Exodus 40
40
1 Gorchymyn codi y tabernacl, 9 a’i eneinio; 13 a sancteiddio Aaron a’i feibion. 16 Moses yn gwneuthur fel y gorchymynasid iddo. 34 Cwmwl yn gorchuddio y babell.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod. 3A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia’r arch â’r wahanlen. 4#Pen 26:35Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna #40:4 Heb. ei drefn ef.ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyllbren, a goleua ei lampau ef. 5Gosod hefyd allor aur yr arogl‐darth gerbron arch y dystiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl. 6Dod hefyd allor y poethoffrwm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod. 7#Pen 30:18Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a dod ynddi ddwfr. 8A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa. 9A chymer olew yr eneiniad, ac #Pen 30:26eneinia’r tabernacl, a’r hyn oll sydd ynddo, a chysegra ef a’i holl lestri; a sanctaidd fydd. 10Eneinia hefyd allor y poethoffrwm, a’i holl lestri; a’r allor a gysegri: a #Pen 29:36, 37hi a fydd yn allor sancteiddiolaf. 11Eneinia y noe a’i throed, a sancteiddia hi. 12A dwg Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr. 13A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac eneinia ef, a sancteiddia ef, i offeiriadu i mi. 14Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau. 15Ac eneinia hwynt, megis yr eneiniaist eu tad hwynt, i offeiriadu i mi: felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol, trwy eu cenedlaethau. 16Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.
17Felly yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, #Num 7:1y codwyd y tabernacl. 18A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau; 19Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl, ac a osododd do’r babell‐len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
20Cymerodd hefyd a rhoddodd #Pen 25:16y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch. 21Ac efe a ddug yr arch i’r tabernacl, ac #Pen 35:12a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
22Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, o’r tu allan i’r wahanlen. 23Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
24Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du’r deau. 25Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
26Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen. 27Ac a arogldarthodd arni arogl‐darth peraidd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
28Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl. 29Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm; #Pen 39:29fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
30Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi. 31A Moses, ac Aaron, a’i feibion, a olchasant yno eu dwylo a’u traed. 32Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; #Pen 39:29fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 33Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a’r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.
34 #
Lef 16:2; Num 9:15; 1 Bren 8:10; 2 Cron 5:13; 7:2; Esa 6:4; Dat 15:8 Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl. 35Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmwl yn aros arni, a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi’r tabernacl. 36A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y tabernacl, #40:36 yr ymdeithiai.y cychwynnai meibion Israel i’w holl deithiau. 37Ac oni chyfodai’r cwmwl, yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai. 38Canys #Pen 13:21cwmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, yng ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 40: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society