Exodus 36
36
1 Rhoddi offrwm y bobl yn llaw y gweithwyr. 5 Gorfod gwahardd haelioni y bobl. 8 Llenni y ceriwbiaid. 14 Y llenni o flew geifr. 19 Y babell‐len o grwyn. 20 Y byrddau a’u morteisiau. 31 Y barrau. 35 Y wahanlen. 37 Y gaeadlen i’r drws.
1Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cysegr, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd. 2A Moses a alwodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesáu at y gwaith i’w weithio ef. 3A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr, i’w weithio ef. A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore. 4A’r holl rai celfydd, a’r oedd yn gweithio holl waith y cysegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.
5A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae’r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i’r gwaith a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur. 6A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy’r gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gŵr na gwraig waith mwy tuag at offrwm y cysegr. Felly yr ataliwyd y bobl rhag dwyn mwy. 7Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith i’w wneuthur, a gweddill.
8 #
Pen 26:3, 4 A’r holl rai celfydd, o’r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llen o liain main cyfrodedd, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt. 9Hyd un llen oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llen pedwar cufydd: yr un mesur oedd i’r holl lenni. 10Ac efe a gydiodd bum llen wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pum llen eraill wrth ei gilydd. 11Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar ei chwr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llen arall, yng nghydiad yr ail. 12#Pen 26:10Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llen, a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwr eithaf i’r llen ydoedd yng nghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall. 13Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur, ac a gydiodd y naill len wrth y llall â’r bachau; fel y byddai yn un tabernacl.
14Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: yn un llen ar ddeg y gwnaeth efe hwynt. 15Hyd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llen oedd bedwar cufydd: a’r un mesur oedd i’r un llen ar ddeg. 16Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain, a chwe llen wrthynt eu hunain. 17Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yng nghydiad yr ail. 18Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell‐len i fod yn un. 19Ac efe a wnaeth do i’r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.
20Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll. 21Deg cufydd oedd hyd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen. 22Dau dyno oedd i’r un ystyllen, wedi eu gosod mewn trefn, y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl. 23Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl; ugain ystyllen i’r tu deau, tua’r deau. 24A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen: dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno. 25Ac i ail ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, efe a wnaeth ugain ystyllen, 26A’u deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall. 27Ac i ystlysau’r tabernacl, tua’r gorllewin, y gwnaeth efe chwech ystyllen. 28A dwy ystyllen a wnaeth efe yng nghonglau’r tabernacl i’r ddau ystlys. 29Ac yr oeddynt wedi eu #36:29 Heb. plethu.cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl. 30Ac yr oedd wyth ystyllen; a’u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian: #36:30 Heb. dwy fortais, dwy fortais dan un ystyllen.dwy fortais dan bob ystyllen.
31Ac efe a wnaeth #Pen 25:28; 30:5farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl, 32A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod y tabernacl i’r ystlysau o du’r gorllewin. 33Ac efe a wnaeth y bar canol i gyrhaeddyd trwy’r ystyllod o gwr i gwr. 34Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau ag aur.
35Ac efe a wnaeth #Pen 26:31wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi. 36Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur; a’u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.
37Ac efe a wnaeth #Pen 26:36gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd; 38A’i phum colofn, a’u pennau; ac a oreurodd eu pennau hwynt, a’u cylchau, ag aur: ond eu pum mortais oedd o bres.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 36: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society