Exodus 18
18
1 Jethro yn dwyn at Moses ei wraig a’i ddau fab. 7 Moses yn ei groesawu ef. 13 Yntau yn derbyn cyngor Jethro. 27 Jethro yn ymadael.
1Pan glywodd #Pen 2:16; 3:1Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aifft; 2Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd Seffora gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hôl,) 3A’i dau fab hi; o ba rai #Pen 2:22enw un oedd #18:3 Sef, Dieithr yno.Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dieithr fûm mewn gwlad estronol. 4Ac enw y llall oedd #18:4 Sef, Fy Nuw sydd gymorth.Elieser: oherwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi (eb efe), ac a’m hachubodd rhag cleddyf Pharo. 5A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â’i feibion a’i wraig at Moses i’r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu gerllaw #Pen 3:1, 12mynydd Duw. 6Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod atat ti, a’th wraig a’i dau fab gyda hi.
7A Moses a aeth allan i gyfarfod â’i chwegrwn; ac a ymgrymodd, ac a’i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd: a daethant i’r babell. 8A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharo ac i’r Eifftiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r Arglwydd hwynt. 9A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid. 10A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Eifftiaid, ac o law Pharo; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid. 11Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau: #Pen 1:10, 16, 22; 5:7; 14:18oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono, yr oedd efe yn uwch na hwynt. 12A Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwyta bara gyda chwegrwn Moses, gerbron Duw.
13A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu’r bobl: a safodd y bobl gerbron Moses, o’r bore hyd yr hwyr. 14A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o’r bore hyd yr hwyr? 15A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod #Lef 24:12; Num 15:34y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori â Duw. 16Pan fyddo iddynt achos, ataf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng #18:16 Heb. gŵr a’i gyfaill.pawb a’i gilydd, ac yn hysbysu deddfau Duw a’i gyfreithiau. 17A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur. 18Tydi a lwyr ddiffygi, a’r bobl yma hefyd y rhai sydd gyda thi: canys rhy drwm yw’r peth i ti; #Num 11:14; Deut 1:9ni elli ei wneuthur ef dy hun. 19Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a’th gynghoraf di, a bydd Duw gyda thi: Bydd di dros y bobl gerbron Duw, a dwg eu hachosion at Dduw. 20Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd a wnânt. 21Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am #Deut 1:16; 16:18; 2 Cron 19:7, 9wŷr nerthol, yn ofni Duw, gwŷr geirwir, yn casáu cybydd‐dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau. 22A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr atat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhei arnat dy hun, a hwynt‐hwy a ddygant y baich gyda thi. 23Os y peth hyn a wnei, a’i orchymyn o Dduw i ti; yna ti a elli barhau, a’r holl bobl hyn a ddeuant i’w lle mewn heddwch. 24A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe. 25A #Deut 1:15Moses a ddewisodd wŷr grymus allan o holl Israel, ac a’u rhoddodd hwynt yn benaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau. 26A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.
27A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac #Num 16:29–32efe a aeth adref i’w wlad.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 18: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society