Actau’r Apostolion 12

12
A.D. 44. —
1 Herod yn erlid y Cristonogion; yn lladd Iago; ac yn carcharu Pedr: a’r angel yn ei waredu ef, wrth weddïau yr eglwys. 20 Herod falch, yn cymryd arno ei hun y gogoniant oedd ddyledus i Dduw; ac yn cael ei daro gan yr angel, ac yn marw yn druenus: 24 a’r eglwys yn llwyddo ar ôl ei farwolaeth ef.
1Ac ynghylch y pryd hwnnw #12:1 y dechreuodd Herod frenin ddrygu, & c.yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o’r eglwys. 2Ac efe a laddodd Iago #Mat 4:21brawd Ioan â’r cleddyf. 3A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A #Exod 23:15dyddiau’r bara croyw ydoedd hi.) 4#Ioan 21:18Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a’i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl. 5Felly Pedr a gadwyd yn y carchar: eithr gweddi #12:5 Neu, ddi‐baid, neu, ddifrif.ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef. 6A phan oedd Herod â’i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar. 7Ac wele, #Pen 5:19angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y #12:7 tŷ.carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a’i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A’i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo. 8A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, Bwrw dy wisg amdanat, a chanlyn fi. 9Ac efe a aeth allan, ac a’i canlynodd ef: ac #Salm 126:1ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. 10Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a’r ail wyliadwriaeth, hwy a ddaethant i’r porth haearn #Pen 16:26yr hwn sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o’i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un heol; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho. 11A Phedr, wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir #Dan 6:22anfon o’r Arglwydd ei angel, a’m gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwyliad pobl yr Iddewon. 12Ac wedi iddo #12:12 Neu, ystyried y peth.gymryd pwyll, #Pen 4:23efe a ddaeth i dŷ Mair mam #Pen 15:37Ioan, yr hwn oedd â’i gyfenw Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu, ac yn gweddïo. 13Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth, morwyn a ddaeth #12:13 Neu, i ymofyn pwy oedd yno.i ymwrando, a’i henw Rhode. 14A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd; eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth. 15Hwythau a ddywedasant wrthi, Yr wyt ti’n ynfydu. Hithau a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw. 16A Phedr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agori, hwy a’i gwelsant ef, ac a synasant. 17Ac efe #Pen 13:16; 19:33; 21:40a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i’r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall. 18Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Pedr. 19Eithr Herod, pan ei ceisiodd ef, ac heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchmynnodd eu #12:19 dodi hwy i farwolaeth.cymryd hwy ymaith. Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea, ac a arhosodd yno.
20Eithr Herod oedd #12:20 Neu, a’i fryd ar ryfela yn erbyn.yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon: a hwy a ddaethant yn gytûn ato; ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd #12:20 Gr. ar ystafell.ystafellydd y brenin, hwy a ddeisyfasant dangnefedd; am fod #1 Bren 5:9, 11; Esec 27:17eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin. 21Ac ar ddydd nodedig, Herod, gwedi gwisgo dillad brenhinol, a eisteddodd ar orseddfainc, ac a areithiodd wrthynt. 22A’r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw. 23Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai’r gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.
24A #Esa 55:11; Pen 6:7 19:20; Col 1:6gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd. 25A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu #Pen 11:29, 30gweinidogaeth, a ddychwelsant o Jerwsalem, #Pen 13:5, 13gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.

اکنون انتخاب شده:

Actau’r Apostolion 12: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید

ویدیوهایی برای Actau’r Apostolion 12