Actau’r Apostolion 1

1
A.D. 33. —
1 Crist, er mwyn paratoi ei apostolion i weled ei esgyniad ef, yn eu casglu hwy ynghyd i fynydd yr Olewydd; ac yn gorchymyn iddynt ddisgwyl yn Jerwsalem am ddanfon yr Ysbryd Glân; ac yn addo cyn nemawr o ddyddiau ei anfon ef; trwy rinwedd yr hwn y byddynt yn dystion iddo ef hyd eithafoedd y ddaear. 9 Ar ôl ei esgyniad y mae dau angel yn eu rhybuddio hwy i ymadael, ac i roi eu meddyliau ar ei ail‐ddyfodiad ef. 12 Hwythau felly yn dychwelyd; a chan ymroi i weddi, yn dewis Matheias yn apostol yn lle Jwdas.
1Y traethawd cyntaf a wneuthum, O #Luc 1:3Theoffilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dysgu, 2#Marc 16:19; Luc 9:51; 1 Tim 3:16Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny wedi iddo trwy’r Ysbryd Glân #Mat 28:19; Marc 16:15; Ioan 20:21roddi gorchmynion i’r apostolion a etholasai: 3#Marc 16:14; Ioan 20:19; 21:1; 1 Cor 15:5I’r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw. 4#Luc 24:43, 49Ac wedi #1:4 Neu, cyttal, neu, gyd‐fwyta â hwynt.ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, #Ioan 14:16, 26, 27; 15:26; 16:7yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi. 5#Mat 3:11; Pen 11:16; 19:4Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr; #Joel 3:18; Pen 2:4; 11:15ond chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân, cyn nemor o ddyddiau. 6Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, #Mat 24:3Arglwydd, ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? 7Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Mat 24:36; Marc 13:32Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun. 8#Pen 2:1, 4Eithr chwi a dderbyniwch nerth #1:8 Neu, pan ddêl yr Ysbryd Glân arnoch.yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac #Luc 24:48; Ioan 15:27; Pen 1:22; Pen 2:32a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear. 9#Luc 24:51Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt. 10Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua’r nef, ac efe yn myned i fyny, wele, dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn #Mat 28:3; Pen 10:3, 30gwisg wen; 11Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i’r nef, #Dan 7:13; Mat 24:30; Marc 13:26; Luc 21:27; Ioan 14:3; 1 Thess 1:10; 2 Thess 1:10; Dat 1:7a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef. 12Yna y troesant i Jerwsalem, o’r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem, sef taith diwrnod Saboth. 13Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lle yr oedd #Mat 10:3Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bartholomew, a Mathew, Iago mab Alffeus, a Simon Selotes, a #Jwdas 1Jwdas brawd Iago, yn aros. 14#Pen 2:1, 46Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyda’r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a #Mat 13:55chyda’i frodyr ef.
15Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion, ac a ddywedodd, (a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant,) 16Ha wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni’r ysgrythur yma #Salm 41:9a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, #Ioan 13:18; 18:3yr hwn a fu flaenor i’r rhai a ddaliasant yr Iesu: 17Canys #Luc 6:16efe a gyfrifwyd gyda ni, ac a gawsai ran o’r weinidogaeth hon. 18#Mat 27:5, 7, 8A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd; ac wedi ymgrogi, a dorrodd yn ei ganol, a’i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan. 19A bu hysbys hyn i holl breswylwyr Jerwsalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, Maes y gwaed. 20Canys ysgrifennwyd yn llyfr y Salmau, #Salm 69:25Bydded ei drigfan ef yn ddiffeithwch, ac na bydded a drigo ynddi: #Salm 109:8a chymered arall ei #1:20 swydd.esgobaeth ef. 21Am hynny y mae’n rhaid, o’r gwŷr a fu yn cydymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni, 22Gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd #Ad. 9y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym ni, bod un o’r rhai hyn gyda ni #Ioan 15:27; Ad. 8; Pen 4:33yn dyst o’i atgyfodiad ef. 23A hwy a osodasant ddau gerbron, Joseff, yr hwn a enwid Barsabas, ac a gyfenwid Jwstus, a Matheias. 24A chan weddïo, hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, #1 Sam 16:7; 1 Cron 28:9; 29:17; Jer 11:20; 17:10; Pen 15:8; Dat 2:23yr hwn a wyddost galonnau pawb, dangos pa un o’r ddau hyn a etholaist, 25I dderbyn rhan o’r weinidogaeth hon, a’r apostoliaeth, o’r hon y cyfeiliornodd Jwdas, i fyned i’w le ei hun. 26A hwy a fwriasant eu coelbrennau hwynt: ac ar Matheias y syrthiodd y coelbren; ac efe a gyfrifwyd gyda’r un apostol ar ddeg.

اکنون انتخاب شده:

Actau’r Apostolion 1: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید

ویدیوهایی برای Actau’r Apostolion 1