r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, #1 Sam 21:6yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef; 4Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymerth ac y bwytaodd y #6:4 torthau dangos.bara gosod, ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef; #6:4 y rhai.#Lef 24:9yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta, ond i’r offeiriaid yn unig? 5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Saboth hefyd.
6 #
Mat 12:9; Marc 3:1 A bu hefyd ar Saboth arall, iddo fyned i mewn i’r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn a’i law ddeau #6:6 yn ddiffrwyth.wedi gwywo. 7A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid #6:7 a ddaliasant arno.a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef. 8Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd â’r llaw #6:8 ddiffrwyth.wedi gwywo, Cyfod i fyny, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd. 9Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau? gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli? 10Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. 11A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu. 12A bu yn y dyddiau hynny, fyned ohono ef allan i’r mynydd i weddïo; a pharhau ar hyd y nos yn #6:12 Gr. mewn gweddi ar Dduw.gweddïo Duw.
13A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac #Mat 10:1ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion; 14Simon (#Ioan 1:42yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr,) ac Andreas ei frawd; Iago, ac Ioan; Philip, a Bartholomeus; 15Mathew, a Thomas; Iago mab Alffeus, a Simon a elwir Selotes; 16Jwdas #Jwdas 1 brawd Iago, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.
17Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a’r dyrfa o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth #6:17 i’w glywed ef.i wrando arno, ac i’w hiacháu o’u clefydau, 18A’r rhai a flinid gan ysbrydion aflan: a hwy a iachawyd. 19A’r holl dyrfa #Mat 14:36oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am #Marc 5:30; Pen 8:46fod nerth yn myned ohono allan, ac yn iacháu pawb.
20Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, #Mat 5:3Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw. 21#Esa 55:1; 65:13Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. #Esa 61:3Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon: canys chwi a chwerddwch. 22#Mat 5:11; 1 Pedr 2:19; 3:14Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch #Ioan 16:2didolant oddi wrthynt, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, #6:22 o achos.er mwyn Mab y dyn. 23#Act 5:41Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid #Act 7:51yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r proffwydi. 24#Amos 6:1; Iago 5:1Eithr gwae chwi’r #Pen 12:21cyfoethogion! canys #Mat 6:2, 5, 16derbyniasoch eich diddanwch. 25#Esa 65:13Gwae chwi’r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi’r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch. 26Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gau broffwydi.
27 #
Mat 5:44; Rhuf 12:20 Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i’r rhai a’ch casânt: 28Bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, a #Pen 23:34; Act 7:60gweddïwch dros y rhai a’ch drygant. 29#Mat 5:39Ac i’r hwn a’th drawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; #1 Cor 6:7ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd. 30#Mat 5:42A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo’n dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl. 31#Mat 7:12Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud. 32#Mat 5:46Ac os cerwch y rhai a’ch carant chwithau, pa ddiolch #6:32 sydd.fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru’r rhai a’u câr hwythau. 33Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnânt dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth. 34#Mat 5:42Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb. 35Eithr #Ad. 27cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a’ch gwobr a fydd mawr, a #Mat 5:45phlant fyddwch i’r Goruchaf: canys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg. 36Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog. 37Ac #Mat 7:1na fernwch, ac ni’ch bernir: na chondemniwch, ac ni’ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau: 38#Diar 19:17Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac #Salm 79:12wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys #Mat 7:2; Marc 4:24â’r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn. 39Ac efe a ddywedodd ddameg wrthynt: #Mat 15:14a ddichon y dall dywyso’r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd? 40#Mat 10:24; Ioan 13:16; 15:20Nid yw’r disgybl uwchlaw ei athro: eithr pob un #6:40 Neu, a fydd perffaith fel, & c.perffaith a fydd fel ei athro. 41#Mat 7:3A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 42Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, #Edrych Diar 18:17bwrw allan y trawst o’th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd. 43Canys #Mat 7:16, 17nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da. 44Oblegid #Mat 12:33pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin. 45#Mat 12:35Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a’r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys #Mat 12:34o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru.
46 #
Mal 1:6; Mat 7:21;
Pen 13:25
Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd? 47#Mat 7:24Pwy bynnag a ddêl ataf fi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a’u gwnelo hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb: 48Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llifddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig. 49Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dŷ ar y ddaear, heb sail; ar yr hwn y curodd y llifddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd: a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr.
اکنون انتخاب شده:
Luc 6: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society