Exodus 16
16
1 Yr Israeliaid yn dyfod i Sin; 2 ac yn tuchan o eisiau bara. 4 Duw yn addo iddynt fara o’r nefoedd. 11 Danfon soflieir, 14 a manna. 16 Trefn y manna. 25 Na cheid ef ar y dydd Saboth. 32 Cadw llond omer ohono ef.
1A hwy a symudasant o Elim; a holl gynulleidfa meibion Israel a ddaethant i #Num 33:11anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed dydd o’r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aifft. 2A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch. 3A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr Arglwydd yng ngwlad yr Aifft, #Num 11:4, 5pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwyta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.
4Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, mi a lawiaf arnoch #Salm 78:24, 25; 105:40; Ioan 6:31, 32; 1 Cor 10:3fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant #Diar 30:8; Mat 6:11ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu #Pen 15:25; Deut 8:2, 16profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnânt. 5Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a #Edrych Lef 25:21hynny fydd dau cymaint ag a gasglant beunydd. 6A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, #Edrych ad. 13Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aifft. 7Y bore hefyd y cewch weled #Edrych ad. 10gogoniant yr Arglwydd; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i’n herbyn? 8Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gig i’w fwyta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: oherwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond #Edrych 1 Sam 8:7; Luc 10:16; Rhuf 13:2yn erbyn yr Arglwydd.
9A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nes gerbron yr Arglwydd: oherwydd efe a glywodd eich tuchan chwi. 10Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tua’r anialwch; ac wele, gogoniant yr Arglwydd #Pen 13:21a ymddangosodd yn y cwmwl.
11A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 12Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr cewch fwyta cig, a’r bore y’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 13Felly yn yr hwyr y #Num 11:31; Salm 105:40soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll. 14A phan #Num 11:7; Neh 9:15; Salm 78:24; 105:40gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â’r llwydrew ar y ddaear. 15Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, #16:15 Nen, Beth yw hwn? neu, Rhan yw.Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, #Ioan 6:31; 1 Cor 10:3Hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi i’w fwyta.
16Hyn yw y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta: omer i bob #16:16 Heb. pen.un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll. 17A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai. 18A phan fesurasant wrth yr omer, #2 Cor 8:15nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl ei fwyta. 19A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore. 20Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt. 21A hwy a’i casglasant ef bob bore, pob un yn ôl ei fwyta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.
22Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses. 23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd; Yfory y mae #Gen 2:3gorffwysfa Saboth sanctaidd i’r Arglwydd: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a’r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore. 24A hwy a’i cadwasant hyd y bore, fel y gorchmynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo. 25A dywedodd Moses, Bwytewch hwn heddiw; oblegid Saboth yw heddiw i’r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddiw. 26Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Saboth, ni bydd efe.
27Eto rhai o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim. 28A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a’m cyfreithiau? 29Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Saboth; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o’i le y seithfed dydd. 30Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd. 31A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna: ac #Num 11:7yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a’i flas fel afrllad o fêl.
32A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Llanw omer ohono, i’w gadw i’ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlad yr Aifft. 33A Moses a ddywedodd wrth Aaron, #1 Bren 8:9; Heb 9:4Cymer grochan, a dod ynddo lonaid omer o’r manna; a gosod ef gerbron yr Arglwydd yng nghadw i’ch cenedlaethau. 34Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth. 35A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd, #Jos 5:12; Neh 9:15nes eu dyfod i dir cyfanheddol: manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan. 36A’r omer ydoedd ddegfed ran effa.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 16: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society