Lefiticus 1
1
1 Trefn y poeth‐offrymau, 3 o eidionau, 10 o ddefaid, neu eifr, 14 ac o adar.
1A’r Arglwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, #Pen 22:18Pan ddygo dyn ohonoch offrwm i’r Arglwydd, o anifail, sef o’r eidionau, neu o’r praidd, yr offrymwch eich offrwm. 3Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd. 4#Exod 29:10, 15; Pen 4:15A gosoded ei law ar ben y poethoffrwm; ac fe a’i cymerir ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur cymod drosto. 5Lladded hefyd yr eidion gerbron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 6A blinged y poethoffrwm, a thorred ef yn ei ddarnau. 7A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân. 8A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a’r braster, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor. 9Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boethoffrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
10Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offryma efe boethoffrwm; offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl. 11A lladded ef gerbron yr Arglwydd, o du’r gogledd i’r allor; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch. 12A thorred ef yn ei ddarnau, gyda’i ben a’i fraster; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor. 13Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
14Ac os poethoffrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i’r Arglwydd; yna dyged ei offrwm #Pen 5:7o durturau, neu o gywion colomennod. 15A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor. 16A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â’i #1:16 Neu, aflendid.blu, a bwried hwynt gerllaw yr allor, o du’r dwyrain, i’r lle y byddo y lludw. 17Hollted ef, a’i esgyll hefyd; eto #Gen 15:10na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, ar y coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
اکنون انتخاب شده:
Lefiticus 1: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society