Exodus 19

19
1 Y bobl yn dyfod i Sinai. 3 Cenadwriaeth Duw at y bobl trwy law Moses allan o’r mynydd. 8 Dwyn ateb y bobl at Dduw. 10 Paratoi y bobl erbyn y trydydd dydd. 12 Ni wasanaetha cyffwrdd â’r mynydd. 16 Dychrynllyd bresenoldeb Duw ar y mynydd.
1Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw #Num 33:15y daethant i anialwch Sinai. 2Canys hwy a aethant o Reffidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai; gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd. 3#Act 7:38A Moses a aeth i fyny at Dduw: a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel; 4#Deut 29:2Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Eifftiaid; y modd #Deut 32:11; Esa 63:9; Dat 12:14y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais ataf fi fy hun. 5#Deut 5:2Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, #Deut 4:20; 7:6; 14:2, 21; 26:18; 32:8, 9; Salm 135:4; Can 8:12; Esa 43:1; Jer 10:16; Mal 3:17; Titus 2:14chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys #Deut 10:14; Salm 24:1; 50:12eiddof fi yr holl ddaear. 6A chwi a fyddwch i mi yn #1 Pedr 2:5, 9; Dat 1:6; 5:10; 20:6frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma’r geiriau a leferi di wrth feibion Israel.
7A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr Arglwydd iddo. 8#Pen 24:3, 7; Deut 5:27; 26:17A’r holl bobl a gydatebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd. 9A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat #ad. 16; Pen 20:21; 24:15, 16; Salm 18:11, 12mewn cwmwl tew, fel y clywo’r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel #Pen 14:31y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd.
10Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a #Gen 35:2golchant eu dillad, 11A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd #Pen 34:5; Deut 33:2y disgyn yr Arglwydd yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai. 12A gosod derfyn i’r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i’r mynydd, neu gyffwrdd â’i gwr ef: #Heb 12:20pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw. 13Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano’r #19:13 Neu, cornet.utgorn yn hirllaes, deuant i’r mynydd.
14A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad. 15Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; #1 Sam 21:4, 5; Sech 7:3; 1 Cor 7:5nac ewch yn agos at eich gwragedd. 16A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd #Heb 12:18taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll. 17A #Deut 4:10Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod â Duw; a hwy a safasant yng ngodre’r mynydd. 18A #Deut 4:11; 32:2; Barn 5:5; Salm 68:7, 8; Hab 3:3mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân: a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, #Heb 12:26a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr. 19Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir, ac yn cryfhau fwyfwy, #Heb 12:21Moses a lefarodd; a #Neh 9:13; Salm 81:7Duw a atebodd mewn llais. 20A’r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fyny. 21A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i waered, #19:21 rhybuddia y.gorchymyn i’r bobl; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd #Edrych 1 Sam 6:19i hylltremu, a chwympo llawer ohonynt. 22Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr Arglwydd; rhag i’r Arglwydd ruthro arnynt. 23A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai: oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef. 24A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fyny, ac Aaron gyda thi: ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl, i ddyfod i fyny at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy. 25Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a #19:25 lefarodd.ddywedodd wrthynt.

اکنون انتخاب شده:

Exodus 19: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید