Exodus 34
34
1 Adnewyddu y llechau. 5 Cyhoeddi Enw yr Arglwydd. 8 Moses yn ymbil â Duw ar iddo fyned gyda hwy. 10 Duw yn gwneuthur cyfamod â hwynt, ac yn ail‐adrodd rhai o orchmynion y llech gyntaf. 28 Moses, wedi bod ddeugain niwrnod yn y mynydd, yn dyfod i lawr â’r llechau. 29 Ei wyneb ef yn disgleirio; ac yntau yn rhoddi llen gudd arno.
1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, #Deut 10:1Nadd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist. 2A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fyny yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno #Pen 19:20ar ben y mynydd. 3Ond #Pen 19:12, 13na ddeued neb i fyny gyda thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.
4Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchmynasai yr Arglwydd iddo; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg. 5A’r Arglwydd a ddisgynnodd mewn cwmwl, ac a safodd gydag ef yno, ac #Pen 33:19a gyhoeddodd enw yr Arglwydd. 6A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd JEHOFAH, JEHOFAH, #Num 14:18y Duw trugarog a graslon, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd; 7#Pen 20:6; Deut 5:10; Salm 86:15; Jer 32:18Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddau anwiredd, a chamwedd, a phechod, a #Pen 23:7, 21; Jos 24:19; Job 10:14; Micha 6:11; Nahum 1:3heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth. 8A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tua’r llawr, ac a addolodd; 9Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, atolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wargaled yw,) a maddau ein hanwiredd, a’n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.
10Yntau a ddywedodd, Wele #Deut 5:2fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr Arglwydd: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi. 11Cadw yr hyn a orchmynnais i ti heddiw: wele, mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad, a’r Canaanead, a’r Hethiad, a’r Pheresiad, yr Hefiad hefyd, a’r Jebusiad. 12A #Pen 23:32; Deut 7:2chadw arnat, rhag gwneuthur cyfamod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith. 13Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, #Pen 23:24; Deut 12:3drylliwch eu delwau hwynt, a #Barn 6:25; 2 Bren 18:4; 23:14; 2 Cron 31:1; 34:3thorrwch i lawr eu llwynau hwynt. 14Canys ni chei ymgrymu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw #Pen 20:5eiddigus yw efe; 15Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, ac aberthu i’w duwiau, a’th alw di, ac i tithau fwyta o’u haberth; 16A chymryd ohonot o’u #1 Bren 11:2; Neh 13:25merched i’th feibion; a #Num 25:1, 2phuteinio o’u merched ar ôl eu duwiau hwynt, a gwneuthur i’th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt. 17Na wna i ti dduwiau tawdd.
18Cadw ŵyl #Pen 12:15; 23:15y bara croyw: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym #Pen 13:4mis Abib y daethost allan o’r Aifft. 19#Pen 13:2, 13; 22:29; Esec 44:30; Luc 2:23Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwryw cyntaf o’th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid. 20Ond #Num 18:15y cyntaf i asyn a bryni di #34:20 Neu, â myn.ag oen; ac oni phryni, tor ei wddf: prŷn hefyd bob cyntaf‐anedig o’th feibion: ac #Pen 23:15; Deut 16:16; 1 Sam 9:7, 8; 2 Sam 24:24nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.
21 #
Pen 23:12
; Deut 5:12; Luc 13:14Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhaeaf, y gorffwysi.
22 #
Pen 23:16
Cadw i ti hefyd ŵyl yr wythnosau, o flaenffrwyth y cynhaeaf gwenith; a gŵyl y cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn.
23 #
Pen 23:14, 17; Deut 16:16Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd Dduw, Duw Israel. 24Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac #Edrych Gen 35:5; Act 18:10ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fyny i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn. 25#Pen 23:18Nac offryma waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac #Pen 12:10nac arhoed aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore. 26#Deut 26:2Dwg y #34:26 cyntaf.gorau o flaenffrwyth dy dir i dŷ yr Arglwydd dy Dduw. #Pen 23:19; Deut 14:21Na ferwa fyn yn llaeth ei fam. 27Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna i ti y geiriau hyn: oblegid yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi, ac ag Israel. 28#Pen 24:18; Deut 9:9, 18Ac efe a fu yno gyda’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac #ad. 1; Pen 31:18; Deut 4:13efe a ysgrifennodd ar y llechau eiriau’r cyfamod, sef y deg #34:28 gorchymyn.gair.
29A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o’r mynydd, ni wyddai Moses i #2 Cor 3:7, 13groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho. 30A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesáu ato ef. 31A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddychwelsant ato ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy. 32Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchmynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd ym mynydd Sinai. 33Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes #2 Cor 3:13len gudd ar ei wyneb. 34A phan ddelai Moses gerbron yr Arglwydd i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchmynnid iddo. 35A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai i lefaru wrth Dduw.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 34: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society