Exodus 30

30
1 Allor yr arogl‐darth. 11 Yr iawn dros bob enaid. 17 Y golch‐lestr pres. 22 Yr olew sanctaidd i eneinio. 34 Defnydd yr arogldarth.
1Gwna hefyd #Pen 37:25allor #Edrych ad. 10; Lef 4:7, 18i arogldarthu arogldarth: o goed Sittim y gwnei di hi. 2Yn gufydd ei hyd, ac yn gufydd ei lled, (pedeirongl fydd hi,) ac yn ddau gufydd ei huchder: ei chyrn fyddant o’r un. 3A gwisg hi ag aur coeth, #30:3 Heb. ei nen a’i pharwydydd.ei chefn a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch. 4A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy #30:4 Heb. asen.gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i’w dwyn hi arnynt. 5A’r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt ag aur. 6A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi. 7Ac arogldarthed Aaron arni arogldarth llysieuog bob bore: pan #Pen 27:20daclo efe y lampau, yr arogldartha efe. 8A phan #30:8 gyfodo.oleuo Aaron y lampau #30:8 Heb. rhwng y ddau hwyr.yn y cyfnos, arogldarthed arni arogl‐darth gwastadol gerbron yr Arglwydd, trwy eich cenedlaethau. 9Nac offrymwch arni arogl‐darth dieithr, na phoethoffrwm, na bwyd‐offrwm; ac na thywelltwch ddiod‐offrwm arni. 10A gwnaed #Lef 16:18; 23:27Aaron gymod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech‐aberth y cymod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymod arni trwy eich cenedlaethau: sancteiddiolaf i’r Arglwydd yw hi.
11A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 12#Pen 38:25; Num 1:2, 5; 26:2Pan rifech feibion Israel, #30:12 Heb. y rhai sydd i’w rhifo.dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i’r Arglwydd, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt. 13Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. #Mat 17:24Hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr: #Lef 27:25; Num 3:47; Esec 45:12ugain gera yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i’r Arglwydd. 14Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i’r Arglwydd. 15#30:15 Heb. Ni chwanega.Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni #30:15 Heb. leiha.rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i’r Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau. 16A chymer yr arian cymod gan feibion Israel, a #Pen 38:25dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.
17A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 18#Pen 38:8Gwna noe bres, a’i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r allor: a dod ynddi ddwfr. 19A #Salm 26:6; Esa 52:11; Heb 10:22golched Aaron a’i feibion ohoni eu dwylo a’u traed. 20Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogldarthu aberth tanllyd i’r Arglwydd. 21Golchant eu dwylo a’u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol, iddo ef, ac i’w had, trwy eu cenedlaethau.
22Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 23Cymer i ti ddewis lysiau, o’r myrr pur, bwys pum can sicl, a hanner hynny o’r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau; 24Ac o’r casia pwys pum cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; a #Pen 29:40hin o olew olewydden. 25A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd, yn ennaint cymysgadwy o waith yr #30:25 per‐aroglwr.apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe. 26Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, 27Y bwrdd hefyd a’i holl lestri, a’r canhwyllbren a’i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth. 28Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed. 29A chysegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: #Pen 29:37pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd. 30Eneinia hefyd Aaron a’i feibion, a chysegra hwynt, i offeiriadu i mi. 31A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenedlaethau. 32Nac eneinier ag ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych. 33Pwy bynnag a gymysgo ei fath, a’r hwn a roddo ohono ef ar ddyn dieithr, #Gen 17:14a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
34Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Cymer i ti lysiau peraidd, sef stacte, ac onycha, a galbanum; y llysiau hyn, a thus pur; yr un faint o bob un. 35A gwna ef yn arogl‐darth aroglber o waith yr apothecari, wedi ei #30:35 Heb. halltu.gyd‐dymheru, yn bur ac yn sanctaidd. 36Gan guro cur yn fân beth ohono, a dod ohono ef gerbron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, #Pen 29:42; Lef 16:2lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi. 37A’r arogl‐darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennyt yn sanctaidd i’r Arglwydd. 38Pwy bynnag a wnêl ei fath ef, i arogli ohono, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

اکنون انتخاب شده:

Exodus 30: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید