Exodus 35
35
1 Y Saboth. 4 Ewyllysgar offrymau i’r tabernacl. 20 Parodrwydd y bobl i offrymu. 30 Galw Besaleel ac Aholïab i’r gwaith.
1Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma’r pethau a orchmynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur. 2#Pen 20:9; Lef 23:3; Deut 5:12; Luc 13:14Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd #35:2 Heb. sancteiddrwydd.sanctaidd, Saboth gorffwys i’r Arglwydd: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno. 3#Pen 16:23Na chyneuwch dân yn eich holl anheddau ar y dydd Saboth.
4A Moses a lefarodd wrth holl gynulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, 5#Pen 25:2Cymerwch o’ch plith offrwm yr Arglwydd: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i’r Arglwydd; aur, ac arian, a phres, 6A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, 7A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim, 8Ac olew i’r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i’r arogl‐darth peraidd, 9A meini onics, a meini i’w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg. 10A #Pen 31:6phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd; 11#Pen 26:1, &cY tabernacl, ei babell‐len a’i do, ei fachau a’i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a’i forteisiau, 12Yr arch, a’i throsolion, y drugareddfa, a’r wahanlen, yr hon a’i gorchuddia, 13Y bwrdd, a’i drosolion, a’i holl lestri, a’r bara dangos, 14A chanhwyllbren y goleuni, a’i offer, a’i lampau, ac olew y goleuni, 15#Pen 30:1Ac allor yr arogl‐darth, a’i throsolion, ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i’r tabernacl, 16#Pen 27:1Allor y poethoffrwm a’i halch bres, ei throsolion, a’i holl lestri, y noe a’i throed, 17Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa, 18Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a’u rhaffau hwynt, 19A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.
20A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses. 21A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i’r Arglwydd, tuag at waith pabell y cyfarfod, a thuag at ei holl wasanaeth hi, a thuag at y gwisgoedd sanctaidd. 22A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a’r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlustlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gŵr a’r a offrymodd offrwm, a offrymodd aur i’r Arglwydd. 23A phob un a’r y caed gydag ef sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a’u dygasant. 24Pob un a’r a offrymodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i’r Arglwydd: a phob un a’r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a’i dygasant. 25A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â’i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main. 26A’r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr. 27A’r penaethiaid a ddygasant feini onics, a meini i’w gosod ar yr effod, ac ar y ddwyfronneg; 28A #Pen 30:23llysiau, ac olew i’r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i’r arogl‐darth peraidd. 29Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai’r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i’r Arglwydd offrwm ewyllysgar.
30A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, #Pen 31:2galwodd yr Arglwydd erbyn ei enw, Besaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda: 31Ac a’i llanwodd ef ag ysbryd Duw, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith; 32I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, 33Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint. 34Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan. 35Efe a’u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychmygu cywreinrwydd.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 35: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society