Luc 8
8
A.D. 31. —
1 Y gwragedd yn gweini i Grist o’u golud. 4 Crist, wedi iddo bregethu o fan i fan, a’i apostolion yn ei ganlyn, yn gosod allan ddameg yr heuwr; 16 a’r gannwyll: 21 yn dangos pwy ydyw ei fam a’i frodyr: 22 yn ceryddu y gwyntoedd: 26 yn bwrw y lleng cythreuliaid allan o’r dyn i’r genfaint foch. 37 Y Gadareniaid yn ei wrthod ef: 43 yntau yn iacháu y wraig o’i diferlif gwaed, 49 ac yn atgyfodi merch Jairus.
1A bu wedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas a thref, gan bregethu, ac efengylu teyrnas Dduw: a’r deuddeg oedd gydag ef; 2A #Mat 27:55, 56gwragedd rai, a’r a iachesid oddi wrth ysbrydion drwg a gwendid; Mair yr hon a elwid Magdalen, #Marc 16:9o’r hon yr aethai saith gythraul allan; 3Joanna, gwraig Chusa goruchwyliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o’r pethau oedd ganddynt.
4 #
Mat 13:2; Marc 4:1 Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd, a chyrchu ato o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddameg: 5Yr heuwr a aeth allan i hau ei had: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd; ac ehediaid y nef a’i bwytaodd. 6A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr. 7A pheth arall a syrthiodd ymysg drain; a’r drain a gyd‐dyfasant, ac a’i tagasant ef. 8A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed. 9#Mat 13:10; Marc 4:10A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddameg oedd hon? 10Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; #Esa 6:9; Marc 4:12; Ioan 12:40fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant. 11A #Mat 13:18dyma’r ddameg: Yr had yw gair Duw. 12A’r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw’r rhai sydd yn gwrando, wedi hynny y mae’r diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o’u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig. 13A’r rhai ar y graig, yw’r rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio. 14A’r hwn a syrthiodd ymysg drain, yw’r rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd. 15A’r hwn ar y tir da, yw’r rhai hyn, y rhai â chalon #8:15 onest.hawddgar a da, ydynt yn gwrando’r gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.
16 #
Mat 5:15; Marc 4:21;
Pen 11:38
Nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei dodi dan wely; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo’r rhai a ddêl i mewn weled y goleuni. 17#Mat 10:26; Pen 12:2Canys nid oes dim dirgel, a’r ni bydd amlwg; na dim cuddiedig, a’r nis gwybyddir, ac na ddaw i’r golau. 18Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: #Mat 13:12; 25:29; Pen 19:26canys pwy bynnag y mae ganddo, y rhoddir iddo; a’r neb nid oes ganddo, ie, yr hyn y #8:18 tebygir ei, & c.mae’n tybied ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.
19 #
Mat 12:46; Marc 3:31 Daeth ato hefyd ei fam a’i frodyr; ac ni allent #8:19 ymddiddan ag ef.ddyfod hyd ato gan y dorf. 20A mynegwyd iddo, gan rai, yn dywedyd, Y mae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled. 21Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy mam i a’m brodyr i yw’r rhai hyn sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.
22A #Mat 8:23; Marc 4:35bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a’i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn. A hwy a gychwynasant. 23Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd. 24A hwy a aethant ato, ac a’i deffroesant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu amdanom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a’r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel. 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i’r gwyntoedd ac i’r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhau iddo?
26A #Mat 8:28; Marc 5:1hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o’r tu arall, ar gyfer Galilea. 27Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau. 28Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu, Fab Duw goruchaf? yr wyf yn atolwg i ti na’m poenech. 29(Canys efe a orchmynasai i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau; ac wedi dryllio’r rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i’r diffeithwch.) 30A’r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef. 31A hwy a ddeisyfasant arno, na orchmynnai iddynt fyned i’r dyfnder. 32Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt‐hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt. 33A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dyn, ac a aethant i mewn i’r moch: a’r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i’r llyn, ac a foddwyd. 34A phan welodd #8:34 Sef, porthwyr y moch.y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad. 35A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn, o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan, yn ei ddillad, a’i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant. 36A’r rhai a welsent, a fynegasant hefyd iddynt pa fodd yr iachasid y cythreulig.
37A’r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid #Act 16:39a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i’r llong, a ddychwelodd. 38#Marc 5:18A’r gŵr o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan, a ddeisyfodd arno gael bod gydag ef: eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymaith, gan ddywedyd, 39Dychwel i’th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth, dan bregethu trwy gwbl o’r ddinas, faint a wnaethai’r Iesu iddo. 40A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o’r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano ef.
41 #
Mat 9:18; Marc 5:22 Ac wele, daeth gŵr a’i enw Jairus; ac efe oedd lywodraethwr y synagog: ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a atolygodd iddo ddyfod i’w dŷ ef: 42Oherwydd yr oedd iddo ferch unig‐anedig, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw. Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a’i gwasgent ef.
43 #
Mat 9:20
A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar ffisigwyr ei holl #8:43 eiddo.fywyd, ac nis gallai gael gan neb ei hiacháu, 44A ddaeth o’r tu cefn, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi. 45A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyffyrddodd â mi? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Pedr, a’r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y mae’r bobloedd yn dy wasgu, ac yn dy flino; ac a ddywedi di, Pwy yw a gyffyrddodd â mi? 46A’r Iesu a ddywedodd, Rhyw un a gyffyrddodd â mi: canys mi a wn fyned #8:46 nerth.#Marc 5:30; Pen 6:19rhinwedd allan ohonof. 47A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo, yng ngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd. 48Yntau a ddywedodd wrthi, Cymer gysur, ferch; dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn tangnefedd.
49 #
Marc 5:35
Ac efe eto yn llefaru, daeth un o dŷ llywodraethwr y synagog, gan ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo’r Athro. 50A’r Iesu pan glybu hyn, a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna: cred yn unig, a hi a iacheir. 51Ac wedi ei fyned ef i’r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan, a thad yr eneth a’i mam. 52Ac wylo a wnaethant oll, a #8:52 galaru.chwynfan amdani. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: nid marw hi, #Ioan 11:11, 13eithr cysgu y mae. 53A hwy a’i gwatwarasant ef, am iddynt wybod ei marw hi. 54Ac efe a’u bwriodd hwynt oll allan, ac a’i cymerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd, gan ddywedyd, Herlodes, cyfod. 55A’i hysbryd hi a ddaeth drachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchmynnodd roi bwyd iddi. 56A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac #Mat 8:4; 9:30; Marc 5:43efe a orchmynnodd iddynt, na ddywedent i neb y peth a wnaethid.
اکنون انتخاب شده:
Luc 8: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society