Exodus 31

31
1 Galw Besaleel ac Aholïab, a’u gwneuthur yn gymhwys i waith y tabernacl. 12 Ail orchymyn cadw y Saboth. 18 Moses yn derbyn y ddwy lech.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2#Pen 35:30Gwêl, mi a elwais wrth ei enw ar Besaleel #1 Cron 2:20fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda; 3Ac a’i #1 Bren 7:14llenwais ef ag ysbryd Duw, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith, 4I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, 5Ac mewn cyfarwyddyd, i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith. 6Ac wele, mi a roddais gydag ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac yng nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchmynnais wrthyt. 7Pabell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, a’r drugareddfa yr hon sydd arni, a holl #31:7 ddodrefn.lestri y babell, 8A’r bwrdd a’i lestri, a’r canhwyllbren pur a’i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth, 9Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed, 10A #Pen 39:1, 41; Num 4:6 &cgwisgoedd y weinidogaeth, a’r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt, 11Ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth peraidd i’r cysegr; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt. 12A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd, 13Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, #Lef 19:3, 30; 26:2; Esec 20:12, 20Diau y cedwch fy Sabothau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenedlaethau; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd, sydd yn eich sancteiddio. 14Am hynny #Pen 20:8; Deut 5:12; Esec 20:12cedwch y Saboth; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a’i halogo ef; oherwydd #Num 15:35pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl. 15Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra #31:15 Heb. sancteiddrwydd.sanctaidd i’r Arglwydd: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr rodder ef i farwolaeth. 16Am hynny cadwed meibion Israel y Saboth, gan gynnal Saboth trwy eu cenedlaethau, yn gyfamod tragwyddol. 17Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragwyddol, mai #Gen 1:31; 2:2mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorffwysodd efe.
18Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orffen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, #Pen 32:16; Deut 9:10; 2 Cor 3:3ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu â bys Duw.

اکنون انتخاب شده:

Exodus 31: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید