Exodus 17
17
1 Y bobl yn tuchan am ddwfr yn Reffidim. 5 Duw yn eu hanfon hwy am ddwfr i’r graig yn Horeb. 8 Gorchfygu Amalec trwy ddal dwylaw Moses i fyny. 15 Moses yn adeiladu yr allor JEHOFAH‐Nissi.
1A #Num 33:12, 14holl gynulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ôl gorchymyn yr Arglwydd; ac a wersyllasant yn Reffidim: ac nid oedd dwfr i’r bobl i yfed. 2#Num 20:3, 4Am hynny y bobl a ymgynenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham #Salm 78:41; 1 Cor 10:9y temtiwch yr Arglwydd? 3A’r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fyny o’r Aifft, i’n lladd ni, a’n plant, a’n hanifeiliaid, â syched? 4A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Beth a wnaf i’r bobl hyn? ar ben ychydig eto hwy a’m llabyddiant i. 5A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymer gyda thi o henuriaid Israel: cymer hefyd dy wialen yn dy law, yr hon #Pen 7:20y trewaist yr afon â hi, a cherdda. 6#Num 20:10; Salm 78:15; 105:41; 114:8; 1 Cor 10:4Wele, mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan ohoni, fel y gallo’r bobl yfed. A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel. 7Ac efe a alwodd enw y lle #Num 20:13; Salm 81:7; 95:8; Heb 3:8#17:7 Profedigaeth.Massa, a #17:7 Cynnen.Meriba; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio’r Arglwydd, gan ddywedyd, A ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid yw?
8 #
Deut 25:17; 1 Sam 15:2 Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim. 9A dywedodd Moses wrth #17:9 A elwir Iesu. Act 7:45Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: yfory mi a safaf ar ben y bryn, â #Pen 4:20gwialen Duw yn fy llaw. 10Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn. 11A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf. 12A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a’i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a’r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul. 13A Josua a orchfygodd Amalec a’i bobl â min y cleddyf. 14A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys #Num 24:20; 1 Sam 15:3, 7; 30:1, 17; 2 Sam 8:12; Esa 9:14gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd. 15A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi #17:15 Yr Arglwydd yw fy maner. Edrych Barn 6:24JEHOFAH‐nissi. 16Canys efe a ddywedodd, Oherwydd #17:16 Neu, bod llaw ar orseddfainc yr Arglwydd.tyngu o’r Arglwydd, y bydd i’r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 17: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society