Exodus 20

20
1 Y deg gorchymyn. 18 Y bobl yn ofni. 20 Moses yn eu cysuro hwy. 22 Gwahardd gaudduwiaeth. 24 Portread yr allor.
1A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, 2#Lef 26:1; Deut 5:6; Salm 81:10; Hos 13:4Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft, #Pen 13:3o dŷ y #20:2 Heb. gweision.caethiwed. 3Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. 4#Lef 26:1; Deut 4:16; Salm 97:7Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear. 5Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw #Pen 34:14; Deut 6:15; Jos 24:19; Nahum 1:2eiddigus; #Pen 34:7; Lef 20:5; Num 14:18, 33; 1 Bren 21:29; Job 5:4; 21:19; Salm 109:14; Esa 14:20, 21; 65:6, 7; Jer 2:9; 32:18yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; 6#Deut 7:9; Salm 89:34Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. 7#Lef 19:12; Deut 5:11; Mat 5:33Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys #Micha 6:11nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. 8Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef. 9#Pen 23:12; 31:15; 34:21; Lef 23:3; Esec 20:12; Luc 13:14Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: 10Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: 11Oherwydd mewn #Gen 2:2chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef.
12 # Lef 19:3; Deut 5:16; Mat 15:4; Eff 6:2 Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 13#Mat 5:21; Rhuf 13:9Na ladd. 14#Mat 5:27Na wna odineb. 15Na ladrata. 16#Deut 19:16Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. 17#Act 20:33; Rhuf 7:7Na chwennych dŷ dy gymydog, #Job 31:9na chwennych wraig dy gymydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaethferch, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymydog.
18 # Heb 12:18 A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr utgorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell. 19A dywedasant wrth Moses, #Deut 5:27; 18:16; Gal 3:19, 20; Heb 12:19Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw. 20A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; oherwydd i’ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech. 21A safodd y bobl o hirbell; a nesaodd Moses i’r #Pen 19:16; 1 Bren 8:12tywyllwch, lle yr ydoedd Duw.
22A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Chwi a welsoch mai #Deut 4:36; Neh 9:13o’r nefoedd y lleferais wrthych. 23Na wnewch #Edrych 1 Sam 5:4, 5; 2 Bren 17:33; Esec 20:39; 43:8; Seff 1:4, 5; 2 Cor 6:14, 15, 16gyda mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.
24Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boethebyrth a’th offrymau hedd, #Lef 1:2dy ddefaid, a’th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o’m henw, y deuaf atat, ac y’th fendithiaf. 25Ond #Deut 27:5; Jos 8:31os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gotech dy forthwyl arni, ti a’i halogaist hi. 26Ac na ddos i fyny ar hyd grisiau i’m hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.

اکنون انتخاب شده:

Exodus 20: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید