Ioan 21

21
A.D. 33. —
1 Ei ddisgyblion yn adnabod Crist ar ei ail‐ymddangosiad, wrth y ddalfa fawr o bysgod: 12 yntau yn ciniawa gyda hwynt: 15 yn rhoddi gorchymyn mawr ar Pedr, i borthi ei ŵyn ef a’i ddefaid: 18 yn ei rybuddio ef o’i farwolaeth: 22 yn ceryddu ei brysurdeb ef ynghylch Ioan. 25 Y diben.
1Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd. 2Yr oedd ynghyd Simon Pedr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a #Pen 1:45Nathanael o Gana yng Ngalilea, a #Mat 4:21 meibion Sebedeus, a dau eraill o’i ddisgyblion ef. 3Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a’r nos honno ni ddaliasant ddim. 4A phan ddaeth y bore weithian, safodd yr Iesu ar y lan; eithr y disgyblion #Pen 20:14ni wyddent mai yr Iesu ydoedd. 5Yna #Luc 24:41yr Iesu a ddywedodd wrthynt, #21:5 Neu, Ha wŷr. O blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a atebasant iddo, Nac oes. 6Yntau a ddywedodd wrthynt, #Luc 5:4, 6, 7Bwriwch y rhwyd i’r tu deau i’r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pysgod. 7Am hynny #Pen 13:23; 20:2y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Pedr, pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisg, (canys noeth oedd efe,) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr. 8Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong (oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau can cufydd,) dan lusgo’r rhwyd â’r pysgod. 9A chyn gynted ag y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara. 10Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Dygwch o’r pysgod a ddaliasoch yr awron. 11Simon Pedr a esgynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorrodd y rhwyd. 12Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, #Act 10:41Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd. 13Yna y daeth yr Iesu, ac a gymerth fara, ac a’i rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd. 14#Edrych Ioan 20:19, 26Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion, wedi iddo gyfodi o feirw.
15Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn. 16Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, #21:16 Portha.Bugeilia fy nefaid. 17Efe a ddywedodd wrtho’r drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Pedr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, #Pen 16:30ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid. 18#Pen 13:36; Act 12:3, 4Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Pan oeddit ieuanc, ti a’th wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hen, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a’th wregysa, ac a’th arwain lle ni fynnit. 19A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo #2 Pedr 1:14trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.
20A Phedr a drodd, ac a welodd #Pen 13:23, 25; 20:2y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn, (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw’r hwn a’th fradycha di?) 21Pan welodd Pedr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn? 22Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi. 23Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr, na fyddai’r disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw; ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? 24Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifennodd y pethau hyn; ac #Pen 19:35; 3 Ioan 12ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir. 25#Pen 20:30Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifennid hwy bob yn un ac un, #Amos 7:10nid wyf yn tybied y cynhwysai’r byd y llyfrau a ysgrifennid. Amen.

اکنون انتخاب شده:

Ioan 21: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید